Niwsans Statudol

Beth sydd i’w wneud ynghylch Niwsans Statudol?

Yn gyntaf, mae’n ddoeth ceisio datrys y mater trwy siarad â’ch cymydog. Os ydych yn teimlo’n ddiogel yn gwneud hynny, trafodwch y broblem gyda phwy bynnag sy’n gyfrifol a dweud wrthynt am eich pryderon. Efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn eich poeni, neu heb wybod fod y broblem yn bodoli.

Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel neu’n methu siarad â’ch cymydog, neu os yw’r broblem yn parhau hyd yn oed ar ôl i chi siarad â nhw, gallwch ofyn i’r Cyngor Sir ymchwilio i’r mater. Fel arfer, bydd y Cyngor yn ysgrifennu at bwy bynnag sy’n gyfrifol am y niwsans honedig, yn eu hysbysu y cafwyd cwyn, bod y mater yn cael ei ymchwilio a gofyn iddynt sicrhau nad ydynt yn peri niwsans i ddeiliaid gerllaw. Mae manylion yr achwynydd yn gydgyfrinachol ac ni fyddant fyth yn cael eu rhannu.

Fel arfer, bydd gofyn i achwynwyr gadw cofnodion yn manylu ar ddyddiadau, amseroedd a chyfnodau’r problemau a gafwyd fel bod gan swyddogion syniad o faint y broblem. Os nad yw’r broblem yn gwella i foddhad yr achwynydd, bydd swyddog yn ceisio cael tystiolaeth o’r broblem honedig er mwyn penderfynu a oes niwsans statudol neu beidio. Ymhlith ffactorau all gael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad mae cyfnod y gweithgaredd dan sylw, pa mor aml mae’n digwydd, ar ba adegau o’r dydd y mae’n digwydd, yr effaith ar gymdogion, natur y fro, a rhesymoldeb y gweithgaredd.

Mae Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 yn rhoi pŵer i’r Cyngor roi rhybudd gostegu i bwy bynnag sy’n gyfrifol pan fydd yn fodlon bod niwsans statudol. Mae rhybuddion yn rhoi gofyniad ar bwy bynnag sy’n gyfrifol i atal y niwsans rhag digwydd / dychwelyd ac, yn gyffredinol, maent yn aros yn orfodadwy nes bydd bwy bynnag a rybuddiwyd yn gadael neu’n gwerthu’r eiddo. 

ID: 2391, adolygwyd 12/09/2022