Nod Cynnyrch Sir Benfro

Busnesau Bwyd Sir Benfro

Mae Sir Benfro yn baradwys i’r rheiny sy’n caru bwyd, gyda digonedd o gynhyrchwyr a marchnadoedd bwyd yn cynnig bwyd ffres, blasus, wedi’i baratoi’n dda.

Mae gan ein ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr lleol enw nodedig am eu cynnyrch lleol o safon uchel. Gyda hinsawdd fwyn a phridd ffrwythlon, mae’r sir yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch.

Ymlwybrwch trwy drefi a phentrefi arfordirol, lonydd gwledig a dyffrynnoedd i ymweld â’n cynhyrchwyr cyfeillgar, siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr. Galwch heibio un o’r nifer o gaffis, bwytai a thafarndai - gallwch fwynhau ychydig o’r bwyd gwych sydd ar gynnig.

Gallwch flasu bwydlenni tymhorol mewn tafarndai, caffis a bwytai, prynu cynnyrch wedi’i bigo’n ffres mewn siopau fferm, a dewis cynnyrch blasus wedi’i baratoi’n ffres yn y delicatessens.

Ewch i ymweld ag arbenigwyr cwrw crefft a’u gwylio’n bragu, mwynhewch brofiad taith fferm, archebwch le mewn arddangosiad gwneud selsig neu ewch i weld y gwenyn wrth eu gwaith yn y cychod gwenyn a gwylio camerâu’r cychod a phrynu mêl i fynd adre gyda chi.

Gallwch ddod o hyd i gelatos a sorbets gwobrwyedig, trwich amrywiaeth o winoedd, gwirodydd a dioddydd dialcohol wedi’u creu o gynnyrch gwin, coetrych a choed, neu brofi ymweliad i’r traeth i werthwr bwyd stryd symudol sydd wedi ennill amryw o wobrau am ei fwydlen bwyd mor orau, o roliau cimwch i fyrgyrs y môr a brechdanau bacwn gyda menyn Cymreig du'r môr, ynghyd â chasglu bwyd ar lan y môr a digwyddiadau picnic - mae’r dewis yn eich dwylo chi.

Pa un ai eich bod am brynu cynhwysion lleol i greu picnic neu farbeciw blasus ar lan yr afon, neu fwynhau cinio arfordirol neu bryd bwyd arbennig – mae darganfod bwyd Sir Benfro yn fodd gwych o anturio trwy’r ardal.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Joanne Welch
Swyddog Datblygu Bwyd
Ffôn: 01437 776169
E-bost: joanne.welch@sir-benfro.gov.uk

ID: 1411, adolygwyd 20/04/2023