Mynediad i Ysgolion

Fforwm Derbyn Sir Benfro

Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003, yn mynnu bod pob awdurdod addysg yng Nghymru yn sefydlu fforwm derbyn (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel ‘y Fforwm’). Gellir diwygio cyfansoddiad a chylch gorchwyl y Fforwm ar unrhyw adeg er mwyn cydymffurfio â newidiadau i’r ddeddfwriaeth gynradd neu’r rheoliadau.

Bydd y Fforwm yn darparu sianel gyfathrebu ffurfiol rhwng Cyngor Sir Penfro, yr ysgolion a gynhelir ganddo, awdurdodau derbyn eraill yn Sir Benfro ac eraill sydd â diddordeb mewn derbyniadau ysgolion yn rhanbarth Sir Benfro ar y cyfryw faterion sy’n ymwneud â derbyniadau ysgolion ag y gwêl Cyngor Sir Penfro yn dda ac a fydd, o bosibl, yn cael eu rhagnodi mewn rheoliadau.

Gellir sicrhau bod y Cofnodion Cyfansoddi a Chylch Gorchwyl a Fforwm ar gael ar gais i admissions@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 601, adolygwyd 20/06/2023