Eitemau nid allwn eu derbyn
- Bagiau oren - byddwch cystal â'u dodi wrth ymyl yr heol ar y diwrnod arferol y bydd eich sbwriel yn cael ei gasglu. Cofiwch beidio â defnyddio'r bagiau oren i gludo unrhyw wastraff arall i'n canolfannau, gan y bydd e'n cael ei wrthod. Gallwch ddefnyddio bagiau amldro neu gynwysyddion os bydd rhaid.
- Asbestos - am ragor o gyngor byddwch cystal â ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 neu gallwch gysylltu â chwmni sydd â thrwydded briodol ar gyfer gwaredu gwastraff.
- Cerbydau â phwysau gros o fwy na 3.5 tunnell.
- Chwyn niweidiol - fel Canclwm Siapan a Ffromlys Chwarennog
- Canghennau neu fonion coed - sy'n fwy nag 8 modfedd ar eu traws
Mae staff y safleoedd wedi cael eu cyfarwyddo a'u hawdurdodi i archwilio'r holl wastraff sy'n dod i mewn i'r safle, os oes modd yn y byd, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Byddant hefyd yn gofyn i gwsmeriaid o ble mae eu gwastraff wedi dod yn y lle cyntaf. Ar ôl i gwsmeriaid waredu eu gwastraff, bydd y gwastraff wedi hynny yn eiddo i Gyngor Sir Penfro ac ni ddylai staff y safle na'r cyhoedd ei symud bant o'r Canolfannau. Byddai unrhyw ddigwyddiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn lladrad.
Gofynnir i gwsmeriaid fod yn gwrtais tuag at staff y safleoedd a thuag at gwsmeriaid eraill. Ni chaniateir i neb ddifrïo na bygwth staff y safleoedd. Fe ddodwyd Teledu Cylch Cyfyng yn un neu ddau o'r safleoedd er diogelwch a lles iechyd y cwsmeriaid a'r staff ac er mwyn diogelu'r safle.
Os bydd eich nwyddau yn rhy swmpus i'w dodi yn eich cerbyd yna fe allwch wneud cais i'r awdurdod ddod i'w mo'yn, trwy'r Gwasanaeth Fy Nghyfrif Casglu Gwastraff Swmpus