Nod Cynnyrch Sir Benfro

Marchnad Ffermwyr Hwlffordd

Bob dydd Gwener 9am i 2pm

Sgwâr y Castell, Hwlffordd

Mae'n bleser gan fasnachwyr Marchnad Ffermwyr Hwlffordd gynnig y cynhyrchion cartref gorau oll i'w cwsmeriaid bob dydd Gwener yn Sgwâr y Castell rhwng 9am a 2pm.

Mae ein marchnad fywiog wedi bod ar waith ers dros 20 o flynyddoedd ac, yn yr holl amser hwnnw, mae ein masnachwyr wedi bod yn ymrwymedig i gynnig samplau o'u cynnyrch 'boed law neu hindda' i'w cwsmeriaid.

Byddwch yn sicr yn mwynhau eich profiad siopa ym Marchnad Ffermwyr Hwlffordd, lle gallwch siopa mewn awyrgylch awyr agored cyfeillgar, hamddenol a chroesawgar. 

Gallwch brynu amryw o gynnyrch hyfryd wrth ymweld â'n farchnad hefyd, o bysgod  a physgod cregyn ffres, teisennau ac eitemau popty cartref, dewis gwych o gigoedd megis cig oen, cig eidion, cig geifr a phorc, gan gynnwys opsiynau organig, cyffeithiau, cawsiau, planhigion a blodau, rygiau a blancedi alpaca, mêl, bara, llysiau, wyau, ffrwythau, anrhegion a llawer mwy.

Mae llawer o'n masnachwyr yn enillwyr gwobrau ac yn frwd dros yr hyn maent yn ei gynhyrchu a'i greu, felly peidiwch â bod ofn gofyn am eu cynnyrch a'u nwyddau – byddant yn fwy na bodlon sgwrsio am yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Mae opsiwn o dalu â cherdyn ar y rhan fwyaf o stondinau, ac mae nifer o fanciau gerllaw er mwyn gallu tynnu arian yn hawdd. 

Os hoffech archebu/trefnu dosbarthiad, neu'n dymuno archebu teisennau penodol ac ati, gofynnwch i'n stondinwyr.  Bydd llawer yn gallu gwneud hyn i chi, enwedig dros y Nadolig, pan allwch ofyn am hambyrddau bwyd môr, teisennau a phwdinau Nadolig cartref, stollen a mins peis, bocsys llysiau a basgedi bwyd … bydd eich corachod o fasnachwyr yn hapus i helpu!

Mae opsiynau di-lwten, fegan a llysieuol ar gael gan rai stondinwyr ym marchnad ffermwyr Hwlffordd

Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn o brynu cynnyrch drwy hwb bwyd Marchnad Ffermwyr Hwlffordd, lle mae llawer o’n stondinwyr yn rhestru eu cynhyrchion i’w gwerthu – ddolendewiswch eich eitemau, a threfnwch amser cyfleus i'w casglu o'r farchnad ar ddydd Gwener.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

Ewch i dudalen Facebook Marchnad Ffermwyr Hwlffordd i weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf am stondinwyr, cynnyrch, nwyddau a hyrwyddiadau (nid yw holl stondinwyr yn dod ar bob diwrnod marchnad).

 

 

 

 

 

ID: 1348, adolygwyd 22/01/2025