Oes rhaid imi dalu?
Mae deiliaid tai yn cael defnyddio'r cyfleusterau, yn ddi-dâl, ar gyfer cael gwared â'r gwastraff arferol a'r nwyddau i'w hailgylchu o'u tai a'u cartrefi.
DIY* - nid yw gwastraff adeiladu ac adeiladwaith, hyd yn oed pan taw deiliaid tŷ sy'n mynd ag ef i'r ganolfan, yn cael ei ystyried yn wastraff y cartref ac felly nid yw'r Awdurdod yn gorfod ei dderbyn, yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, fe dderbynnir, yn ddi-dâl, feintiau bychan o wastraff adeiladu ac adeiladwaith gan brosiectau DIY ar raddfa fechan, sy'n cael eu gwneud gan y cyhoedd i'w tai/cartrefi eu hunain.
Ond o ran meintiau mawr, fe godir tâl amdanynt. Pa bethau aliaf i fynd â hwy i'r Canolfannau yn dangos y meintiau y gallwch eu gwaredu yn rhad ac am ddim
*Mae gwastraff DIY yn cynnwys pethau a gynhyrchwyd o ganlyniad i waith adeiladu neu adnewyddu sydd wedi eu dodi yn sownd, eu sgriwio yn dynn neu eu smentio i dŷ neu ardd.
Fe allai hynny gynnwys switiau ystafell ymolchi, drysau, ffenestri, unedau cegin, defnyddiau toi, pren saernïol, fflags, pren decin, bordiau wal, siediau gardd, sger, ffensys, teiliau a phridd.
Fe godir tâl ar gwsmeriaid masnach a busnes am eu holl wastraff ac eithrio amrywiaeth o nwyddau y gellir eu hailgylchu.