Mynediad i Ysgolion
Derbyniadau i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni
Mae pecyn gwybodaeth i rieni sy'n cynnwys gwybodaeth gyffredinol am Ysgolion yn Sir Benfro, ar gael i'w lawrlwytho isod.
Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn Ysgolion ar gyfer 2023-24
Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn Ysgolion ar gyfer 2024-25
Gwybodaeth i Rieni 2023-24 2024-25
Polisi Derbyn i Ysgolion 2024/2025
Tabl y Cynnwys
1. Derbyn
4. Yr Oedran Pan All Plant Ddechrau yn yr Ysgol
5. Amserlen Derbyn – Cylchoedd Derbyn Arferol
7. Cynnig Lle Mewn Ysgol (Hysbysu Ynghylch Cynnig)
9. Ymgeisio y Tu Allan i’r Cylch Derbyn Arferol
Atodiad A – Niferoedd Derbyn Ysgolion
Atodiad b – Eithriadau i’r Ddeddfwriaeth o Ran Maint Dosbarthiadau Babanod
1. Derbyn
Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn aseinio swyddogaethau i Awdurdodau Derbyn, Paneli Apeliadau a Fforymau Derbyn mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion.
Mae dyletswydd ar bob un o’r cyrff hyn i “weithredu” yn unol â’r Cod Derbyn i Ysgolion a’r Cod Apeliadau Derbyn i Ysgolion.
2. Awdurdodau Derbyn
2.1 Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir
Yn achos Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro (yr ALl) yw’r Awdurdod Derbyn. Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Benfro fel a ganlyn:-
Y Tîm Derbyn - Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: admissions@pembrokeshire.gov.uk
Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflen derbyn ar-lein, y gellir ei chyrchu trwy wefan Cyngor Sir Penfro.
2.2 Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Yr Eglwys Yng Nghymru neu Gatholig) Corff Llywodraethu’r Ysgol yw’r Awdurdod Derbyn. Caiff ceisiadau eu gwneud ar-lein yn yr un ffordd ag uchod, a byddant yn cael eu trosglwyddo o’r Awdurdod Lleol i’r ysgol berthnasol.
2.3 Ar gyfer Ysgolion mewn Awdurdodau Cyfagos
Mae Sir Benfro’n ffinio ag awdurdodau lleol Sir Gâr a Cheredigion. Os byddwch yn dymuno i’ch plentyn fynychu ysgol yn y naill neu’r llall o’r awdurdodau hyn, yna dylech gysylltu â’r Awdurdod hwnnw yn uniongyrchol.
3. Gwybodaeth Ddefnyddiol
3.1 Y Fforwm Derbyn
Mae Fforwm Derbyn Sir Benfro’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn i drafod materion derbyn lleol. Caiff Aelodau’r ALl, Penaethiaid, Llywodraethwyr, Rhieni ac Awdurdodau Esgobaethol eu cynrychioli.
Mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro
Drwyddi draw yn y ddogfen hon, mae’r diffiniad o Rieni yn golygu’r holl bobl â chyfrifoldeb rhiant a ddiffiniwyd yn gyfreithiol ar gyfer plentyn.
3.2 Cludiant
Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol (y tymor ar ôl eu 5ed pen-blwydd) ar y sail ganlynol:
- Disgyblion o oedran cynradd sy’n byw mwy na dwy filltir o’r ysgol gynradd addas agosaf;
- Disgyblion o oedran uwchradd sy’n byw mwy na thair milltir o’r ysgol uwchradd addas agosaf.
Caiff pellter ei fesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf rhwng y cartref a’r ysgol. O’r ffordd agosaf at yr eiddo sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan y Cyngor at brif fynedfa’r ysgol.
Mae prosesau ymgeisio ar wahân ar waith ar gyfer derbyniadau i ysgolion a chludiant ysgol. Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio lle mewn ysgol a rhaid i’r awdurdod derbyn ddiwallu hynny oni bai y byddai gwneud hynny yn peryglu darparu addysg effeithlon neu’r defnydd effeithlon ar adnoddau.Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cael lle mewn ysgol fel rhan o broses derbyniadau i ysgolion yn rhoi hawl awtomatig i gael cludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol, a rhaid i rieni wirio a oes hawl gan eu plentyn i gael cludiant ysgol cyn mynegi pa ysgol y maent yn ei ffafrio. Gellir gwirio cymhwysedd am gludiant ysgol trwy ddefnyddio’r adnodd chwilio Cymhwysedd Cludiant Ysgol. Cyhoeddir Polisi Cludiant Ysgol y Cyngor ar-lein
Mae manylion cyswllt yr Uned Cludiant Integredig fel a ganlyn:
Yr Uned Cludiant Integredig
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775222
E-bost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk
3.3 Addysg Ddewisol yn y Cartref
Gall rhieni ddewis addysgu eu plant gartref hefyd. Addysg Ddewisol yn y Cartref yw’r enw ar hyn. Mae angen meddwl yn ofalus cyn penderfynu addysgu gartref, gan ei fod yn ymgymeriad sylweddol o ran ymrwymiad, amser a chost.
Cynghorir rhieni sy’n ystyried yr opsiwn hwn i gysylltu â’r Awdurdod Lleol a cheisio cyngor gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref ar 01437 764551.
3.4 Ymgynghori
Rhaid i’r ALl ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn ar eu cyfer. Mewn perthynas ag Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, rhaid i gyrff llywodraethu perthnasol ymgynghori’n flynyddol hefyd oni bai:
i. eu bod wedi ymgynghori ar eu trefniadau arfaethedig o fewn y ddwy flynedd benderfynu flaenorol,
ii. bod y trefniadau hynny’n ddigyfnewid, a
iii. na chyflwynwyd gwrthwynebiad i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u trefniadau derbyn yn y pum mlynedd cyn hynny.
4. Yr Oedran Pan All Plant Ddechrau yn yr Ysgol
4.1 Plant o Oedran Meithrin – Plant 3 Blwydd Oed
Oedran 3
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Rhagfyr 2023 - Tymor Derbyn: Gwanwyn 2024
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Mawrth 2024 - Tymor Derbyn: Haf 2024
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Awst 2024 - Tymor Derbyn: Hydref 2024
Gellir derbyn plant i Ddosbarth Meithrin yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Mewn ychydig o ysgolion mae’r dyddiad dechrau’n hwyrach oherwydd trefniadau gyda chylchoedd chwarae lleol, a nodir isod.
- 2il dymor yn unig – Aberllydan, Spittal
- 3ydd tymor yn unig – Maenclochog, Arberth, Y Garn, Tafarn Ysbyty, Tredeml, Ysgol Bro Preseli
- Dosbarth meithrin llawn-amser – Clydau, Eglwyswrw, Casmael, Yr Enw Sanctaidd
Lle nad yw ysgolion yn derbyn disgyblion rhan-amser yn y tymor yn dilyn y trydydd pen-blwydd, bydd y ceisiadau’n dal i gael eu prosesu gyda’r un garfan o blant yn ôl dyddiad geni a bydd yr Awdurdod Derbyn yn hysbysu rhieni ynghylch y dyddiad dechrau perthnasol ar gyfer yr ysgolion penodol.
Nid oes angen i rieni ymgeisio am le meithrin llawn-amser. Unwaith y mae plentyn wedi dechrau addysg feithrin ran-amser mewn ysgol, cyfrifoldeb yr ysgol fydd hysbysu’r rhieni pan fo’r plentyn yn gallu dechrau addysg feithrin lawn-amser.
Nid yw bod yn ddisgybl mewn Dosbarth Meithrin yn gwneud plentyn yn gymwys i gael ei dderbyn i’r Dosbarth Derbyn. Bydd angen i rieni wneud cais ar wahân.
Os yw rhieni’n ymgeisio am le mewn lleoliad nas cynhelir ar gyfer eu plentyn teirblwydd oed yna bydd angen iddynt gwblhau cais ar wahân trwy Dîm y Blynyddoedd Cynnar ar wefan y Cyngor yn
4.2 Plant o Oedran Cynradd – Plant 4 Blwydd Oed
Oedran 4
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Rhagfyr 2023 - Tymor Derbyn: Gwanwyn 2024
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Mawrth 2024 - Tymor Derbyn: Haf 2024
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Awst 2024 - Tymor Derbyn: Hydref 2024
Nid yw deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau yn yr ysgol tan y tymor ar ôl ei bumed pen-blwydd a gall y rhiant ohirio mynediad tan yr oedran hwnnw. Fodd bynnag, rhaid cyflwyno ceisiadau am fynediad gohiriedig erbyn yr un dyddiad cau â cheisiadau am fynediad nad yw’n cael ei ohirio.
4.3 Plant o Oedran Uwchradd – Plant 11 Mlwydd Oed
Oedran 11
- Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol: 31 Awst 2024 - Tymor Derbyn: Hydref 2024
Gwahoddir rhieni i ddisgyblion blwyddyn 6 i fynegi eu dewis ar gyfer Ysgol Uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref yn y flwyddyn cyn y trosglwyddiad.
Ni fydd disgyblion blwyddyn 6 sy’n mynychu Ysgol 3-16 ac sy’n bwriadu aros yn yr ysgol yn gorfod ymgeisio am le yn y cyfnod Uwchradd.
5. Amserlen Derbyn – Cylchoedd Derbyn Arferol
Darpariaeth |
Oedran |
Dechrau yn yr Ysgol |
Dyddiad Cau ar gyfer Ymgeisio |
Dyddiad Cynnig Lle / Hysbysu |
Dyddiad Cau ar gyfer Apelio |
Lle meithrin |
3ydd Pen-blwydd 1 Medi 2021 i 31 Awst 2022 |
Ionawr, Ebrill, Medi 2025 |
30 Ebrill 2024 |
Erbyn diwedd Gorffennaf 2024Dim Hawl i Apelio |
Dim Hawl i Apelio |
Lle derbyn (Nid oes trosglwyddiad awtomatig o’r ddarpariaeth oedran Meithrin – bydd yn ofynnol gwneud cais ar wahân). |
4ydd Pen-blwydd 1 Medi 2019 i 31 Awst 2020 |
Tymor yr hydref 2024 |
31 Ionawr 2024 |
16 Ebrill 2024 |
10 Diwrnod Gwaith ar ôl Cael y Llythyr Gwrthod |
Trosglwyddo i’r Ysgol Uwchradd (Ceisiadau ar gyfer disgyblion cynradd sy’n dechrau ym Mlwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd) |
11eg Pen-blwydd
1 Medi 2012 i 31 Awst 2013 |
Tymor yr hydref Medi 2024 |
22 Rhagfyr 2023 |
1 Mawrth 2024 10 Diwrnod Gwaith ar ôl Cael y Llythyr Gwrthod |
10 Diwrnod Gwaith ar ôl Cael y Llythyr Gwrthod |
6. Y Broses Dderbyn
6.1 Dewis Rheni
Er bod y rhan fwyaf o rieni’n anfon eu plentyn i’r ysgol agosaf, mae ganddynt hawl i fynegi dewis o blaid unrhyw ysgol yn Sir Benfro.
Gall rhieni fynegi dewis o blaid yr ysgol y maent yn ei ffafrio; fodd bynnag, nid oes gwarant y derbynnir plentyn i’r ddewis ysgol, hyd yn oed os ydynt yn byw yn y dalgylch.
Gall rhieni, ac yn achos derbyn i’r chweched dosbarth, pobl ifanc, fynegi dewis o blaid ysgol ac yn amodol ar yr eithriadau a nodir mewn deddfwriaeth, rhaid i’r awdurdod derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw. Mae’r eithriadau’n cynnwys:-
- Lle byddai cydymffurfio â’r dewis yn peryglu’r gallu i ddarparu addysg effeithlon neu ddefnyddio adnoddau’n effeithlon sydd, yn y bôn, yn golygu os nad oes digon o gapasiti ac adnoddau ar gael yn yr ysgol, ni fydd y lle'n cael ei ddarparu.
- Lle mae’r trefniadau ar gyfer mynediad i chweched dosbarth mewn ysgol yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddethol trwy gyfeirio at allu neu ddawn a lle byddai cydymffurfio â’r dewis yn anghydnaws â dethol dan y trefniadau hynny.
- Lle mae plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy a bod y gwaharddiad diweddaraf wedi digwydd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Gellir newid y dewisiadau o ran ysgolion ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau a bydd angen i rieni wneud hyn yn ysgrifenedig (i’r Tîm Derbyn) a chyflwyno cais newydd hefyd.
Bydd unrhyw newid i’r dewisiadau o ran ysgolion ar ôl y dyddiad cau’n cael ei drin fel cais hwyr. Os nad yw’r ysgol yn gallu cynnig lle yn y dewis cyntaf yna bydd yr ail ddewis yn cael ei ystyried.
6.2 Dewis Ysgol
Pa bynnag ysgol y mae rhieni’n penderfynu arni, argymhellir eu bod yn cysylltu â’u dewis ysgol(ion), yn trafod gyda hwy ac yn ymweld â hwy fel eu bod yn ymwybodol o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd y maent yn gallu eu cynnig.
6.3 Ymgeisio Am Le Mewn Ysgol
Dylai’r holl geisiadau am leoedd mewn ysgolion gael eu gwneud ar-lein trwy wefan y Cyngor Sir Benfro (ac eithrio ceisiadau am leoedd yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd, a gyflwynir yn uniongyrchol i’r ysgol).
Bydd angen i’r holl geisiadau gael eu cwblhau a’u cyflwyno erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr Amserlen Derbyn yn Adran 5. Ar ôl y dyddiad cau, bydd yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad hwnnw’n cael eu hystyried.
Anogir rhieni i ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni a rhaid iddynt gadarnhau cyfrifoldeb rhiant am y plentyn y maent yn ymgeisio am le iddo/iddi a’u bod wedi cael cytundeb yr holl bobl eraill â chyfrifoldeb rhiant i wneud hynny, cyn cwblhau’r ffurflen ar-lein. Dylid nodi yr anogir ysgolion i gynorthwyo rhieni i gwblhau’r ffurflen ar-lein os nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyfrifiadur gartref. O dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, lle nad oes gan rieni gyfeiriad e-bost, mae ffurflenni ar gael ar ffurf copïau caled gan y Tîm Derbyn.
Gall rhieni gadarnhau enw a lleoliad eu hysgol leol trwy roi cod post eu cartref i mewn i’r cyfleuster chwilio “Gwasanaethau yn eich Ardal” ar wefan Cyngor Sir Penfro. Ar ôl dewis yr union gyfeiriad ar y sgrîn ddilynol, dangosir rhestr o “Wasanaethau Agos”; bydd pwyso’r botwm “Ysgolion” yn dangos rhestr o’r holl ysgolion dalgylch ar gyfer y cyfeiriad dan sylw. Gellir cael gwybodaeth am ddalgylchoedd ysgolion o’r adran Ysgolion a Dysgu ac yna’r adran Ysgolion ar y wefan hefyd. Dangosir manylion yr holl ysgolion, yn eu clystyrau, gan gynnwys mapiau o ddalgylchoedd.
6.4 Ceisiadau Cynnar
Gall rhieni ymgeisio am le i’w plentyn mewn addysg feithrin ar unrhyw adeg ar ôl i’r plentyn gael ei eni. Bydd ceisiadau sy’n dod i law cyn y cylchoedd derbyn arferol (yn seiliedig ar ddyddiad geni’r plentyn) yn cael eu cydnabod, eu cadw ar ffeil a’u prosesu ar yr adeg briodol. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar.
6.5 Ceisiadua Hwyr
Ystyrir bod ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau’n geisiadau hwyr (oni bai bod rhesymau eithriadol) a dim ond ar ôl y rhai a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau y byddant yn cael eu hystyried. Rheswm eithriadol fyddai unrhyw sefyllfa a wnaeth atal y teulu rhag ymgeisio ar amser. Yn yr achosion hyn, dylai’r teulu gynnwys dogfennau ategol gyda’r ceisiadau e.e. lle symudodd teulu i mewn i’r Awdurdod Lleol rhwng y dyddiad cau a’r dyddiad cynnig lle, yna byddai’n ofynnol dangos tystiolaeth o newid cyfeiriad.
6.6 Dyrannu Lleoedd
Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn plant hyd at Nifer Derbyn (ND) y ddewis ysgol. Lle mae’r lle olaf a ddyrennir (hyd at y nifer derbyn) yn un i blentyn a oedd yn rhan o enedigaeth luosog yna bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y sibling arall/siblingiaid eraill hefyd.
Mae’r Nifer Derbyn (ND) yn nodi nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgol.
Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn Atodiad A: Niferoedd Derbyn Ysgolion.
Cyfrifir y nifer gan ddefnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru – ‘Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’. Mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
6.7 Meini Prawf Goralw
Bydd plant sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy’n enwi ysgol benodol yn cael eu derbyn i'r ysgol honno.
Mewn achosion lle mae nifer y ceisiadau’n uwch na’r ND yna bydd lleoedd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf goralw (a restrir yn nhrefn blaenoriaeth):
- Plant sydd, a Phlant a fu’n Derbyn Gofal gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Plant 1989 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.
- Disgyblion sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n enwi'r ysgol.
- Anghenion dysgu ychwanegol, seicolegol neu feddygol eithriadol (gweler nodyn a.).
- Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol a fydd â sibling o oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol honno ar adeg derbyn (gweler nodyn b.).
- Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sydd wedi mynychu ysgol fwydo (gweler nodyn c.).
- Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ar adeg derbyn.
- Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol a fydd â sibling o oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol ar adeg derbyn (gweler nodyn b.).
- Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol sydd wedi mynychu ysgol fwydo (gweler nodyn c.).
- Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol.
Lle mae mwy nag un plentyn yn bodloni’r meini prawf hyn a bod ymgeiswyr yn weddill o hyd yna bydd y plentyn sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael ei dderbyn. Bydd pob pellter yn cael ei fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf (gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol y Cyngor) rhwng y gât ysgol agosaf sydd ar gael a’r man lle mae cartref y plentyn yn cysylltu â’r briffordd gyhoeddus.
Ar gyfer y categorïau goralw sy’n cynnwys meini prawf sy’n ymwneud â siblingiaid (categorïau 4 a 7), os yw dewisiadau’n uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r disgyblion hynny sydd agosaf mewn oedran at y sibling ieuengaf sydd yn yr ysgol yn barod (e.e. ar gyfer derbyn i ysgol gynradd, byddai disgybl â sibling ym mlwyddyn 3 yn cael blaenoriaeth uwch na disgybl â sibling ym mlwyddyn 6; ar gyfer derbyn i ysgol uwchradd byddai disgybl â sibling ym mlwyddyn 9 yn cael blaenoriaeth uwch na disgybl â sibling ym mlwyddyn 11).
Yn achos ysgol 3-16 neu 3-19, ni fydd disgybl â sibling mewn cyfnod ar wahân yn bodloni’r meini prawf yng nghategorïau 4 a 7 yn rhinwedd y ffaith bod gan yr ysgol niferoedd derbyn ar wahân ar gyfer cyfnodau cynradd ac uwchradd (e.e. disgybl o oedran cynradd â sibling o oedran uwchradd yn yr un ysgol).
Nodiadau
Anghenion Meddygol neu Seicolegol
Gall angen meddygol neu seicolegol fod naill ai ar gyfer y plentyn neu ar gyfer ei rieni. I gael eu hystyried dan y maen prawf hwn rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth ategol annibynnol ar adeg y cais sy’n nodi pam mai’r ddewis ysgol yw’r ysgol fwyaf addas i’r plentyn a’r anawsterau a fyddai’n cael eu hachosi pe bai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol wahanol.
Mae tystiolaeth ategol a fyddai’n cael ei hystyried yn briodol yn cynnwys:
- Llythyr neu adroddiad gan un o’r gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig canlynol: Meddyg Ymgynghorol Arbenigol, Pediatrydd Cymunedol, Seicolegydd, Seicolegydd Addysg, Seiciatrydd, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol. Rhaid i’r llythyr neu adroddiad fod yn seiliedig ar wybodaeth y gweithiwr proffesiynol ei hun am gyflwr ac amgylchiadau’r plentyn / rhiant.
- Llythyr neu adroddiad gan weithiwr gwaith cymdeithasol cofrestredig y mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar ei wybodaeth ei hun am gyflwr ac amgylchiadau’r plentyn / rhiant.
Ni fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi dan y maen prawf hwn os na ddangosir y dystiolaeth ofynnol ar adeg ymgeisio.
Rhaid i Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu cadarnhau gan Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol.
Sibling
Ystyr sibling yw brawd llawn neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer neu lysfrawd neu lyschwaer, neu blant mabwysiedig neu blant maeth, sy’n byw ar yr un aelwyd ar adeg derbyn.
Ysgol Fwydo
Ystyr ysgol fwydo yw ysgol gynradd o fewn yr un ‘clwstwr o ysgolion’ ag ysgol uwchradd.
6.8 Cyfeiriad Cartref
Ystyr cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl sy’n gweithredu fel unig neu brif fan preswylio’r plentyn. Naill ai:
- 6.8.2 yn cael ei brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni’r plentyn neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant dan gytundeb rhentu ysgrifenedig.
Lle ceir cyfrifoldeb rhiant a rennir am blentyn, a bod y plentyn hwnnw’n byw gyda’r ddau riant neu’r ddau berson â chyfrifoldeb rhiant a rennir, am ran o’r wythnos, yna pennir mai’r prif fan preswylio yw’r cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y mwyafrif o’r wythnos ysgol (h.y. 3 allan o 5 diwrnod) neu’r cyfeiriad y caiff y budd-dal plant ei dalu iddo.
Ceidw’r ALl yr hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar unrhyw adeg yn ystod y broses dderbyn.
6.9 Symud Cyfeiriad
Pan fo teulu’n symud a bod rhieni’n ymgeisio am le i’w plentyn gael ei dderbyn i ysgol yn seiliedig ar eu cyfeiriad newydd gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau i wirio’r trefniadau. Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn naill ai:
- 6.9.1 Llythyr cyfreithiwr yn nodi bod y contract wedi cael ei gyfnewid ac yn nodi dyddiad cwblhau;
- 6.9.2 Cytundeb tenantiaeth gyda llofnod a dyddiad arno.
Os na ellir rhoi prawf o’r cyfeiriad newydd yna bydd y cais yn seiliedig ar y cyfeiriad cyfredol.
6.10 Derbyniadau i Ysgol Arbennig Portfield a Chanolfannau Adnoddau Dysgu Mewn Ysgolion (Unedau Atodol)
Ymdrinnir â derbyniadau i Ysgol Arbennig Portfield a Chanolfannau Adnoddau Dysgu dynodedig sydd wedi’u hatodi wrth ysgolion prif ffrwd gan Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod ar sail lefel asesedig anawsterau dysgu ac anghenion cymhleth disgyblion. Mae rhieni’n ymgeisio yn y ffordd arferol ac mae’r Gwasanaeth Derbyn yn trosglwyddo’r manylion i’r Gwasanaeth Cynhwysiant mewn achosion lle cedwir cofnod ar System Gwybodaeth Reoli’r Awdurdod Lleol.
6.11 Teuluoedd Personél Lluoedd Arfog Y Du A Gweision Eraill Y Goron (Gan Gynnwys Diplomyddion)
Mae teuluoedd personél Lluoedd Arfog y DU a Gweision eraill y Goron yn symud yn aml o fewn y DU ac o dramor, a hynny’n aml yn gymharol fyr rybudd. O ganlyniad, bydd ceisiadau am leoedd mewn ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n nesáu yn cael eu hystyried os anfonir llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyda’r cais a hwnnw’n datgan dyddiad dychwelyd. Wedyn bydd lleoedd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu os byddai’r ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd yn symud i’w gyrchfan newydd. Bydd cyfeiriadau post unedau ar gyfer ceisiadau gan bersonél y Lluoedd Arfog yn cael eu derbyn hefyd, yn niffyg cyfeiriad post newydd.
6.12 Plant Sipsiwn a Theithwyr
Mae rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i sicrhau bod yr holl blant o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg sy’n briodol i’w hoedran, galluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac sy’n hybu safonau uchel o ran darparu addysg a lles plant. Mae’r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i’r holl blant ni waeth pa un a ydynt yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Byddir yn ymdrin â cheisiadau derbyn a gyflwynir mewn perthynas â theuluoedd sipsiwn a theithwyr, gyda golwg ar leoli’r plant hyn mor gyflym â phosibl yn yr ysgol agosaf sydd ar gael ac sy’n briodol.
6.13 Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith
Os yw disgybl eisoes wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy yna gall ei riant fynegi dewis o blaid ysgol y maent yn dymuno i’w plentyn gael ei addysgu ynddi. Nid oes rhaid i’r Awdurdod Lleol gydymffurfio â’u dewis am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad eu gwaharddiad diweddaraf.
Nid yw hyn yn berthnasol i’r canlynol:-
- Plant â datganiadau o AAA/CDU.
- Plant a oedd islaw oedran ysgol gorfodol pan gawsant eu gwahardd.
- Plant a dderbyniwyd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwaharddiad parhaol.
- Plant a fyddai wedi cael eu derbyn yn ôl i’r ysgol ar ôl gwaharddiad parhaol pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny.
- Plant sydd a Phlant a fu’n Derbyn Gofal, lle gwneir y cais derbyn gan neu ar ran y rhiant corfforaethol.
6.14 Plant Sy'n Derbyn Gofal
Yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yng Nghymru neu yn Lloegr (fel y’i diffinnir gan adran 22 o Ddeddf Plant 1989 ac adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014), rhaid i'r Awdurdod Lleol perthnasol (rhiant corfforaethol) gyflwyno cais a rhaid darparu tystiolaeth ategol (Gorchymyn Gofal neu Orchymyn Gofal Dros Dro) gyda’r cais. Yn dilyn ymgynghoriad ar briodoldeb yr ysgol a enwir yng ngoleuni cefndir ac anghenion y plentyn, mae gan y Cyngor ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol a rhoi’r flaenoriaeth uchaf yn y meini prawf gordanysgrifio.
Yn achos plentyn a oedd yn arfer derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yng Nghymru neu yn Lloegr (fel y’i diffinnir gan ddogfen Cod Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru rhif 005/2013), rhaid darparu tystiolaeth ategol (llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol [cyn-riant corfforaethol]) gyda’r cais. Yn dilyn ymgynghoriad ar briodoldeb yr ysgol a enwir yng ngoleuni cefndir ac anghenion y plentyn, mae gan y Cyngor ddyletswydd i roi’r flaenoriaeth uchaf yn y meini prawf gordanysgrifio.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda fforwm Plant sy’n Derbyn Gofal/Ymadawyr Gofal Cyngor Sir Penfro a chymeradwyaeth yn dilyn hynny gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, cyfeirir yn lleol at y term ‘Plentyn sy’n Derbyn Gofal’ fel ‘Unigolyn Ifanc sy’n Derbyn Gofal’.
7. Cynnig Lle Mewn Ysgol (Hysbysu Ynghylch Cynnig)
Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon at rieni a honno’n cadarnhau, neu beidio, bod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig y cyfle iddynt dderbyn y lle.
Bydd negeseuon e-bost penderfynu mewn perthynas â cheisiadau am leoedd mewn Ysgolion Uwchradd yn cael eu hanfon ar 1 Mawrth 2024 ac mewn perthynas â cheisiadau am leoedd mewn Ysgolion Cynradd ar 16 Ebrill 2024.
Bydd angen i’r holl gynigion gael eu derbyn neu eu gwrthod gan rieni. Bydd y neges e-bost a anfonir at rieni’n cynnwys dolen a fydd yn galluogi rhieni i dderbyn neu wrthod y cynnig o fewn 21 diwrnod.
Os na dderbynnir y cynnig yna gellir tynnu’r lle yn ôl a chynnig y lle i ddisgybl arall.
7.1 Ysgol Amlsafle
Bydd cynigion ar gyfer ysgol sy’n gweithredu ar fwy nag un safle’n rhai ar gyfer yr ysgol ac nid safle penodol. Mater ar gyfer trefniadaeth fewnol yr ysgol yw’r safle y mae plant yn ei fynychu. Ni ellir apelio yn erbyn y safle a ddyrennir.
7.2 Derbyn y tu allan i'r Grŵp Oedran Arferol
Er y bydd y rhan fwyaf o blant yn cael eu derbyn i ysgol o fewn eu grŵp oedran cronolegol eu hunain, o bryd i’w gilydd mae rhieni’n ymgeisio am leoedd y tu allan i’w grŵp oedran arferol ar gyfer plant dawnus a thalentog, neu blant sydd wedi profi problemau neu wedi colli rhan o flwyddyn, yn aml oherwydd afiechyd. Er na fyddai’n briodol fel arfer i blentyn gael ei leoli mewn grŵp blwyddyn nad yw’n cyd-fynd â’i oedran cronolegol, dylai awdurdodau derbyn ystyried y ceisiadau hyn yn ofalus a gwneud penderfyniadau ar sail amgylchiadau pob achos a chan ymgynghori â’r rhieni a’r ysgol, ac yn benodol mewn perthynas â’r hyn sydd fwyaf buddiol i’r plentyn. Dylid rhoi ystyriaeth ddyladwy hefyd i adroddiad y Seicolegydd Addysg lle mae un ar gael, a dylid gallu cadarnhau rhesymau eglur dros wneud penderfyniad o’r fath.
Os penderfynir bod sail i ystyried cais ‘y tu allan i’r flwyddyn’, mae gan rieni y gwrthodwyd eu cais am le mewn ysgol hawl statudol i apelio. Fodd bynnag, nid oes hawl i apelio os cynigiwyd lle ond bod hwnnw ddim yn y grŵp blwyddyn a ddymunir.
7.3 Dechrau yn yr Ysgol
Oni bai bod rhesymau eithriadol, bydd disgwyl i blentyn ddechrau yn yr ysgol ar y dyddiad a nodir yn y cynnig. Bydd angen i achosion o oedi cyn dechrau gael eu trafod gyda’r Ysgol, gan na fydd yn bosibl cadw’r lle am gyfnod amhenodol. Bydd penderfyniadau ynglŷn â pha mor hir i gadw’r lle’n cael eu gwneud fesul achos unigol a chan ymgynghori â’r holl bartïon cysylltiedig. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd lle’n cael ei gadw am yn hwy nag un tymor.
Bydd ceisiadau sy’n dod i law fwy na thymor cyn bod angen y lle’n cael eu cydnabod a rhieni’n cael eu hysbysu y bydd y cais yn cael ei brosesu ar yr adeg briodol.
7.4 Tynnu Cynnig o le yn ôl
Bydd y cynnig o le mewn ysgol yn cael ei dynnu’n ôl ar y sail ganlynol:
- 7.4.1 Os darganfyddir yn ddiweddarach bod cais twyllodrus neu gais a oedd yn fwriadol yn gamarweiniol wedi cael ei wneud (megis cyfeiriad ffug yn agosach at yr Ysgol).
- 7.4.2 Os nad oes cadarnhad bod y lle’n cael ei dderbyn yn cael ei ddychwelyd at yr Awdurdod Lleol erbyn y dyddiad a nodir yn y cynnig.
- 7.4.3 Wrth benderfynu a fydd y lle’n cael ei dynnu’n ôl, rhaid ystyried am faint o amser yr oedd y plentyn wedi bod yn yr ysgol. Lle tynnir lle yn ôl ar sail gwybodaeth gamarweiniol, rhaid ystyried y cais o’r newydd a chynnig hawl i apelio os gwrthodir lle.
8. Ceisiadau Aflwyddiannus
8.1 Apeliadau
Bydd angen i lythyrau yn gofyn am apêl gael eu hanfon gan rieni at y Cyfarwyddwr Addysg o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad y cawsant eu hysbysu bod cais am le wedi bod yn aflwyddiannus. Bydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau derbyn yn cael eu clywed gan banel apeliadau annibynnol. Mae ffurflenni apelio a gwybodaeth am apelio i rieni ar gael ar-lein. Caiff trefniadau i’r panel apeliadau gwrdd eu gwneud trwy adran Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Penfro, a bydd apeliadau’n cael eu clywed o fewn 30 diwrnod ysgol i’r dyddiad cau penodedig ar gyfer cael apeliadau. Yn ystod gwyliau haf, bydd apeliadau’n cael eu clywed o fewn 30 diwrnod gwaith i gael yr apêl yn ysgrifenedig.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn darpariaeth feithrin anstatudol.
Nid yw gwrthodiadau’n benderfyniadau a wneir ar chwarae bach a dim ond lle mae’r nifer derbyn wedi cael ei gyrraedd a/neu lle bydd dosbarth babanod (h.y. derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2) yn mynd y tu hwnt i 30 o blant ymhob dosbarth y byddant yn cael eu gwneud. Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau gyfyngu meintiau dosbarthiadau babanod i ddim mwy na 30 o ddisgyblion. Byddai derbyn rhagor o blant yn creu anfantais o ran maint dosbarthiadau, hynny yw anfantais i addysg effeithlon neu ddefnyddio adnoddau’n effeithlon. Ni fyddai anfantais o ran maint dosbarthiadau babanod yn cael ei chanfod mewn achosion lle nad oedd nifer derbyn yr ysgol wedi cael ei gyrraedd.
Fodd bynnag, mae eithriadau i’r rheoliadau hyn (a elwir yn “ddisgyblion a eithrir”) a allai ganiatáu mynd y tu hwnt i’r terfyn o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth. Ceir rhestr lawn o’r ‘disgyblion a eithrir’ hyn yn Atodiad B.
8.2 Rhestri Aros
Bydd unrhyw blentyn nad yw wedi cael cynnig lle yn yr ysgol a nodwyd fel dewis cyntaf ar ei gyfer yn cael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn academaidd berthnasol.
Pe bai lleoedd yn dod i fod ar gael yna byddent yn cael eu dyfarnu yn unol â’r meini prawf goralw cyhoeddedig yn hytrach nag yn ôl faint o amser a fu ers cyflwyno’r ceisiadau.
Ar gyfer ceisiadau a dderbynnir y tu allan i'r rownd dderbyn arferol, cedwir rhestrau aros tan ddiwedd yr hanner tymor y gwnaed y cais amdano.
9. Yngeisio y Tu Allan i'r Cylch Derbyn Arferol
9.1 Symud i mewn i'r ardal
Dylai rhieni sy’n bwriadu symud i mewn i’r ardal gyflwyno cais yn ddim cynharach na thymor cyn dyddiad dechrau arfaethedig eu plant.
E.e. os oes angen lle yn nhymor y gwanwyn yna dylid cyflwyno’r cais yn ddim cynharach na dechrau tymor yr hydref yn union cyn hynny.
Bydd ceisiadau sy’n dod i law fwy na thymor cyn bod angen y lle’n cael eu cadw tan yr adeg briodol. Gallai oedi cyn symud i mewn i’r ardal arwain at dynnu cynigion yn ôl, oni bai y rhoddir rheswm da.
9.2 Trosglwyddo Rhwng Ysgolion yn Ystod y Flwyddyn Derbyn
Mae’n rhaid wrth ystyriaeth ddifrifol cyn newid ysgol a dylid trafod hynny’n llawn gyda Phennaeth ysgol bresennol eich plentyn yn gyntaf.
Os bydd rhieni’n dal i deimlo’r angen i drosglwyddo’u plentyn o un ysgol i’r llall yna rhaid iddynt ymgeisio trwy gyflwyno cais ar-lein a fydd yn cael ei drin yn yr un ffordd ag unrhyw gais derbyn arall.
Gall rhieni ofyn am drosglwyddiad unrhyw bryd. Fodd bynnag, oni bai mai newid cyfeiriad yw’r rheswm dros y trosglwyddiad, fel arfer dim ond ar ddechrau hanner tymor y bydd yr Awdurdod Lleol yn caniatáu trosglwyddo o un ysgol yn Sir Benfro i un arall. Mae pob cais trosglwyddo’n ddarostyngedig i’r gweithdrefnau derbyn arferol ac yn amodol ar argaeledd lleoedd yn yr ysgol y gofynnir am le ynddi.
Os gofynnir am drosglwyddiad ar unwaith a bod hynny am reswm heblaw newid cyfeiriad, cymhwysir protocol sy’n cynnwys ymwneud gan y Gwasanaeth Lles Addysg. Bydd rhieni’n cael eu gwahodd i drafod y cais trosglwyddo gyda Swyddog Lles Addysg, a fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu trosglwyddiad ar unwaith. Os na chymeradwyir trosglwyddiad ar unwaith gan y Swyddog Lles Addysg yna dim ond ar ddechrau’r hanner tymor canlynol y gall y trosglwyddiad ddigwydd.
Er mwyn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a mwy o amser i ysgolion gynllunio ar gyfer yr adeg y bydd disgyblion newydd yn cyrraedd, cynghorir bod ceisiadau i drosglwyddo ar ddechrau hanner tymor yn dod i law o leiaf un mis cyn dechrau’r hanner tymor hwnnw.
Ar ôl cytuno i gais trosglwyddo rhwng ysgolion a hysbysu’r rhieni’n ysgrifenedig, bydd angen i rieni ymateb i’r neges e-bost sy’n cynnig lle er mwyn derbyn y lle o fewn 21 diwrnod.
9.3 Lleoedd yn y Chweched Dosbarth
Mae ysgolion uwchradd Sir Benfro yn gyfrifol am weinyddu eu derbyniadau chweched dosbarth a dylid gwneud pob cais yn uniongyrchol i'r ysgol o'ch dewis.
Mae derbyniadau i’r chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd yn dod o dan ymbarél y cyngor sir yn rhinwedd y ffaith mai’r cyngor sir yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir. Fodd bynnag, mae’r trefniadau o ddydd i ddydd ar gyfer gweinyddu ceisiadau o’r fath yn gorwedd gyda’r ysgol uwchradd berthnasol. Dylai trefniadau ar gyfer derbyn i Addysg Chweched Dosbarth gael eu trafod gyda’r ysgol unigol cyn cyflwyno cais ar gyfer derbyn i’r ysgol unigol. Rhaid i bob ysgol uwchradd â chweched dosbarth gyhoeddi eu trefniadau ar gyfer derbyn i’r chweched dosbarth ar eu gwefannau, fel arfer fel rhan o’u prosbectws, a rhaid i’r rhain gynnwys y canlynol:
- Y cymwysterau TGAU a/neu gymwysterau eraill sy’n ofynnol ar gyfer mynediad;
- Ym mha fodd y dylid gwneud ceisiadau, gan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau;
- Gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd dysgwyr yn cael eu hysbysu a yw lle yn y chweched dosbarth yn cael ei roi ynteu ei wrthod;
- Gwybodaeth ynglŷn â sut y gall dysgwyr neu eu rhieni apelio yn erbyn penderfyniad yr ysgol.
Mae’n ofynnol i ysgolion uwchradd adrodd yn flynyddol wrth Fforwm Derbyn yr Awdurdod ar effeithiolrwydd eu trefniadau ar gyfer derbyn i’r chweched dosbarth.
Atodiad A – Niferoedd Derbyn Ysgolion
Ysgolion Cynradd Cymunedol
Rhif Adran Addysg |
Enw’r Ysgol |
Ystod Oedran |
Categori Iaith |
ND / Derbyn ac i fyny |
2203 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston |
3-11 |
CS |
17 |
2209 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Eglwyswrw |
4-11 |
CC |
20 |
2212 |
Ysgol Gymunedol Wdig |
3-11 |
CC |
19 |
2214 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton |
3-11 |
CS |
50 |
2220 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston |
3-11 |
CS |
30 |
2222 |
Ysgol Gynradd Llandyfái |
3-11 |
CS |
29 |
2223 |
Ysgol Gymunedol Brynconin |
3-11 |
CC |
12 |
2228 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Hook |
3-11 |
CS |
15 |
2231 |
Ysgol Llanychllwydog |
3-11 |
CC |
4 |
2233 |
Ysgol Gymunedol Maenclochog |
3-11 |
CC |
16 |
2242 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth |
3-11 |
DFf |
47 |
2243 |
Ysgol Bro Ingli |
3-11 |
CC |
15 |
2250 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Casmael |
4-11 |
CC |
10 |
2253 |
Ysgol Llandudoch |
3-11 |
CC |
20 |
2254 |
Ysgol Casblaidd |
3-11 |
CC |
5 |
2258 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot |
3-11 |
CS |
42 |
2260 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside |
3-11 |
CS |
28 |
2261 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Tredeml |
3-11 |
CS |
18 |
2266 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarn Ysbyty |
3-11 |
CS |
29 |
2270 |
Ysgol Gymunedol Croesgoch |
3-11 |
TR |
17 |
2271 |
Ysgol Gynradd Aberllydan |
3-11 |
CS |
17 |
2273 |
Ysgol Gymunedol Y Garn |
3-11 |
CS |
25 |
2384 |
Ysgol y Glannau |
3-11 |
CS |
15 |
2385 |
Ysgol Clydau |
4-11 |
CC |
10 |
2386 |
Ysgol Gymunedol Doc Penfro |
3-11 |
CS |
90 |
2387 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Cilmaen |
3-11 |
CS |
30 |
2388 |
Ysgol Gelli Aur |
3-11 |
DFf |
57 |
2389 |
Ysgol Glannau Gwaun |
3-11 |
DFf |
S12, C21 |
2391 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast |
3-11 |
CS |
64 |
2392 |
Ysgol Gymunedol Pennar |
3-11 |
CS |
38 |
2393 |
Ysgol Gymunedol Neyland |
3-11 |
CS |
47 |
2395 |
Ysgol Hafan y Môr |
3-11 |
CC |
30 |
2396 |
Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau |
3-11 |
CS |
96 |
2397 |
Ysgol Gynradd Waldo Williams |
3-11 |
CS |
37 |
2398 |
Ysgol Bro Penfro (Yn agor Medi 2024 yn amodol ar gwblhau adeiladu ysgol newydd yn llwyddiannus) |
3-11 |
WM |
30 |
Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir
Rhif Adran Addysg |
Enw’r Ysgol |
Ystod Oedran |
Categori Iaith |
ND / Derbyn ac i fyny |
3035 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru Cilgerran |
3-11 |
CC |
19 |
3036 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir Cosheston |
3-11 |
CS |
8 |
3040 |
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Bro Cleddau |
3-11 |
CS |
34 |
3042 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru Maenorbŷr |
3-11 |
CS |
12 |
3050 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru Spittal |
3-11 |
CS |
20 |
3055 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru San Fflwrens |
3-11 |
CS |
13 |
3058 |
Ysgol Ger y Llan |
3-11 |
WM |
21 |
3059 |
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru Dinbych-y-pysgod |
3-11 |
CS |
45 |
3060 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru Penrhyn |
3-11 |
CS |
17 |
3061 |
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys Yng Nghymru |
3-11 |
CS |
68 |
3-16/3-19
Rhif Adran Addysg |
Enw’r Ysgol |
Ystod Oedran |
Categori Iaith |
ND / Derbyn ac i fyny |
5500 |
Ysgol Caer Elen |
3-16 |
CC (Cyn) AB(2A) (Eil) |
Cyn 60 (90 Der), Eil 119 |
5501 |
Ysgol Bro Preseli (Yn agor ym mis Ebrill 2022) |
3-19 |
CC (Cyn) AB(2A) (Eil) |
Cyn 30, Eil 164 (Bl7-11), 104 (Bl12) |
Ysgolion Uwchradd
Rhif Adran Addysg |
Enw’r Ysgol |
Ystod Oedran |
Categori Iaith |
ND / Bl7-11 |
4031 |
Ysgol Bro Gwaun |
11-16 |
SC |
105 |
4035 |
Ysgol Greenhill |
11-19 |
CS |
207 (Bl7-11) |
4038 |
Ysgol Harri Tudur |
11-19 |
CS |
237 (Bl7-11) |
4063 |
Ysgol Aberdaugleddau |
11-16 |
CS |
252 |
4512 |
Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd |
11-19 |
CS |
310 (Bl7-11) |
Nodiadau:
- nid yw’r uchod yn cynnwys manylion ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir; mae ysgolion o’r fath yn cynnal eu trefniadau derbyn eu hunain
- Bydd y categorïau iaith yn newid erbyn i’r trefniadau hyn gael eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mawrth 2023. Bydd angen i'r categorïau newydd gael eu hadlewyrchu yn CYBLD 2024
Atodiad b – Eithriadau i’r Ddeddfwriaeth o Ran Maint Dosbarthiadau Babanod
- Plant, y mae eu datganiadau o AAA yn nodi y dylent gael eu haddysgu yn yr ysgol dan sylw, ac a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol.
- Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol (plant sy’n derbyn gofal), neu nad ydynt yn derbyn gofal mwyach (plant a fu’n derbyn gofal) o ganlyniad i gael eu mabwysiadu neu eu lleoli gyda theulu neu i gael gwarcheidwad arbennig ac a dderbynnir i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol.
- Plant y gwrthodwyd mynediad iddynt i ysgol yn wreiddiol, ond y cynigiwyd lle iddynt yn ddiweddarach y tu allan i gylch derbyn arferol trwy gyfarwyddyd panel apeliadau derbyn, neu am bod y sawl a oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad gwreiddiol yn cydnabod bod gwall wedi cael ei wneud wrth weithredu trefniadau derbyn yr ysgol.
- Plant a dderbyniwyd y tu allan i’r cylch derbyn arferol y mae’r canlynol yn wir amdanynt
- mae’r awdurdod lleol wedi cadarnhau na allant gael lle mewn unrhyw ysgol addas arall o fewn pellter rhesymol i’w cartref am eu bod wedi symud i mewn i’r ardal y tu allan i gylch derbyn arferol, neu
- eu bod yn dymuno cael addysg grefyddol, neu addysg cyfrwng Cymraeg ac mai’r ysgol dan sylw yw’r unig ysgol addas o fewn pellter rhesymol.
- Plant a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i’r cylch derbyn arferol y mae’r ysgol wedi trefnu ei dosbarthiadau ar ei ôl, ac ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol, y byddai ei effaith yn golygu y byddai’n rhaid i’r ysgol gymryd mesur perthnasol pe na bai plant o’r fath yn ddisgyblion a eithrir.
- Plant i bersonél y lluoedd arfog a dderbynnir y tu allan i’r cylch derbyn arferol.
- Plant y mae eu gefell neu sibling arall o enedigaeth luosog wedi’u derbyn fel disgyblion nas eithrir, fel y disgybl(ion) olaf y dyrennir lle iddynt cyn cyrraedd y nifer derbyn.
- Plant sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig, ond sy’n cael rhan o’u haddysg mewn ysgol brif ffrwd.
- Plant ag AAA sydd fel arfer yn cael eu haddysgu mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd, sy’n cael rhan o’u gwersi mewn dosbarth nad yw’n ddosbarth arbennig.
Bydd disgyblion a eithrir yn aros felly, unwaith y maent wedi cael eu derbyn, am weddill eu hamser mewn dosbarth babanod neu nes bod niferoedd y dosbarth yn gostwng ac y gellir eu trefnu i gydymffurfio â’r terfyn o ran maint dosbarthiadau babanod. Er enghraifft, am bod plentyn nas eithrir yn gadael y dosbarth, bod dosbarth babanod arall yn cael ei greu, neu fod athro neu athrawes arall yn cael eu penodi, yna mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl a eithrir. Rhaid trefnu dosbarthiadau er mwyn cydymffurfio â’r terfyn lle bynnag y bo’n bosibl.