Mynediad i Ysgolion
Gwasanaeth Derbyn Disgyblion i Ysgol
Ym mis Ebrill 2024 roedd 60 ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu 9087 disgybl oedran cynradd llawn-amser a 872 rhan-amser, a 7041 disgybl oedran uwchradd. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdod derbyn ar gyfer Ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro ac mae'r Uned Derbyn a Chynllunio Lleoedd yn ymdrin â’r holl geisiadau am le i ysgolion a’r trosglwyddiadau, ac eithrio i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yw corf llywodraethu'r ysgol dan sylw.
Gallwch ddisgwyl:
- derbyn cyngor dibynadwy a diduedd ynglŷn ag ysgolion a mynegi dewis
- y bydd eich cais am le mewn ysgol yn cael ei drin yn deg ac yn effeithlon
- y cynigir lle ichi mewn da bryd (yn amodol ar dderbyn eich cais mewn pryd)
- lle yn yr ysgol o’ch dewis oni bai bod mwy o geisiadau na’r nifer derbyn yn caniatau mynediad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio
- derbyn gwybodaeth am agweddau allweddol ar bolisïau'r Cyngor Sir ynglŷn â derbyniadau a chludiant Ysgol
- cael gwybod sut i dderbyn prosbectws ysgol a sut i drefnu ymweliad ag ysgol a gwybodaeth berthnasol arall am ysgolion yn Sir Benfro
- gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i apelio os na roddir lle i chi yn yr Ysgol o’ch dewis
- gweithdrefn gwyno agored, teg ac effeithiol os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaethau a dderbyniwch
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag:
Adran Derbyniadau
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: derbyniadau@sir-benfro.gov.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn