Nod Cynnyrch Sir Benfro

Lle mae Marchnad Ffermwyr Hwlffordd?

Cynhelir Marchnad Ffermwyr Hwlffordd yn Sgwâr y Castell, Hwlffordd, tref sirol brysur Sir Benfro, bob dydd Gwener rhwng 9am a 2pm.

Mae gan Farchnad Ffermwyr Hwlffordd ffermwyr, tyfwyr a busnesau bwyd a chrefftau lleol sy'n gwerthu eu cynnyrch/nwyddau eu hunain yn uniongyrchol i'r cwsmer.

Mae'r cynhyrchwyr yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd o safon, ynghyd â gwasanaeth cwsmeriaid da, mewn amgylchedd siopa agored a chroesawgar.

Ceir amrywiaeth eang o stondinau, gyda chymysgedd o gynhyrchwyr cynradd ac eilaidd confensiynol ac organig.

“Mae cwsmeriaid yn mwynhau profiad siopa cofiadwy mewn awyrgylch bywiog a chyfeillgar ac mae ganddynt hyder yn y cynhyrchwyr, eu cynhyrchion ac am dderbyn dewis o gynnyrch o safon yn gyson ym mhob marchnad," meddai Joanne Welch, Rheolwr y Farchnad.

“Mae prynu'n lleol yn gwneud synnwyr, nid yn economaidd yn unig, ond yn foesegol hefyd, oherwydd eich bod yn cael y cynnyrch o'r safon uchaf, mwyaf ffres, sy'n werth gwych am arian – ac sy'n blasu'n wych hefyd."

 

Holi ac ateb

Beth yw diben marchnad ffermwyr?

Rhywle y gallwch warantu cael bwyd lleol a ffres yw marchnad ffermwyr a, thrwy gefnogi eich cynhyrchwyr a ffermwyr lleol, rydych yn helpu i sicrhau eu dyfodol, cefnogi'r economi leol, a hefyd lleihau milltiroedd bwyd.

 

Pam prynu mewn marchnad ffermwyr?

Mae'r holl fwyd mewn marchnad ffermwyr yn ffres ac yn cael ei werthu gan y cynhyrchydd sydd wedi tyfu, codi, casglu neu gynhyrchu'r cynnyrch, felly gallwch ofyn cwestiynau am y cynnyrch rydych yn ei brynu.

 

A yw bwyd yn rhatach mewn marchnad ffermwyr?

Efallai na fydd yn rhatach o reidrwydd, ond byddwch yn bendant yn derbyn cynhyrchion da a ffres o safon sy'n werth yr arian.

 

Beth am safonau hylendid mewn marchnad ffermwyr?

Mae'r holl stondinwyr wedi'u cofrestru gyda'u cyngor lleol ac mae marchnadoedd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd oherwydd bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r un safonau uchel o hylendid ag unrhyw fasnachwr bwyd arall.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Joanne Welch, Swyddog Datblygu Bwyd
Ffôn: (01437) 776169
E-bost: joanne.welch@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 1402, adolygwyd 20/04/2023