Niwsans Statudol
Niwsans Statudol
Beth yw Niwsans Statudol?
Mae Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 yn datgan bod rhai materion yn ‘niwsans statudol’, gan gynnwys:
- Sŵn yn dod o eiddo fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Mwg, tarthau neu nwyon yn dod o eiddo fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Eiddo yn y fath gyflwr ag i fod yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Croniadau o wastraff neu garthion sy’n niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Unrhyw anifail sy’n cael ei gadw yn fath le neu ddull ag i fod yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Sŵn sy’n niweidiol i iechyd neu’n boendod ac yn dod o neu’n cael ei achosi gan gerbyd, peirianwaith neu offer mewn stryd.
- Llwch, ager, aroglau neu ddrewdod arall yn deillio o eiddo diwydiant, masnach neu fusnes ac yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Trychfilod yn dod o eiddo diwydiant, masnach neu fusnes ac yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
- Goleuni gwneud yn dod o eiddo fel ag i fod yn niweidiol i iechyd neu’n boendod.
‘Niwsans’ yw ymyriad afresymol ac anghyfreithlon â defnydd a mwynhad pobl o’u heiddo. Fe all pobl ddioddef niwsans yn eu cartrefi neu yn eu gerddi. Yng nghyd-destun niwsans statudol, mae ‘niweidiol i iechyd’ yn fygythiad i iechyd o glefyd, fermin ac ati, ac nid anaf corfforol.
I rywbeth gymhwyso fel niwsans rhaid iddo fod yn annioddefol, nid yn unig yn annifyr neu ddiflas. Anaml y bydd digwyddiadau unigol yn ddigonol. Hefyd, nid oes modd ystyried sensitifedd penodol y rhai sy’n cwyno wrth benderfynu a yw mater yn niwsans.
ID: 2390, adolygwyd 12/09/2022