Nod Cynnyrch Sir Benfro
Edrychwch allan am y Nod Cynnyrch Sir Benfro
Dyma’r logo sy’n dynodi profiad gwirioneddol o Sir Benfro.
Mae Nod Cynnyrch Sir Benfro’n darparu stamp hunaniaeth sy’n adnabyddadwy ar unwaith ac yn dynodi bod: -
- y gwnaed y cynnyrch a brynwch yn Sir Benfro neu
- bod y sefydliadau croeso sy’n dangos y logo’n defnyddio cynnyrch lleol yn eu bwydlenni neu
- bod siopau sy’n dangos y logo’n gwerthu cynnyrch lleol yn y siop
Cyn gallu dangos y Nod Cynnyrch, caiff holl aelodau’r cynllun eu dilysu i sicrhau eu bod yn gymwys.
Dywedodd Joanne Welch, swyddog bwyd Cyngor Sir Penfro, ei bod wedi cael ymateb llawer o ymwelwyr oedd yn dweud faint yr oedd y Nod Cynnyrch wedi cyfrannu at eu gwyliau yn y Sir.
“Roeddent wedi bwyta cynnyrch lleol drwy gydol eu harhosiad trwy dargedu tai bwyta a siopau oedd yn dangos y Nod a phrynu cynhyrchion oedd yn dangos y logo” eglurodd.
“Wrth gwrs, mae agwedd ffyddlondeb hefyd ar brynu cynnyrch lleol. Mae wedi creu brand i bobl yn y sir sy’n ffafrio cefnogi cynhyrchwyr lleol.”
Mae 280 o Aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro.
Os teimlwch y dylai eich busnes fod yn rhan o gynllun delwedd Nod Cynnyrch Sir Benfro, neu os hoffech enwebu rhywun allai fod yn aelod, Cysylltwch â Joanne Welch ar (01437) 776169.