Mynwentydd
Ffioedd a Thaliadau Mynwentydd
Prynu hawl claddu unigryw 100 mlynedd
- Nesaf yn y llinach adeg y claddu (arch lawn): £1188.50
- Nesaf yn y llinach adeg y claddu (gweddillion amlosgedig yn unig):£594.00
Cloddio bedde
Dydd Llun i ddydd Gwener (18 oed a hŷn)
- Cloddio bedd (claddedigaeth gyntaf i ddyfnder sengl, dwbl neu drebl): £1004.00
- Cloddio bedd (claddedigaethau dilynol): £974.50
- Claddu gweddillion amlosgedig (claddedigaeth rydd neu mewn casged): £211.50
Yn cynnwys ailosod, gwastatáu ac aildywarchu / hadu bedd o fewn y flwyddyn gyntaf yn dilyn pob claddedigaeth.
Claddu plentyn: Dim tâl
Mae cloddio bedd pridd i dderbyn y claddedigaeth lawn neu weddillion amlosgedig plentyn o dan 18 oed yn rhad ac am ddim.
Os defnyddir yr un bedd yn ddiweddarach ar gyfer rhywun 18 oed a hŷn, bydd ffioedd am gloddio a thrwydded goffa yn berthnasol.
FFioedd claddu ychwanegol
- Trosglwyddo perchnogaeth bedd (hawl claddu unigryw): £34.50
- Ailosod neu symud cofeb sydd wedi'i difrodi: Pris ar gais
- Datgladdu gweddillion amlosgedig mewn cynhwysydd: £211.50
- Cloddu i ganiatáu datgladdu arch neu gynhwysydd gweddillion amlosgedig ar ddyfnder claddu llawn: £974.50
- Gordal ychwanegol ar gyfer cynnal claddu ar ddydd Sadwrn (claddedigaethau arch): £330.00
- Gordal ychwanegol ar gyfer cynnal claddu ar ddydd Sadwrn (gweddillion amlosgedig): £164.50
Trwyddedau coffa ar gyfer pob bedd hawl claddu unigryw a brynirm
Rhaid prynu'r hawl claddu unigryw cyn y gellir rhoi trwydded goffa.
Mae cyfuniadau o osodiadau cofeb yn mynd i ffioedd trwydded ar gyfer pob rhan o’r gofeb; mae’r ffi yn berthnasol i bawb sy’n cael eu coffáu ar y gofeb sy'n 18 oed a hŷn.
Gellir cynnal a chadw cofebion cyrbau newydd a phresennol, eu harysgrifio, a'u hadnewyddu ar sail tebyg am debyg mewn rhannau traddodiadol o'n mynwentydd.
- Gosod cofeb Heb fod yn fwy na 4 troedfedd o uchder x 3 troedfedd o led x 1 droedfedd 6" o’r blaen i’r cefn **uchder ar leiniau gweddillion amlosgedig i beidio â bod yn fwy na 2 droedfedd**: £264.00
- Gosod plac, tabled, carreg droed ac ati - Heb fod yn fwy nag 1 droedfedd o uchder x 2 droedfedd o led x 1 droedfedd 6" o’r blaen i'r cefn. Os caiff ei ychwanegu at gofeb sy'n bodoli eisoes, bydd y ffi arysgrif ychwanegol yn berthnasol: £264.00
- Gosod cyrbiau hyd llawn neu slab gorchudd bedd - Heb fod yn fwy nag 1 droedfedd o uchder x 3 troedfedd o led x 7 troedfedd o'r blaen i'r cefn: £395.00
- Gosod cyrbiau hanner hyd neu slab gorchudd bedd - Heb fod yn fwy nag 1 droedfedd o uchder x 3 troedfedd o led x 7 troedfedd o'r blaen i'r cefn : £264.00
- Gosod cyrbiau neu slab clawr bedd gyda darn pen/traed annatod - Cyrbiau heb fod yn fwy nag 1 droedfedd o uchder x 3 troedfedd o led x 7 troedfedd o'r blaen i'r cefn gyda darn pen/troed annatod hyd at 3 troedfedd o uchder yn lle un cwrbyn: £528.00
- Arysgrif ychwanegol ar gofeb sy’n bodoli eisoes: £66.00
- Adnewyddu cofeb sy’n bodoli eisoes ar sail ‘tebyg am debyg’: Dim tâl am drwydded
- Atgyweirio difrod i gofeb bresennol, neu gofeb ansefydlog: Dim tâl am drwydded