Niwsans Statudol
Cwynion Ynghylch Sŵn
Mae modd ymchwilio i’r mathau canlynol o sŵn:
- Sŵn anifeiliaid dof (e.e. cŵn yn cyfarth, ceiliogod yn clochdar)
- Cerddoriaeth / teledu uchel
- Larymau ceir / lladron
- Dadleuon / lleisiau uchel rheolaidd mewn eiddo
- Sŵn o eiddo diwydiannol / masnachol
Fel arfer nid oes modd delio â’r mathau canlynol o sŵn yn ôl darpariaethau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990:
- Sŵn oherwydd ynysu gwael rhag sŵn yn hytrach nag ymddygiad afresymol
- Plant swnllyd yn chwarae
- Crefftau Cartref ar adegau rhesymol o’r dydd
- Sŵn ffyrdd / traffig
- Defnydd arferol o daclau (e.e. peiriannau golchi, sugnwyr llwch)
Os ydych eisiau gwneud cwyn ynghylch sŵn a bod gennych ffôn clyfar / dyfais glyfar arall, efallai y gallwch lawrlwytho Yr Ap Sŵn (yr agor mewn tab newydd). Mae’r Ap Sŵn yn rhaglen graff am ddim sy’n caniatáu i’r cyhoedd gofnodi tystiolaeth o sŵn a chyflwyno recordiau i swyddogion y Cyngor eu hadolygu. Mae’r Ap Sŵn yn ddewis yn lle cofnodion papur a gall arwain at ddatrys achosion sŵn yn gyflymach. Cyn cyflwyno recordiau o’r Ap, cofiwch gysylltu â’r Cyngor i gofrestru manylion eich cwyn ynghylch sŵn.
ID: 2394, adolygwyd 22/11/2023