Nod Cynnyrch Sir Benfro
Cyfarwyddiadur Bwyd a Diod Sir Benfro
Mae Sir Benfro yn bantri naturiol o ystyried amrywiaeth, ansawdd a blas y cynnyrch sydd ganddi.
Yng Nghyfeiriadur Bwyd a Diod Sir Benfro ceir arweiniad cynhwysfawr, hawdd i’w ddilyn, ynglŷn â’r cynhyrchwyr bwyd a diod yn y sir, yn amrywio o gynhyrchwyr crai hyd at y rhai hynny sy’n cynnig dewisiadau cyffrous â gwerth ychwanegol iddynt. Ar ben hynny mae’r Cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am fanwerthwyr, cyfanwerthwyr a dosbarthwyr y cynnyrch.
Mae bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn gallu chwarae rhan hanfodol bwysig, o ran rhoi rhagor o amlygrwydd i’ch busnes a’r sir yn ei chyfanrwydd. Erbyn hyn, mae ceisio ffynhonnell y cynnyrch hwn yn haws nag erioed o’r blaen.
Mae holl aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro (y Cynllun sy’n galluogi trigolion lleol ac ymwelwyr â’r ardal ill dau i fedru adnabod cynnyrch lleol nodedig) wedi’u hadnabod yn y Cyfeirlyfr.
Rydym yn gobeithio y bydd y cyfeiriadur hwn yn gallu ysbrydoli eich dull coginio, yn cynyddu eich dewis rhanbarthol, yn rhoi gwerth ychwanegol ar eich bwydlen, ac yn rhyngu bodd eich cwsmeriaid.