Niwsans Statudol
Cwynion Ynghylch Aroglau
Mae modd diffinio aroglau fel gwynt sy’n ddatgeladwy. Mae pobl yn gallu goddef arogleuon yn wahanol ac, fel y cyfryw, rydym yn wynebu’r gwaith anodd o benderfynu a yw’r aroglau’n ddigon drwg i beri ‘niwsans’ neu ddim mwy nag annifyrrwch. Nid oes unrhyw ddeddfau penodol sy’n berthnasol i aroglau’n benodol, na chwaith lefel benodol sy’n ffurfio niwsans statudol. Mae amgylchiadau unigol yn gwahaniaethu, a rhaid barnu pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun. Caiff cwynion ynghylch aroglau sy’n cynnwys mwg, tarthau neu nwyon eu hymchwilio dan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990. Wrth benderfynu a yw aroglau’n peri niwsans statudol, rhaid profi bod yr aroglau:
- yn digwydd yn aml;
- yn afresymol o gryf;
- yn para am gyfnodau hir ar y tro.
Yn ymarferol, byddai’r aroglau’n gorfod bod yn broblem barhaol yn ymyrryd yn sylweddol ar ffyniant, cysur neu fwynhad eich eiddo.
Enghreifftiau o Arogleuon Penodol:
1. Arogleuon o brosesau masnachol
Mae gan unrhyw weithrediad diwydiannol neu fasnachol amddiffyniad yn erbyn niwsans statudol o’r enw amddiffyniad ‘Y Dull Ymarferol Gorau’. Mae hyn yn golygu, os ydynt yn gwneud popeth o fewn eu moddion ariannol ac o fewn cwmpas gwybodaeth dechnegol gyfredol i atal rhag achosi problem, byddai’n annhebygol gallu sefydlu niwsans statudol.
Yn achos busnes gydag awdurdodiad, cydymffurfio â’r awdurdodiad sy’n cael ei asesu yn hytrach na bodolaeth niwsans (mae prosesau awdurdodedig yn rhydd o ddeddfwriaeth niwsans).
2. Aroglau o’r tir
Wrth ddelio â chwynion perthnasol i daenu tail neu slyri ar y tir, bydd adrannau iechyd yr amgylchedd yn dilyn cyngor anffurfiol y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (MAFF), sef “y dylid aredig tail neu debyg i’r tir cyn pen 72 awr ar ôl ei daenu”. Rhaid derbyn y bydd rhywfaint o aroglau’n deillio o’r gweithgaredd hwn. Os oes arogleuon ar ôl y cyfnod hwn a’i ffynhonnell yn ganfyddadwy, fe all adrannau iechyd yr amgylchedd ddechrau ymchwil i weld a yw’n achosi niwsans statudol.