Niwsans Statudol

Beth sy’n digwydd os bydd y niwsans yn parhau ar ôl rhoi Rhybudd Gostegu?

Os yw’r niwsans yn parhau ar ôl rhoi rhybudd, bydd angen i’r Cyngor gasglu tystiolaeth er mwyn ystyried camau cyfreithiol a/neu waith yn niffyg. Fel arfer, bydd tystiolaeth o’r fath yn golygu bod swyddog yn profi’r niwsans wrth iddo ddigwydd. Ar yr adeg hon yn yr ymchwiliad efallai y bydd gofyn i chi wneud datganiad ffurfiol a mynd i’r llys fel tyst i gynorthwyo achos y Cyngor. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â thelerau Rhybudd Gostegu. Fe all rhywun sy’n troseddu gael dirwy o hyd at £5,000 ar gollfarn yn y Llys Ynadon. Gallai busnes a gafwyd yn euog o dorri Rhybudd Gostegu fod yn agored i ddirwy o hyd at £20,000. Mewn achosion o niwsans sŵn, mae gan y Cyngor bŵer i atafaelu offer sy’n gwneud sŵn ar adegau pan fo rhagor o dystiolaeth o dorri Rhybudd

ID: 2392, adolygwyd 12/09/2022