Siarter Cwsmer - Mynwentydd
Mae'r Awdurdod yn gyfrifol am reolaeth o'r mynwentydd canlynol, gan gynnwys claddedigaethau, cynnal a chadw cyffredinol, cofrestru claddedigaethau a chadw cofnodion:
- City Road, Hwlffordd;
- Deerland Road, Llangwm;
- Freystrop;
- Rhosfarced;
- Parc Llanion, Doc Penfro;
- San Mihangel, Penfro;
- Cil-maen, Penfro;
- Llanwnda, Abergwaun (Wdig);
- Lanisan-yn-Rhos;
- Nolton;
- Llanfair-Nant-y-Gof, Trecŵn
Mynwentydd
Gallwch ddisgwyl:
- y byddwn yn ymateb i unrhyw gwynion ynglŷn â chynnal a chadw’r tiroedd, agor beddi neu faterion cyffredinol sy’n ymwneud â mynwentydd, ac y byddwn yn ymchwilio ac/neu archwilio’r pryderon o fewn 1 diwrnod gwaith i’r cais;
- yn union cyn torri glaswellt, bydd sbwriel (fel blodau marw a chwythwyd yno ar y gwynt ac ati) yn cael eu clirio mas oddi ar y mannau glaswelltog;
rhwng y 1 Ebrill a’r 31 Hydref, bydd yr holl fannau glaswelltog, yn cynnwys beddau lawnt, yn cael eu torri pob pythefnos. Felly, byddant yn cael eu torri 17 o weithiau'r flwyddyn, oni bai fod y tywydd yn newid y drefn;
- bydd mannau a ddifrodwyd, fel coed, celfi, gwyndwn ac ati, yn cael eu trwsio cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu;
- ar gyfer pamau llwyni, pamau blodau a chwistrellu chwyn, bydd safonau cynnal a chadw tiroedd yn berthnasol (gweler yr adrannau cynnal a chadw tiroedd; pamau llwyni; pamau blodau; chwistrellu chwyn);
bydd beddau’n cael eu hagor yn union cyn cynnal angladd gan aflonyddu cyn lleied ag sydd bosibl ar feddau cyfagos. Bydd beddau a cherrig beddau cyfagos yn cael eu diogelu a bydd y cyn lleied ag sydd bosibl o aflonyddu ar y tir o amgylch a fydd yn cael ei adfer i’w gyflwr blaenorol cyn gynted ag y bydd y bedd wedi ei lenwi;
- bydd y gweithwyr wedi eu gwisgo’n briodol ac y sefyll wrth law yn ddigon pell i fod yn ddisylw yn ystod y gwasanaethau, rhag ofn i broblemau annisgwyl ddigwydd;
- bydd beddau’n cael eu llenwi cyn gynted ag y bydd y galarwyr wedi ymadael â’r fynwent;
- bydd unrhyw bridd sy’n weddill yn cael ei symud o’r safle a bydd blodau’n cael eu dodi ar y bedd;
- wedi pythefnos, byddwn yn bwrw golwg ar y blodau ac yn eu symud a’u dodi mewn biniau os bydd hynny’n briodol;
- gadewir i bob bedd sadio am hyd at chwe mis cyn gosod tywarchen arno neu ei hadu, os yw yn adran lawnt y fynwent. Yn ystod y cyfnod sadio hwn, caniateir blodau ac ati ar y bedd. Fodd bynnag, unwaith y bydd glaswellt drosto, ni chaniateir unrhyw fath o addurn ar y bedd ei hun. Mae sylfaen goncrit ar gael i osod blodau, carreg fedd neu debyg;
- mae biniau ar gael ym mhob mynwent ac maent yn cael eu gwagio’n rheolaidd. Mae seddau ar gael hefyd yn y rhan fwyaf o fynwentydd a gwneir gwaith cynnal a chadw arnynt ddwywaith y flwyddyn;
- bydd archwiliadau rheolaidd yn digwydd er mwyn sicrhau y cedwir y safonau uchod.
A wyddoch chi?
Mae yna raglen barhaus o brofi cadernid cofebion ar y gweill. Y gobaith yw archwilio'r holl gofebion yn ein mynwentydd dros gyfnod o bum mlynedd. Gall y prawf gynnwys defnyddio grym cymedrol yn ogystal â bwrw golwg weledol dros y cofebion. Lle bynnag y gwelir problem, cymerir camau dros dro i ddiogelu’r gofeb gan amharu cyn lleied ag sydd bosibl ar gyfanrwydd y gofeb. Yn dibynnu ar oed a chyflwr y gofeb, byddwn yn ceisio cysylltu â’r perchennog cyn gweithredu ymhellach.
Sut y gallwch chi ein helpu ni
Os ydych chi’n berchen ar fedd, neu’n meddwl y gallech chi fod, ac rydych chi wedi symud ers y cafodd y bedd ei brynu neu y bu claddu ynddo, cysylltwch â ni er mwyn i ni gael manylion eich cyfeiriad presennol. Bydd hyn yn fodd i ni roi gwybod i chi am unrhyw broblemau ynglŷn â’r bedd.
Os oes arnoch chi eisiau cysylltu â ni i roi gwybod am broblem neu wneud ymholiad, rhowch wybodaeth lawn i ni os gwelwch yn dda. Mae braslun brys bob amser yn gymorth i ddangos lleoliad ac mae’n gallu arbed amser a chamddealltwriaeth. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda am unrhyw beth a allai fod yn beryglus fel cofebion ansefydlog, caeadau draeniau sydd wedi torri neu ar goll ar lwybrau, neu unrhyw rwystrau a welwch.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu?
- Cofrestri beddau, gweithredoedd grant, trwyddedau cofeb a chynnal a chadw tir mynwentydd
Yr Arolygwr a Chofrestrydd,
Amlosgfa Parc Gwyn,
Arberth,
Sir Benfro.
SA73 2RR
Ffôn: 01834 860622
Ffacs: 01834 861309
E-bost: cemeteries@pembrokeshire.gov.uk