Pa bethau allaf i fynd a hwy i'r Canolfannau?
Mae'r tabl isod yn dangos y pethau hynny y gall deiliaid tai eu cymryd i'r Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Dengys hefyd a fydd rhaid iddynt dalu ffi ai peidio.
Er mwyn ein cynorthwyo i ailgylchu cymaint o bethau ag y bo modd, cofiwch ddidoli eich gwastraff a'ch nwyddau i'w hailgylchu cyn ichi ddod i'r Canolfannau, er mwyn ichi allu eu dodi yn y cynwysyddion priodol yn y Ganolfan. Os bydd rhaid, byddwch cystal â gofyn i un o‘r cynorthwywyr am help llaw os bydd arnoch gair o gyngor neu gymorth i godi a chario pethau.
Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu
Mae'r holl eitemau sydd wedi eu lliwddangos mewn gwyrdd, yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
Eitem |
Aelwydydd |
Busnesau (Dim ar hyn o bryd) |
||
Cyfyngiadau | Cyfyngiadau | |||
Batris - Batris ceir | Am Ddim | |
Annerbyniol | |
Batris - Batris domestig (Gellir rhoi'r rhain hefyd mewn bag clir i'w casglu wrth ymyl y ffordd) | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Caniau dur ac alwminiwm | Am Ddim | Am Ddim | ||
Cardbord | Am Ddim | Am Ddim | ||
Carpedi | Am Ddim | Codir Tâl - gweler y rhestr brisiau. | ||
Cartonau - Sudd ffrwythau ac ati (Tetrapak) | Am Ddim | Am Ddim | ||
Celfi | Am Ddim | Codir Tâl - gweler y rhestr brisiau. | ||
Coeden Nadolig | Am Ddim | Am Ddim | ||
Cryno-ddisgiau | Am Ddim | Am Ddim | ||
Dillad | Am Ddim | Am Ddim | ||
Esgidiau | Am Ddim | Am Ddim | ||
E-sigaréts | Am Ddim | Am Ddim | ||
Gosodiadau a ffitiadau - unedau cegina boshis, switiau ystafell ymolchi, wardrobau gosod, silffoedd, tanciau dŵr, boeleri. | Hyd at lond cist car o faint canolig (Ford Focus) neu lond ôl-gerbyd bach dwy olwyn, 4 troedfedd wrth 4 troedfedd wrth 1 troedfedd, unwaith y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau. | Codir Tâl – gweler y rhestr brisiau. | ||
Gwastraff o’r ardd - Toriadau cloddiau, coed a phrysglwyni, gwreiddiau, toriadau a chreifion porfa, dail, planhigion, blodau a chwyn (Dim canghennau na bonion sy'n fwy nag 8 modfedd/20 centimedr ar eu traws. Dylech eu torri yn hydoedd o 6 throedfedd/1.8 metr ar y mwyaf.) |
Am Ddim | Am Ddim | ||
Llyfrau | Am Ddim | Am Ddim | ||
Matresi | Am Ddim | Codir Tâl – gweler y rhestr brisiau. | ||
Metel Sgrap | Am Ddim | Am Ddim | ||
Olew coginio | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Olew peiriant cerbyd | Uchafswm o 5 litr y mis fesul cartref | Annerbyniol | ||
Paentiau, farneisiau a theneuwyr | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Papur - Papurau newydd, papur swyddfa a chylchgronau yn cynnwys ‘tudalennau melyn’, llyfrau ffôn a chatalogau (nid clawr caled) | Am Ddim | Am Ddim | ||
Plastig Cymysg - Ie poteli, tybiau,hambyrddau a photiau plastig Na plastig du neu frown, ffilm (fel ffilm glynu neu gaeadau prydau parod) papur swigod, bagiau siopa, pacedi creision, polystyren a phlastig caled | |
Am Ddim | |
Am Ddim |
Plastrfwrdd | Hyd at 3 sach - maint sach sbwriel - y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau. | Codir Tâl – y rhestr brisiau. | ||
Poteli a jariau gwydr | Am Ddim | Am Ddim | ||
Poteli nwy - Propan, Biwtan yn unig (na Doc Penfro chwaith) | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Pren - pethau fel paneli ffensys, pyst ffensys a siediau wedi eu datgymalu | Hyd at lond cist car o faint canolig (Ford Focus) neu lond ôl-gerbyd bach dwy olwyn, 4 troedfedd wrth 4 troedfedd wrth 1 troedfedd, unwaith y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau. | Codir Tâl – gweler y rhestr brisiau. | ||
Sger - Pridd, teiliau ceramig, briciau, teiliau toi, gwydr o ffenestri, crochenwaith, powliau toiled a basnau porslen | Hyd at 6 sach - maint sach sbwriel - y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau. | Codir Tâl – gweler y rhestr brisiau. | ||
Tecstilau | Am Ddim | Am Ddim | ||
Teiars - ceir yn unig | Hyd at 4 teiar y flwyddyn yn rhad ac am ddim | Annerbyniol | ||
Trydanol - Nwyddau metel gwyn, yn cynnwys oergelloedd, rhewgelloedd, ffyrnau, peiriannau golchi dillad a sychdaflwyr | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Trydanol - Tiwbiau fflwroleuol gan gynnwys bylbiau goleuni ynni isel | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Trydanol - Setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Trydanol - Nwyddau trydanol bychan fel heyrn stilo, tostwyr, sugnwyr llwch a pheiriannau sychu gwallt | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Chwynladdwyr | Am Ddim | Annerbyniol | ||
Gwelltach i anifeiliaid | Hyd at 2 sach - maint sach sbwriel - y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau. | Annerbyniol | ||
Gwastraff mewn bagiau du/na ellir ei ailgylchu | Hyd at lond cist car neu lond ôl-gerbyd bach dwy olwyn, unwaith y mis, yn rhad ac am ddim. Am fwy na hyn, fe godir tâl yn unol â'r rhestr brisiau | Codir Tâl – gweler y rhestr brisiau. | ||
Creulys – ni ellir ei chompostio, ond rhaid ei rhoi mewn bag a'i gosod yn y cynwysyddion gwastraff arferol i’w gwaredu | Hyd at 2 sach maint bag sbwriel am ddim y mis. Am fwy na hyn mae'n rhaid ichi dalu'r pris a welir ar y rhestr brisiau |
|
||
Pla-laddwyr | Am Ddim | Annerbyniol |