Nod Cynnyrch Sir Benfro

Nod Cynnyrch Sir Benfro

Pa un a ydych yn mynd mas i fwyta neu’n siopa yn lleol, cadwch eich llygaid ar agor am Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Logo y byddwch yn ei adnabod ar unwaith yw’r Nod Cynnyrch, sy’n dangos bod y cynnyrch yr ydych yn ei brynu wedi’i wneud yn Sir Benfro.

Os yw’n cael ei ddangos mewn sefydliad lletygarwch, mae’n dangos bod cynnyrch lleol yn cael ei ddefnyddio ar y fwydlen.  Bydd mannau manwerthu sy’n arddangos y Nod Cynnyrch yn gwerthu cynhyrchion yn eu siopau.

Ar hyn o bryd mae gyda chynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro fwy na 280 o aelodau.  Cyn gallu arddangos y logo, caiff yr holl aelodau eu cadarnhau er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys.

Beth yw 'Nod Cynnyrch Sir Benfro?' 
Beth mae eich cwsmeriaid yn ei ofyn? 
Beth yw manteision aelodaeth?
Beth yw'r costau aelodaeth? 
Sut fydd y cynllun yn cael ei reoli? 
Sut i wneud cais?


Beth yw 'Nod Cynnyrch Sir Benfro'?

Mae Nod Cynnyrch Sir Benfro yn nod y gellir ei adnabod ar unwaith a fydd yn rhoi gwybod i'ch cwsmeriaid bod eich cynhyrchion wedi eu gwneud yn Sir Benfro, eich bod yn defnyddio cynhwysion lleol yn eich bwydlenni neu eich bod yn gwerthu cynhyrchion lleol yn eich siop neu le gwerthu.

Mae ymchwil i'r cwsmeriaid yn dangos bod ar bobl eisiau prynu Cynnyrch Sir Benfro, ond nad yw'n ddewis hawdd oherwydd nad oes nod neilltuol i ddangos o ble mae pethau'n dod.

Bydd Nod Cynnyrch Sir Benfro yn cynnig hunaniaeth glir, yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid eu bod yn prynu cynhyrchion lleol neu bod busnesau croeso a manwerthu yn defnyddio cynhyrchion lleol


Beth mae eich cwsmeriaid yn ei ofyn?

  • 'Fe fyddwn i'n hapus iawn i brynu cynnyrch lleol ond sut fedra'i fod yn siŵr ei fod e'n wir wedi ei gynhyrchu yn Sir Benfro?'
  • ''Pa brydau ar eich bwydlen sydd wedi eu gwneud gyda chynhwysion lleol?'
  • 'Fe hoffwn i fynd â rhywbeth adre' o Sir Benfro, ond ble'r ydw i'n prynu cynhyrchion lleol?'

Bydd ymuno â'r cynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro yn gymorth i ateb y cwestiynau hyn.

Beth yw manteision aelodaeth?

  • Modd i chi ddenu rhagor o gwsmeriaid i'ch busnes 
  • Y cyfle i fod yn rhan o fentrau marchnata cydweithredol sy'n ceisio cynyddu'r   defnydd a wneir o gynhyrchion Sir Benfro  
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd a digwyddiadau yn Sir Benfro a thu fas iddi 
  • Cyfleoedd busnes newydd trwy rwydweithio a marchnata rhwng busnesau 
  • Gwaith celf Nod Cynnyrch Sir Benfro yn rhad ac am ddim 
  • Finyl ffenestri, deunydd man gwerthu a siarter cwsmer i'w dangos ar eich safle, yn egluro pwrpas Nod Cynnyrch Sir Benfro, yn rhad ac am ddim
  • Y cyfle i brynu nwyddau arbenigol gyda'r brand arnynt.

Beth yw'r costau aelodaeth?

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd.


Sut fydd y cynllun yn cael ei reoliged?

Datblygwyd Nod Cynnyrch Sir Benfro yn rhan o Fentrau Cyngor Sir Penfro.  Corff llywodraethol y cynllun felly fydd Cyngor Sir Penfro a fydd yn gyfrifol am brosesu ceisiadau, rheoli'r cynllun a gweithio gydag aelodau i hyrwyddo Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Sut i wneud cais?

1. A wnewch chi lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais a datganiad isod os gwelwch yn dda?

A'i dychwelyd hi i:

Cynllun NCSB

Adfywio

Cyngor Sir Penfro

Parth OA,

Neuadd y Sir,

Hwlffordd,

Sir Benfro SA61 1TP

Ffôn: 01437 776169 

2. Mae'n amod bod pob busnes sy'n dymuno defnyddio'r nod yn cydymffurfio â Rheoliadau Nod Cynnyrch Sir Benfro a'u bod yn llenwi a llofnodi'r ffurflenni datganiad.

3. Pan fydd wedi derbyn eich ffurflenni cais a datganiad wedi eu llenwi bydd y Swyddog Bwyd Cynorthwyol yn ymweld â'ch busnes i drafod eich cais a gweld eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

4. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn siarter cwsmer i'w harddangos yn eu mangre.

5. Er mwyn sicrhau uniondeb Nod Cynnyrch Sir Benfro bydd y Swyddog Bwyd Cynorthwyol neu'r sawl y mae hi'n ei enwebu yn cadw golwg ar aelodau'r cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

ID: 1347, adolygwyd 29/09/2022