Mynediad i Ysgolion

Gwneud cais am le mewn ysgol

Nodiadau: 

Rydym yn eich cynghori i e-bostio’r cyfeiriad isod er mwyn cael gwybod a fydd eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol, hynny yw cyn i chi benderfynu ar ba ysgol i anfon eich plentyn. school.transport@pembrokeshire.gov.uk

Mae newid ysgolion yn gallu bod yn brofiad anodd i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaeth dosbarthiadau. Dylid gwneud hyn pan fydd popeth arall wedi methu, ac ni ddylid ei ystyried hyd nes y rhoddwyd sylw priodol i’r holl ffyrdd posibl eraill o ddatrys problemau. Os ydych yn gwneud cais am drosglwyddo oherwydd eich bod yn pryderu ynglŷn â chynnydd eich plentyn neu oherwydd bod unrhyw broblemau yn ysgol eich plentyn, fel cam cyntaf dylech drafod y mater gyda phennaeth yr ysgol bresennol.

Gwneud cais am le mewn ysgol

ID: 8661, adolygwyd 07/11/2023