Mynediad i Ysgolion
Apeliadau Ysgolion
Mae’r llyfryn hwn yn darparu gwybodaeth am y broses apelio ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn unig. Yn achos Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, y Corff Llywodraethu yw’r awdurdod derbyn, ac mae’n gyfrifol am drefnu unrhyw apeliadau derbyn. Mae yna brotocol a gytunwyd yn lleol lle mae ysgolion uwchradd yn gweinyddu derbyniadau chweched dosbarth ac felly’n trefnu unrhyw apeliadau derbyn eu hunain.
Os gwrthodir lle mewn ysgol beth sy’n digwydd nesaf?
Dyrennir yr holl leoedd ysgolion yn unol â’r Cod Derbyn i Ysgolion a threfniadau derbyn y Cyngor, ac yn y mwyafrif o achosion, cynigir lleoedd yn unol â dewis rhieni. Fodd bynnag, os na chynigir lle i’ch plentyn byddwch yn cael neges e-bost ynghylch y penderfyniad yn esbonio’r rheswm. *Gwiriwch ‘ffolder sothach’ eich e-bost os nad ydych wedi cael y neges hon.
Bydd lle yn cael ei wrthod oherwydd un o’r rhesymau a ganlyn:
Niwed
Lle byddai derbyn y plentyn yn niweidio, neu’n achosi problem i’r broses gyffredinol o ddarparu addysg effeithlon neu’r defnydd effeithlon o adnoddau, trwy amharu ar yr amgylchedd dysgu yn yr ysgol a chyfyngu ar fynediad disgyblion i’r adnoddau sydd ar gael. Ymhlith y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth bennu niwed mae:-
- yr effaith ar yr ysgol o dderbyn disgyblion ychwanegol o ran trefniadaeth a maint dosbarthiadau, argaeledd staff addysgu a’r effaith ar y disgyblion sydd eisoes yn y ysgol
- yr effaith y gallai derbyn disgyblion ychwanegol ei chael ar ysgolion eraill yn yr ardal
- yr effaith y byddai derbyniad ychwanegol yn ei chael ar yr ysgol yn y flwyddyn gyfredol a’r blynyddoedd dilynol wrth i’r grŵp blwyddyn symud trwy’r ysgol
- unrhyw newidiadau a wnaed i safle corfforol neu drefniadaeth yr ysgol ers i’r nifer derbyn gael ei osod yn wreiddiol ar gyfer y grŵp blwyddyn perthnasol
- effaith unrhyw brotocolau y cytunwyd arnynt yn lleol fel y cytunwyd gan y Fforwm Derbyn.
Maint Dosbarthiadau Babanod
Mae cyfyngiadau statudol ar faint dosbarthiadau yn nodi, yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig, na chaiff dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, h.y. babanod) gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion.
Bydd enw eich plentyn yn mynd yn awtomatig ar restr aros yr ysgol am weddill y flwyddyn academaidd honno (neu tan ddiwedd yr hanner tymor yr ydych wedi gwneud cais amdano os oedd hyn ar gyfer trosglwyddiad ysgol yn ystod y flwyddyn) – neu yn achos lleoedd meithrin – tan ddiwedd blwyddyn academaidd y cyfnod meithrin. Byddwch hefyd yn cael gwybod am eich hawl i apelio (os yw’n berthnasol). Mae apeliadau’n cael eu clywed gan Banel Apêl Annibynnol, a dyma eich cyfle i wneud y Panel Apêl yn gwbl ymwybodol o holl ffeithiau eich achos.
Sylwch – nid oes hawl i apelio ynghylch derbyniadau meithrin (mae’r rhain yn lleoedd ysgol i blant nes iddynt gyrraedd oedran Derbyn/Ysgol Gynradd sy’n dechrau yn Nhymor yr Hydref yn dilyn pen- blwydd plentyn yn bedwar); nac ar gyfer plant sydd wedi’u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol.
Cwestiynau Cyffredin
Nid wyf yn siŵr a ddylwn apelio – a allaf siarad â rhywun?
Mae’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni yn cynnig gwybodaeth ddiduedd, cyngor a chymorth i deuluoedd yn Sir Benfro o ran pryderon sy’n effeithio ar addysg plant a phobl ifanc. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth i drafod eich opsiynau, gwybodaeth leol am ysgolion a, lle bo hynny’n briodol, gwasanaethau cymorth eraill.
Y rhif cyswllt yw 01437 776354 ac e-bost pps@pembrokeshire.gov.uk
Sut y mae apelio?
I wneud apêl gallwch naill ai lenwi eFfurflen Apeliadau (yn agor mewn tab newydd) neu Ysgrifennwch y Cyfarwyddwr Addysg.
Trwy’r post:
Y Cyfarwyddwr Addysg
2B, Neuadd y Sir
Hwlffordd Sir Benfro SA61 1TP
Neu trwy neges e-bost: steven.richards-downes@pembrokeshire.gov.uk
Os bydd apeliadau’n dod i law ar ôl 10 diwrnod gwaith, ni chânt eu hystyried oni bai y bu amgylchiadau eithriadol, y mae’n rhaid eu hegluro, a oedd yn golygu na ellid eu cyflwyno mewn pryd.
Beth yw’r Amserlen ar gyfer Apeliadau Derbyn?
Mae apeliadau a wneir yn ystod y broses dderbyn a amserlenwyd yn cael eu clywed cyn pen 30 diwrnod ysgol o’r dyddiad cau penodedig ar gyfer cyflwyno apeliadau – mae hyn ar gyfer ceisiadau Derbyn ac Ysgol Uwchradd. Rhaid cynnal gwrandawiadau apêl ar gyfer apeliadau a wnaed y tu allan i’r broses dderbyn a amserlenwyd cyn pen
30 diwrnod ysgol ar ôl i’r apêl ysgrifenedig ddod i law. Yn ystod gwyliau’r haf rhaid i’r awdurdodau derbyn drefnu cynnal eu hapeliadau cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r apêl ysgrifenedig ddod i law.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno apêl?
Pan fydd yr apêl yn dod i law, bydd y Cyfarwyddwr Addysg, neu ei swyddogion enwebedig yn ei hystyried. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol wedi’u nodi sy’n gwarantu dyfarnu lle, bydd penderfyniad yr Awdurdod Derbyn yn aros yr un fath a bydd eich apêl yn cael ei chyfeirio at y Gwasanaethau Cyfreithiol (sy’n gweithredu fel Clerc i’r Panel Apêl). Bydd y Gwasanaethau Cyfreithiol yn trefnu i Banel Apêl Annibynnol wrando ar yr apêl, a byddant yn gosod amser a lle ar gyfer y gwrandawiad. Fel rheol, cynhelir gwrandawiadau apêl wyneb yn wyneb yn Hwlffordd, fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, bydd angen gwneud trefniadau eraill, h.y. gwrandawiadau ar-lein.
Bydd y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i roi gwybod i chi am ddyddiad ac amser y gwrandawiad. Fel rheol, rhoddir o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg (10 diwrnod gwaith) o rybudd ysgrifenedig o’r gwrandawiad i chi.
Bydd Achos Apêl yn cael ei lunio a bydd hwn yn nodi’r dystiolaeth sy’n ymwneud â’r broses a’r pwyntiau perthnasol ynglŷn â’ch apêl, yr ysgol ddewisol, unrhyw gadarnhad o’r hawliadau a wnaed gennych chi, darpariaeth amgen bosibl ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r achos. Bydd hwn yn cael ei anfon atoch cyn y Gwrandawiad Apêl.
Mae croeso i chi ddod â ffrind, cynghorydd, cyfieithydd ar y pryd, neu arwyddwr gyda chi; fodd bynnag, bydd disgwyl i chi siarad ac ateb cwestiynau. Nid oes rhaid i chi fynd i wrandawiad yr apêl ac, yn lle hynny, gallwch adael i’r apêl gael ei hystyried ar sail datganiad ysgrifenedig. Os na fyddwch yn mynd i’r gwrandawiad, penderfynir ar yr apêl ar sail y wybodaeth sydd ar gael.
Pwy sy’n eistedd ar y Panel Apêl?
Mae aelodau’r panel yn wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn y profion cyf- reithiol y mae’n rhaid eu cymhwyso o dan y Cod Apeliadau Derbyn i Ysgolion. Mae paneli apeliadau derbyn yn annibynnol ar yr Awdurdod Derbyn ac ar ysgolion, ac yn helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng hawl rhieni i wrandawiad llawn a theg, ac amddiffyn ysgolion rhag derbyn cynifer o blant fel bod hynny’n effeithio ar addysg neu’r defnydd effeithlon o adnoddau. Mae penderfyniadau’r Panel Apêl yn gyfreithiol rwymol, sy’n golygu os yw eich apêl yn llwyddiannus, mae’n rhaid derbyn eich plentyn i’r ysgol. Bydd y Panel fel arfer yn cynnwys 3 neu 5 aelod lleyg (pobl heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol) ac unigolion sydd â phrofiad o addysg (sy’n gyfarwydd ag amodau addysgol yn ardal yr awdurdod, neu sy’n rhieni disgybl sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol arall).
Rhaid i baneli apêl annibynnol ystyried pob achos yn unigol ac ni allant gyfyngu eu hunain, ymlaen llaw, i dderbyn unrhyw nifer penodol o ddisgyblion.
Beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad apêl?
Bydd y Cadeirydd yn croesawu’r holl bartïon ac yn cyflwyno aelodau’r panel a’r clerc. Bydd y Cadeirydd hefyd yn cyflwyno cynrychiolydd neu swyddog cyflwyno’r Awdur- dod Derbyn a’r apelyddion. Bydd y weithdrefn yn cael ei hegluro’n glir ac yn syml gan y Cadeirydd, gan roi manylion y materion y bydd y panel yn mynd i’r afael â nhw ac ym mha drefn. Mae’r gwrandawiad yn gweithio mewn dau gam.
Cam 1
Mae'r Cam Ffeithiolyn ystyried a oedd rheswm cyfrei- thiol i wrthod mynediad. Bydd y panel yn gwneud y canlyno:
- Ystyried a yw'r trefniadau derbyn cyhoeddedig yn cydymffurfio â gofynion gorfodol y gyfraith
- Ystyried a gafodd trefniadau derbyn cydymffurfiol eu cymhwyso'n gywir ac yn ddiduedd yn yr achos(ion) dan sylw
- Penderfynu a fyddai unrhyw 'niwed' yn cael ei achosi pe byddai'r plentyn neu'r person
Os Ie, i'r naill neu'r llall o'r pwyntiau uwchben hyn yna symudwch i gam 2 (gweler isod)
Os Na, i'r naill neu'r llall o'r pwyntiau yna'r derbynnir y plentyn
Cam 2 Mae'r Cam Cydbwyso
Mae'r Cam Cydbwysoyn ystyried yr effaith negyddol bosibl ar yr ysgol a'i disgyblion pe byddai'r plentyn yn cael ei dderbyn, a chryfder achos y rhieni, ac yn eu 'cydbwyso' i benderfynu a ddylid derbyn y plentyn.
Yna bydd y panel yn ystyried a yw amgylchiadau unigol eich achos yn ddigonol i orbwyso'r niwed
- Caniateir yr Apêl
- Gwrthodir yr Apêl
Os caniateir yr Apêl dyrannir y lle
Os gwrthodir yr Apêl, mae'r disgybl yn parhau ar y rhestr aros. Gall y plentyn aros yn yr ysgol gyfredol neu gall y rhieni wneud cais ar gyfer ysgol arall
Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol ar y cyngor a llywodraethwyr yr ysgol.
Apeliadau nghylch Maint Dosbarthiadau Plant Bach
Mae apelladau nghylch maint dosbarthiadau plant bach y digwydd pan fydd mwy na 30 o ddisgyblion ym mhob dosbarth yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Biwyddyn 2. Bydd y panel n gwneud y canlynol:
Bydd y panel yn:
- Ystyried a yw'r terfyn maint statudol ar gyfer dosbarthiadau wedi'i grraedd.
- Ystyried a fyddai angen cymryd mesurau perthnasol i gdymffurfio a'r cyfyngiad statudol ar faint dosbarthiadau pe bair awdurdod derbyn y cytuno i dderbyn plentyn ychwanegol, e.e. cyflogi athro arall neu adeiladu ystafell adosbarth ychwanegol nail ai n y fiwyddyn dderbyn neu mewn blwyddyn ddilynol, ac a fyddai'r mesurau hyn yn niweidiol.
Os Ie, i'r naill neu'r llall o'r pwyntiau uchod
Ystyried a yw selliau A, BacC wed'u bodioni.
- Sail A: a fyddai'r plentyn wedi cael cynnig pe bai'r trefniadau derbyn i'r vsgol wedi cydymffurfio @ gofynion y Cod Derbyn (Ysgolion a/neu Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
- Sail B: a fyddai'r plentyn wed cael cynnig pe bai trefniadau derbyn sy'n cydymffurfio wed'u gweithredun briodol.
- Sail C: a oedd y benderfyniad na fyddal awdurdod derbyn rhesymol wedlI wneud o dan amgylchladaur achos.
Os Na, i'r naill neu'r llall o'r pwyntiau uchod
Ystyried yr apel fel apel 'niweidiol'.
Y camau nesaf
- Caniateir yr Apêl: Dyrennir y le.
- Gwrthodir yr Apêl: Disgybl yn parhau ar y rhestr aros. Gall y plentyn aros vn yr yscol bresennol neu gall rhieni wneud cais am ysgal arall.
Pryd y byddaf yn cael gwybod beth yw canlyniad y gwrandawiad?
Gallwch ddisgwyl clywed yn ysgrifenedig benderfyniad y Panel ynghylch eich apêl cyn pen 7-10 diwrnod gwaith ar ôl y gwrandawiad. Mae’r penderfyniad yn derfynol ac yn rhwymol ar bob parti.
Beth fydd yn digwydd os gwrthodir fy apêl?
Bydd enw eich plentyn yn aros ar y rhestr aros ar gyfer y flwyddyn academaidd beno- dol honno. Gallwch ailymgeisio am le yn yr un ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd wahanol y bydd gennych hawl apelio newydd ar ei chyfer.
A oes Ail hawl i apelio?
Yn gyffredinol, dim ond un apêl y gallwch ei chael ar gyfer ysgol yn yr un flwyddyn academaidd, fodd bynnag, gallwch gael apêl newydd os
- oedd diffygion yn yr apêl gyntaf a bod posibilrwydd sylweddol y gallai’r diffygion fod wedi effeithio ar y canlyniad neu,
- terbyniodd yr Awdurdod Derbyn gais newydd oherwydd y bu newid sylweddol a materol yn amgylchiadau’r rhiant neu’r person ifanc neu’r ysgol, ond roedd o’r farn y dylid gwrthod y cais newydd hefyd. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhesymau meddygol, neu fod y teulu wedi symud tŷ.
Rhagor o wybodaeth – Canllawiau Llywodraeth Cymru
Mae’r ‘Cod Derbyn i Ysgolion’ a’r ‘Cod Apeliadau Derbyn i Ysgolion’ wedi’u llunio gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn esbonio’r canllawiau statudol y mae’n rhaid eu dilyn wrth ddyrannu lleoedd ysgolion ym mhob ysgol gynradd, uwchradd a chanol.