Parc Eco Sir Benfro
Buddion Cymunedol
Bydd Katie John yn gweithredu fel yr arweinydd gwerth cymdeithasol ar ran ein prif gontractwr, Andrew Scott Ltd. Bydd Katie’n cyflwyno rhaglen o weithgareddau ymgysylltu ar gyfer ysgolion ac yn ymgysylltu â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol. Yn ogystal â hyn, bydd yn cydweithio â Chyngor Sir Penfro i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol yn cael eu darparu ar y prosiect.
Mae Andrew Scott wedi ymrwymo i sicrhau bod y prosiect hwn yn darparu etifeddiaeth barhaus i ranbarth Sir Benfro, a bydd yn cydweithio â Chyngor Sir Penfro a'r Cynghorau Tref i ddarparu gwerth ychwanegol i drigolion lleol trwy ddarparu rhaglen i ymgysylltu â'r gymuned.
Gydol y prosiect, bydd Andrew Scott yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau lleol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ym maes adeiladu a bydd yn trefnu ymweliadau safle, gwersi a gweithdai, gan weithio i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu yn gwireddu'r Cwricwlwm Newydd i Gymru
Ymgynghorwyd â chynghorau cymuned Castell Walwyn, Tiers Cross, Hubberston a Chyngor Tref Aberdaugleddau ar y manteision posibl y gallai’r prosiect eu hategu. Unwaith y bydd y rhain wedi’u cytuno bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru ymhellach.