Nod Cynnyrch Sir Benfro

Nod Cynnyrch Sir Benfro

Pa un a ydych yn mynd mas i fwyta neu’n siopa yn lleol, cadwch eich llygaid ar agor am Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Logo y byddwch yn ei adnabod ar unwaith yw’r Nod Cynnyrch, sy’n dangos bod y cynnyrch yr ydych yn ei brynu wedi’i wneud yn Sir Benfro.

Os yw’n cael ei ddangos mewn sefydliad lletygarwch, mae’n dangos bod cynnyrch lleol yn cael ei ddefnyddio ar y fwydlen.  Bydd mannau manwerthu sy’n arddangos y Nod Cynnyrch yn gwerthu cynhyrchion yn eu siopau.

Ar hyn o bryd mae gyda chynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro fwy na 280 o aelodau.  Cyn gallu arddangos y logo, caiff yr holl aelodau eu cadarnhau er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys.

Beth yw 'Nod Cynnyrch Sir Benfro?' 
Beth mae eich cwsmeriaid yn ei ofyn? 
Beth yw manteision aelodaeth?
Beth yw'r costau aelodaeth? 
Sut fydd y cynllun yn cael ei reoli? 
Sut i wneud cais?


Beth yw 'Nod Cynnyrch Sir Benfro'?

Mae Nod Cynnyrch Sir Benfro yn nod y gellir ei adnabod ar unwaith a fydd yn rhoi gwybod i'ch cwsmeriaid bod eich cynhyrchion wedi eu gwneud yn Sir Benfro, eich bod yn defnyddio cynhwysion lleol yn eich bwydlenni neu eich bod yn gwerthu cynhyrchion lleol yn eich siop neu le gwerthu.

Mae ymchwil i'r cwsmeriaid yn dangos bod ar bobl eisiau prynu Cynnyrch Sir Benfro, ond nad yw'n ddewis hawdd oherwydd nad oes nod neilltuol i ddangos o ble mae pethau'n dod.

Bydd Nod Cynnyrch Sir Benfro yn cynnig hunaniaeth glir, yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid eu bod yn prynu cynhyrchion lleol neu bod busnesau croeso a manwerthu yn defnyddio cynhyrchion lleol


Beth mae eich cwsmeriaid yn ei ofyn?

  • 'Fe fyddwn i'n hapus iawn i brynu cynnyrch lleol ond sut fedra'i fod yn siŵr ei fod e'n wir wedi ei gynhyrchu yn Sir Benfro?'
  • ''Pa brydau ar eich bwydlen sydd wedi eu gwneud gyda chynhwysion lleol?'
  • 'Fe hoffwn i fynd â rhywbeth adre' o Sir Benfro, ond ble'r ydw i'n prynu cynhyrchion lleol?'

Bydd ymuno â'r cynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro yn gymorth i ateb y cwestiynau hyn.

Beth yw manteision aelodaeth?

  • Modd i chi ddenu rhagor o gwsmeriaid i'ch busnes 
  • Y cyfle i fod yn rhan o fentrau marchnata cydweithredol sy'n ceisio cynyddu'r   defnydd a wneir o gynhyrchion Sir Benfro  
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd a digwyddiadau yn Sir Benfro a thu fas iddi 
  • Cyfleoedd busnes newydd trwy rwydweithio a marchnata rhwng busnesau 
  • Gwaith celf Nod Cynnyrch Sir Benfro yn rhad ac am ddim 
  • Finyl ffenestri, deunydd man gwerthu a siarter cwsmer i'w dangos ar eich safle, yn egluro pwrpas Nod Cynnyrch Sir Benfro, yn rhad ac am ddim
  • Y cyfle i brynu nwyddau arbenigol gyda'r brand arnynt.

Beth yw'r costau aelodaeth?

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd.


Sut fydd y cynllun yn cael ei reoliged?

Datblygwyd Nod Cynnyrch Sir Benfro yn rhan o Fentrau Cyngor Sir Penfro.  Corff llywodraethol y cynllun felly fydd Cyngor Sir Penfro a fydd yn gyfrifol am brosesu ceisiadau, rheoli'r cynllun a gweithio gydag aelodau i hyrwyddo Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Sut i wneud cais?

1. A wnewch chi lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais a datganiad isod os gwelwch yn dda?

Cynnyrch Sir Benfro Ffurflen Gais

A'i dychwelyd hi i:

Cynllun NCSB

Adfywio

Cyngor Sir Penfro

Parth OA,

Neuadd y Sir,

Hwlffordd,

Sir Benfro SA61 1TP

Ffôn: 01437 776169 

2. Mae'n amod bod pob busnes sy'n dymuno defnyddio'r nod yn cydymffurfio â Rheoliadau Nod Cynnyrch Sir Benfro a'u bod yn llenwi a llofnodi'r ffurflenni datganiad.

3. Pan fydd wedi derbyn eich ffurflenni cais a datganiad wedi eu llenwi bydd y Swyddog Bwyd Cynorthwyol yn ymweld â'ch busnes i drafod eich cais a gweld eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

4. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn siarter cwsmer i'w harddangos yn eu mangre.

5. Er mwyn sicrhau uniondeb Nod Cynnyrch Sir Benfro bydd y Swyddog Bwyd Cynorthwyol neu'r sawl y mae hi'n ei enwebu yn cadw golwg ar aelodau'r cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

ID: 1347, adolygwyd 29/09/2022

Marchnad Ffermwyr Hwlffordd - Rhestr Masnachwyr

Nid Yw Holl Stondinwyr Yn Dod Ar Bob Diwrnod Marchnad

 

Cig A Dofednod


Church Hillbilly (Dave Church)

Ffôn: 07857 480029
E-bost: info@churchhillbilly.com
Fronrhydd, Treletert, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5TL
Cig gafr ffres o eifr sy'n cael eu magu ar ein fferm ein hunain. Pecynnau bwyd blasu o gynhyrchion cig gafr, megis stiw, cyrri neu bâte’r afu (bydd y potiau a gynigir yn amrywio dros amser a'r tymhorau).  Ceir prydau lled barod y gall cwsmeriaid eu haildwymo a’u gweini - bydd yr holl gynhwysion ychwanegol naill ai'n cael eu tyfu gartref neu o gynhyrchion lleol lle y bo'n bosibl.
Rydym yn magu haid o eifr Boer masnachol ar gyfer eu cig. Bydd yr holl gynhyrchion cig a werthir gennym yn cynnwys cig geifr o anifeiliaid a gafodd eu geni a’u magu ar ein fferm – nid ydym yn prynu unrhyw anifeiliaid i’w magu ar gyfer cig. Rydym yn falch o'r gofal a'r cariad a roddir i bob anifail yn ein haid ac yn cynnig gwerthu ein cynhyrchion fel y gall pawb 'blasu'r cariad'.

CIG Lodor Meat (Benni Thomas)

Ffôn: 01437 532277
E-bost: lodormeat@aol.co.uk / g.thomas22@sky.com
Lodor Fach, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro, SA66 7RD
Cafodd ein cig eidion Dexter cartref ei besgi 100% ar borfa, nid ei borthi ar gorn, ac yn llawn omega-3 o’r herwydd. Caiff ei ladd a’i bacio yn ein Siop Fferm yn yr un modd â’n Cig Oen Mynydd Cymru. Byddwn yn sychu cig moch a gwneud ein selsig, eidionod, ffagots, pasteiod, rholiau selsig ac wyau selsig ein hunain. Byddwn hefyd yn gwerthu cig moch, tatws, wyau, mêl, jamiau, siytni a theisenni cartref lleol a llawer mwy yn ein Siop Fferm, a gafodd yr enw “Carla’s Shop” gennym. Cadwch olwg am Gynigion Arbennig y Tymor.

Coland Rise Farm Meats (Tricia Rogers)            

Ffôn:  01437 710295
Ffôn symudol:  07526 691 805
E-bost:  welshbeefuk@gmail.com
Cas-lai, Sir Benfro, SA62 5PS
Porthir ein cig eidion cartref â glaswellt ar ein fferm hyfryd yng Nghas-lai; gan fod yr anifeiliaid yn cael eu porthi â glaswellt, ceir cig sy’n toddi yn eich ceg ac sy’n flasus ac yn frith. Mae ein cynhyrchion yn cynnwys: darnau o gig, steciau, briwgig a chig sydd wedi'i dorri yn ddarnau bach, a byrgyrs cig eidion di-lwten yw arbenigedd Tricia, sydd wedi'u creu o’i rysáit ei hun. Rydym hefyd yn hongian ein cig eidion yn ein storfa oer ar y safle. Danfonir ein hanifeiliaid at y lladd-dy lleol yn Hwlffordd, sy'n lleihau ein milltiroedd bwyd i bron i sero.

Cuckoo Mill Farm (Martin and Julie Davies)

Ffôn: 01437 762139
E-bost: juliecuckoo@aol.com
Pelcomb Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6EA
Twrcïod a chywion a fagwyd gartref.

Hazelwell Organic Farm (Paul Oeppen)

Ffôn: 01994 241099
E-bost: pauloeppen@hotmail.com
Cig eidion ac oen organig sydd wedi ennill gwobrau.  Cig eidion a chig oen o fridiau brodorol Prydeinig.

 

Pysgod A Bwyd Môr

Ocean Seafoods and Crab Shack (Allan Owston)

Ffôn:  07772121823
E-bost:  sales@oceanseafoods.co.uk
Keeston, Sir Benfro, SA62 6HL
Mae Ocean Seafoods & Crab Shack yn fusnes pysgota a bwyd teuluol. Rydym yn dal ac yn cynhyrchu amrywiaeth o fwyd môr, pysgod cregyn, pysgod ffres a chynhyrchion sy'n barod i'w bwyta.
Rydym yn croesawu archebion. Mae gwasanaeth dosbarthu ar gael.

 

Cyffeithiau

Pleasantly Pickled (Carol Vine)         

Ffôn:  07866515322
E-bost:  pleasantlypickledltd@gmail.com
9 Riverside Close, Penfro, Sir Benfro, SA71 4PZ
Amrywiaeth eang o bicls, siytni a sawsiau o safon uchel a wnaed gartref, megis nionod wedi'u piclo, betys wedi'u piclo ac wyau wedi'u piclo, picalili, a siytni Indiaidd, betys, tomato a mango, yn ogystal â basgedi a phacedi rhodd o'n cynhyrchion.

The Welsh Saucery (Kara Lewis)

Ffôn: 07974168824
E-bost: kara@thewelshsaucery.co.uk
West Ford, Trefgarn, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5LR
Sawsiau a sesnin a wnaed gartref â llaw gan ddefnyddio cynhwysion o safon.

 

Blodau

Blossoms and Berries (Clare Gray) 

Ffôn: 07554 004637
E-bost:  preseliblossoms@gmail.com
3 Taylors Row, Hermon, Sir Benfro, SA36 0DS
Ffarm flodau gynaliadwy sy'n cynhyrchu tuswau o flodau a thorchau tymhorol

 

Danteithion I'ch Anifeiliaid Anwes

The Pembrokeshire Pet Bakery (Alison Fowler & Kerry Fowler) 

Ffôn: 07974 789284
E-bost: pembspetbakery@gmail.com
1 River View, Llangwm, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4JW
Busnes teuluol yn Sir Benfro sy'n cynhyrchu danteithion cartref i'ch anifeiliaid anwes gan ddefnyddio cynhwysion sy'n 100% naturiol ac yn llysieuol.  Yn bennaf, pobi cacennau a bisgedi i gŵn yw'n harbenigedd ond rydym yn creu danteithion blasus i gathod a cheffylau hefyd.

Alpacas

Tynewydd Alpacas (Stephen and Emma Cooper) 

Symudol:  0780 663580
E-bost:  tynewyddalpaca@gmail.com
Tynewydd, Cwmfelin Boeth, Hendy-gwyn ar daf, Sir Benfro, SA34 0RR
Amrywiaeth eang o gynhyrchion gwlân meddal a phrydferth alpaca o'u buches eu hunain, gan gynnwys 'booties', scarffiau, sanau, hetiau a chynheswyr coesau - i gyd wedi eu gwneud 100% wlân naturiol alpaca.

 

Planhigion & Meithrinfeydd

Greenacre Market Garden (Leah and Sola)

Ffôn:  07871090401/07563900306
E-bost:  greenacremarketgarden@outlook.com
Folly Cross, Llanteg, SA67 8QG
Dewis da o Gennin-Pedr tymhorol a dyfwyd yn Sir Benfro (cyfanwerthu ar gael).

 

Ffrwythau A Llysiau

Blaencamel Farm (Anne Evans and Peter Segger)

Ffôn: 01570 470 529
E-bost:  anne@blaencamel.com / peter@blaencamel.com 
Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8DB
Amrywiaeth eang o lysiau organig, saladau gydol y flwyddyn, rhai ffrwythau a blodau. Hefyd, jamiau a siytni a wnaed o gynhwysion organaidd ac o'n cynnyrch ein hunain.

Popty

Anuna Craft Bakery (Andrew and Elizabeth Neagle)

Ffôn:  01545 590 490
Ffôn symudol: 07527 550 377
Capel Dewi, Llandysul, Ceredigion, SA44 4PP
E-bost:  bakery@anuna.co.uk
Becws crefftwrol sy'n cynnig bara surdoes a croissants a wnaed â llaw ac wedi'u pobi ffres ar foreau'r farchnad.  Gan ddefnyddio ein meithriniad cychwyn surdoes ein hunain, blawd organig a halen môr, mae ein bara yn cael ei wneud â llaw a’i eplesu'n araf er mwyn creu blas gwell a mwy o werth maethol.
Mae archebion cyfanwerth ar gael, a chyrsiau cyflwyniadol i surdoes o'n becws tŷ fferm.

Haverfordwest Country Markets (Helen Cecil)                  

Ffôn: 01437 890032 (HELEN CECIL)  Ffôn: 01348 811 121 (J ANNIS)
E-bost: h.cicil8@btinternet.com / jennie.annis@btinternet.com
Popehill Villa, Popehill, Johnston, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3NX
Amrywiaeth fawr o gynhyrchion melys a sawrus wedi’u pobi gartref, llysiau ffres sydd yn eu tymor, jamiau ac ati, cynhyrchion wedi'u gwau, a chymysgedd o eitemau crefft.  Rydym yn cymryd archebion ar gyfer cynhyrchion sy’n bodloni gofynion deietegol, h.y. di-lwten, fegan ac ati.

Rocky Bees (Rachael Morgan)                            

Ffôn: 07814 769718
E-bost: chefrocky88@gmail.com
48 Gwyther St, Doc Penfro, SA72 6HB
Helô! Rachael "Rocky" Morgan ydw i ac rwy'n cogydd sydd wedi'i chymhwyso a'i hyfforddi mewn ciniawa coeth.
Mae fy mwyd wedi'i ysbrydoli'n bennaf gan Sgandinafia. Rwy'n defnyddio dulliau coginio a phiclo’r rhan hon o’r byd i greu detholiad eang o brydiau parod ffres a smörgåsbords tymhorol gosod (bwydlenni blasu gosod). Rwyf hefyd yn creu detholiad o deisennau melys, teisennau crwst sawrus a bara traddodiadol tymhorol â llaw.
Mae'r cynhwysion i gyd o gyflenwyr lleol, wedi’i chwilota, neu o Brydain.

 

Llaethdy

Caws Teifi Cheese                        

Ffôn: 01239 851528
E-bost: sales@teificheese.com
Fferm Glynhynod, Ffostrasol, Llandysul, Ceredigion, SA44 5JY
Cawsiau arobryn a wnaed o laeth amrwd organig lleol.
Yn ogystal â distyllfa Da Mhile – gwirod organig a wnaed ar yr un fferm â chaws Teifi.
Hefyd, sawsiau tsili Danny. Gallwch archebu eich sawsiau tsili o chillisensation@hotmail.co.uk.

Dolwydd Dairy Sheep (Nick and Wendy Holtham)

E-bost:  defaiddolwerdd@gmail.com
Defaid Dolwerdd, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QU
Dewis o gawsiau llaeth defaid meddal, glas a gwasgedig, ynghyd â sanau ac eitemau eraill a wnaed o wlân a nyddwyd gartref ac a wauwyd â llaw gan Wendy.             

Pennsylvania Farm Free Range Eggs (Mr and Mrs Havard-Evans)

Ffôn:01437 762176
E-bost: penn_farm@yahoo.co.uk
Pennsylvania Farm, Cryndal, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4DF
Wyau sydd wedi ennill gwobrau o ieir a hwyaid sy'n cael crwydro'n rhydd - ‘Mae Ieir Hapus yn Ieir Buarth' - ‘Blaswch yr Ansawdd'.

Mêl

Old Park Apiary (George Durham)

Ffôn:  01437 710056
E-bost:  gwdurham13@btinternet.com
Old Park, Chapel Road, Keyston, Hwlffordd,  Sir Benfro, SA62 6HL
Teulu cadw gwenyn yn Sir Benfro gyda chychod gwenyn lleol, yn cynhyrchu mathau amrywiol o fêl pur o’r wlad a chynhyrchion cŵyr gwenyn fel blociau cwyr, canhwyllau a pholish.

 

Diodydd

Victoria Inn (Kate and Andrew Miller)

Ffôn:  01437 710426
E-bost:  info@thevictoriainnroch.com
Victoria Inn, Y Garn, Sir Benfro, SA62 6AW
Yn bragu dewis eang o gwrw crefft, gan gynnwys y "NewgAle" poblogaidd, sydd ar gael i flasu yn y Victoria Inn o'r gasgen yn ogystal ag mewn poteli, pecynnau rhodd a chasgenni bach.

Crefft

Pembrokeshire Beach Tree (Andrea Hill)

Ffôn: 01646 697399
Symudol:07377 552 077
E-bost: pembrokeshirebeachtree@hotmail.com
7 George Street, Milford Haven, Pembrokeshire, SA73 2AY
Dewis unigryw o anrhegion a wnaed â llaw wedi’u hailgylchu, gan ddefnyddio gwydr môr a chrochenwaith môr o draethau Sir Benfro a phren lleol wedi’i adfer.

 

ID: 1349, adolygwyd 20/04/2023

Gwneud Cais am Drwydded Marchnad Ffermwyr Hwlffordd

  • Yn unol â rheolau'r farchnad ffermwyr, mae'n rhaid i’r holl gynnyrch sy'n cael ei werthu fod wedi cael ei dyfu, ei brosesu, ei ddal, ei fragu neu ei wneud gan y cynhyrchydd.
  • Dylai'r holl gynhyrchion gwerth ychwanegol neu wedi'u prosesu gynnwys o leiaf 25% o gynhwysion lleol lle y bo'n bosib.
  • Ni chaniateir gwerthu bwyd sy’n cynnwys unrhyw gynhyrchion sydd wedi'u haddasu'n enetig. Nid oes modd gwerthu cynnyrch sydd wedi'i brynu, ac mae'n rhaid i’r stondinwr werthu'r cynnyrch a nodir ar ei gais am drwydded grŵp yn unig.
  • Yn ddelfrydol, dylai’r holl gynnyrch gael ei gynhyrchu o fewn 50 milltir i Hwlffordd.
  • Dim ond cynnyrch organig sydd wedi'i ardystio sy'n gallu cael ei fasnachu dan label organig.
  • Mae trefnydd y farchnad, Cyngor Sir Penfro, yn cadw'r hawl i ohirio cais yn seiliedig ar gynnal cydbwysedd stondinwyr yn y farchnad ffermwyr. Rhoddir mantais i gynhyrchwyr sydd fwyaf lleol i'r farchnad, os bydd dyblygiad o ran ceisiadau ar unrhyw adeg.
  • Dim ond y cynhyrchydd, ei deulu, gweithiwr, neu gynrychiolydd y busnes/grŵp sy'n ymwneud yn uniongyrchol â thyfu/cynhyrchu'r cynnyrch sydd ar werth sy'n cael gwerthu cynnyrch.
  • Gall sefydliadau tyfwyr lleol, cydweithfeydd neu sefydliadau ymbarél (e.e. Country Markets) benodi cynrychiolydd i werthu cynnyrch ar y cyd ar stondin. Yn yr achosion hyn, dylai'r holl gynnyrch fod â label sy'n cynnwys enw a chyfeiriad y cynhyrchydd.
  • Mae'n rhaid i'r holl fasnachwyr sy'n mynd i Farchnad Ffermwyr Hwlffordd gael eu sgorio ar safon sy’n cydymffurfio’n fras, sef sgôr o 3 neu'n uwch ar y cynllun sgorio hylendid bwyd.
  • Mae'n rhaid i'r holl fasnachwyr feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chynnyrch o o leiaf £2 filiwn.
  • Mae'n rhaid i stondinau a chynnyrch gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth bwyd o ran hylendid, labeli, y gallu i olrhain, a chyfansoddiadau.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Joanne Welch, Swyddog Datblygu Bwyd
Ffôn: (01437) 776169
E-bost: joanne.welch@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1353, adolygwyd 20/04/2023

Edrychwch allan am y Nod Cynnyrch Sir Benfro

Dyma’r logo sy’n dynodi profiad gwirioneddol o Sir Benfro.

Mae Nod Cynnyrch Sir Benfro’n darparu stamp hunaniaeth sy’n adnabyddadwy ar unwaith ac yn dynodi bod: -

  • y gwnaed y cynnyrch a brynwch yn Sir Benfro neu 
  • bod y sefydliadau croeso sy’n dangos y logo’n defnyddio cynnyrch lleol yn eu bwydlenni neu 
  • bod siopau sy’n dangos y logo’n gwerthu cynnyrch lleol yn y siop

Cyn gallu dangos y Nod Cynnyrch, caiff holl aelodau’r cynllun eu dilysu i sicrhau eu bod yn gymwys.

Dywedodd Joanne Welch, swyddog bwyd Cyngor Sir Penfro, ei bod wedi cael ymateb llawer o ymwelwyr oedd yn dweud faint yr oedd y Nod Cynnyrch wedi cyfrannu at eu gwyliau yn y Sir.

“Roeddent wedi bwyta cynnyrch lleol drwy gydol eu harhosiad trwy dargedu tai bwyta a siopau oedd yn dangos y Nod a phrynu cynhyrchion oedd yn dangos y logo” eglurodd.

“Wrth gwrs, mae agwedd ffyddlondeb hefyd ar brynu cynnyrch lleol. Mae wedi creu brand i bobl yn y sir sy’n ffafrio cefnogi cynhyrchwyr lleol.”

Mae 280 o Aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Os teimlwch y dylai eich busnes fod yn rhan o gynllun delwedd Nod Cynnyrch Sir Benfro, neu os hoffech enwebu rhywun allai fod yn aelod, Cysylltwch â Joanne Welch ar (01437) 776169.

ID: 1356, adolygwyd 20/04/2023

Lle mae Marchnad Ffermwyr Hwlffordd?

Cynhelir Marchnad Ffermwyr Hwlffordd yn Sgwâr y Castell, Hwlffordd, tref sirol brysur Sir Benfro, bob dydd Gwener rhwng 9am a 2pm.

Mae gan Farchnad Ffermwyr Hwlffordd ffermwyr, tyfwyr a busnesau bwyd a chrefftau lleol sy'n gwerthu eu cynnyrch/nwyddau eu hunain yn uniongyrchol i'r cwsmer.

Mae'r cynhyrchwyr yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd o safon, ynghyd â gwasanaeth cwsmeriaid da, mewn amgylchedd siopa agored a chroesawgar.

Ceir amrywiaeth eang o stondinau, gyda chymysgedd o gynhyrchwyr cynradd ac eilaidd confensiynol ac organig.

“Mae cwsmeriaid yn mwynhau profiad siopa cofiadwy mewn awyrgylch bywiog a chyfeillgar ac mae ganddynt hyder yn y cynhyrchwyr, eu cynhyrchion ac am dderbyn dewis o gynnyrch o safon yn gyson ym mhob marchnad," meddai Joanne Welch, Rheolwr y Farchnad.

“Mae prynu'n lleol yn gwneud synnwyr, nid yn economaidd yn unig, ond yn foesegol hefyd, oherwydd eich bod yn cael y cynnyrch o'r safon uchaf, mwyaf ffres, sy'n werth gwych am arian – ac sy'n blasu'n wych hefyd."

 

Holi ac ateb

Beth yw diben marchnad ffermwyr?

Rhywle y gallwch warantu cael bwyd lleol a ffres yw marchnad ffermwyr a, thrwy gefnogi eich cynhyrchwyr a ffermwyr lleol, rydych yn helpu i sicrhau eu dyfodol, cefnogi'r economi leol, a hefyd lleihau milltiroedd bwyd.

 

Pam prynu mewn marchnad ffermwyr?

Mae'r holl fwyd mewn marchnad ffermwyr yn ffres ac yn cael ei werthu gan y cynhyrchydd sydd wedi tyfu, codi, casglu neu gynhyrchu'r cynnyrch, felly gallwch ofyn cwestiynau am y cynnyrch rydych yn ei brynu.

 

A yw bwyd yn rhatach mewn marchnad ffermwyr?

Efallai na fydd yn rhatach o reidrwydd, ond byddwch yn bendant yn derbyn cynhyrchion da a ffres o safon sy'n werth yr arian.

 

Beth am safonau hylendid mewn marchnad ffermwyr?

Mae'r holl stondinwyr wedi'u cofrestru gyda'u cyngor lleol ac mae marchnadoedd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd oherwydd bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r un safonau uchel o hylendid ag unrhyw fasnachwr bwyd arall.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Joanne Welch, Swyddog Datblygu Bwyd
Ffôn: (01437) 776169
E-bost: joanne.welch@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 1402, adolygwyd 20/04/2023

Busnesau Bwyd Sir Benfro

Mae Sir Benfro yn baradwys i’r rheiny sy’n caru bwyd, gyda digonedd o gynhyrchwyr a marchnadoedd bwyd yn cynnig bwyd ffres, blasus, wedi’i baratoi’n dda.

Mae gan ein ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr lleol enw nodedig am eu cynnyrch lleol o safon uchel. Gyda hinsawdd fwyn a phridd ffrwythlon, mae’r sir yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch.

Ymlwybrwch trwy drefi a phentrefi arfordirol, lonydd gwledig a dyffrynnoedd i ymweld â’n cynhyrchwyr cyfeillgar, siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr. Galwch heibio un o’r nifer o gaffis, bwytai a thafarndai - gallwch fwynhau ychydig o’r bwyd gwych sydd ar gynnig.

Gallwch flasu bwydlenni tymhorol mewn tafarndai, caffis a bwytai, prynu cynnyrch wedi’i bigo’n ffres mewn siopau fferm, a dewis cynnyrch blasus wedi’i baratoi’n ffres yn y delicatessens.

Ewch i ymweld ag arbenigwyr cwrw crefft a’u gwylio’n bragu, mwynhewch brofiad taith fferm, archebwch le mewn arddangosiad gwneud selsig neu ewch i weld y gwenyn wrth eu gwaith yn y cychod gwenyn a gwylio camerâu’r cychod a phrynu mêl i fynd adre gyda chi.

Gallwch ddod o hyd i gelatos a sorbets gwobrwyedig, trwich amrywiaeth o winoedd, gwirodydd a dioddydd dialcohol wedi’u creu o gynnyrch gwin, coetrych a choed, neu brofi ymweliad i’r traeth i werthwr bwyd stryd symudol sydd wedi ennill amryw o wobrau am ei fwydlen bwyd mor orau, o roliau cimwch i fyrgyrs y môr a brechdanau bacwn gyda menyn Cymreig du'r môr, ynghyd â chasglu bwyd ar lan y môr a digwyddiadau picnic - mae’r dewis yn eich dwylo chi.

Pa un ai eich bod am brynu cynhwysion lleol i greu picnic neu farbeciw blasus ar lan yr afon, neu fwynhau cinio arfordirol neu bryd bwyd arbennig – mae darganfod bwyd Sir Benfro yn fodd gwych o anturio trwy’r ardal.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Joanne Welch
Swyddog Datblygu Bwyd
Ffôn: 01437 776169
E-bost: joanne.welch@sir-benfro.gov.uk

ID: 1411, adolygwyd 20/04/2023

Rhestri Busnesau Bwyd

Bydd rhestriadau’r Canllaw Bwyd ar gael yn barhaol ar ein gwefan, ac wedi’i gysylltu â’r gwefannau twristiaeth gan gynnwys Visit Pembrokeshire (yn agor mewn tab newydd), gan ei gwneud yn hawdd diweddaru/golygu cofnodion pan fo angen.

Bydd y rhestriad hefyd am ddim.

Mae gwahoddiad i dderbyn rhestriad yn y canllaw ond ar gael i Aelodau Cynnyrch Sir Benfro, er mwyn sicrhau y cynhelir safon y canllaw.

Beth fydd hysbysebu yng Nghanllaw Bwyd Sir Benfro yn ei gynnig i’ch busnes?

  • Rhestriad sy’n parhau ar-lein yn barhaol, y gellir ei addasu neu ei newid yn syth.
  • Hyrwyddo’r rhestriad mewn gwyliau bwyd, digwyddiadau, marchnadoedd ac arddangosiadau a fynychir yn genedlaethol neu’n lleol.
  • Hysbysebion yn amlygu’r rhestriadau Bwyd ar wefannau twristiaeth ac mewn cyhoeddiadau twristiaeth lleol.
  • Brandio gwell trwy’r Cynllun Marchnata Cynnyrch Sir Benfro, a fydd yn cysylltu eich busnes gyda bwyd a diod ffres sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol. Gan fod diddordeb cwsmeriaid mewn bwyd wedi cynyddu’n fawr, mae hyn yn fudd marchnata o werth ychwanegol i chi, ynghyd â gwella profiad yr ymwelwyr.
  • Bydd rhestriad terfynol ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro gyda chysylltiadau gwych i safleoedd megis Visit Pembrokeshire.

 

ID: 1414, adolygwyd 27/09/2024

Cyfarwyddiadur Bwyd a Diod Sir Benfro

Mae Sir Benfro yn bantri naturiol o ystyried amrywiaeth, ansawdd a blas y cynnyrch sydd ganddi.

Yng Nghyfeiriadur Bwyd a Diod Sir Benfro ceir arweiniad cynhwysfawr, hawdd i’w ddilyn, ynglŷn â’r cynhyrchwyr bwyd a diod yn y sir, yn amrywio o gynhyrchwyr crai hyd at y rhai hynny sy’n cynnig dewisiadau cyffrous â gwerth ychwanegol iddynt. Ar ben hynny mae’r Cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am fanwerthwyr, cyfanwerthwyr a dosbarthwyr y cynnyrch.

Mae bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn gallu chwarae rhan hanfodol bwysig, o ran rhoi rhagor o amlygrwydd i’ch busnes a’r sir yn ei chyfanrwydd. Erbyn hyn, mae ceisio ffynhonnell y cynnyrch hwn yn haws nag erioed o’r blaen.

Mae holl aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro (y Cynllun sy’n galluogi trigolion lleol ac ymwelwyr â’r ardal ill dau i fedru adnabod cynnyrch lleol nodedig) wedi’u hadnabod yn y Cyfeirlyfr. 

Rydym yn gobeithio y bydd y cyfeiriadur hwn yn gallu ysbrydoli eich dull coginio, yn cynyddu eich dewis rhanbarthol, yn rhoi gwerth ychwanegol ar eich bwydlen, ac yn rhyngu bodd eich cwsmeriaid.

ID: 1416, adolygwyd 21/09/2023