Parc Eco Sir Benfro
Diweddariad 2
Diweddariad 2 – Mawrth 2023
Yn dilyn ein diweddariad cyntaf ym mis Ionawr, rydym bellach yn falch o gadarnhau bod Cyngor Sir Penfro wedi penodi Andrew Scott Limited fel ein Prif Gontractiwr i adeiladu Camau 1 i 3 y Parc Eco:
- Cam un: Cyfleuster trosglwyddo ailgylchu, cyfleusterau swyddfa, a ffyrdd mynediad cysylltiedig. Ar gyfer crynhoi a throsglwyddo deunyddiau, a fydd yn cael eu storio ar y safle am gyfnod cyfyngedig o amser cyn eu trosglwyddo oddi ar y safle ar gyfer eu prosesu a gwaredu.
- Cam dau: Ardal parcio i'r staff ac i gerbydau, gan gynnwys gweithdy cynnal a chadw cerbydau a chyfleusterau lles i'r staff.
- Cam tri: Cyfleuster gwastraff gweddilliol a throsglwyddo ailgylchu.
Gwaith cyfredol ar y safle
Mae Dŵr Cymru a'i gontractiwr cymeradwy wrthi’n ymgymryd â’r gwaith dargyfeirio y cytunwyd arno (mae Dŵr Cymru yn gwneud y gwaith hwn fel ymgymerwr statudol (datblygiad a ganiateir) ac mae y tu allan i’r caniatâd cynllunio).
Ymgymerir â gwaith cyfyngedig hefyd i glirio llystyfiant, dan oruchwyliaeth ecolegwyr, fel rhan o'r gwaith galluogi ar gyfer dargyfeiriad Dŵr Cymru ac unrhyw waith sy'n ofynnol ar gyfer datblygu a gymeradwywyd fel rhan o'r caniatâd cynllunio.
Mae'r gwaith o sefydlu'r safle a'r gwaith galluogi bellach wedi'u cwblhau, gyda sefydlu prif gompownd y safle ynghyd â danfoniad cychwynnol offer a pheiriannau.
Mae'r holl amodau cynllunio cyn cychwyn bellach wedi'u cyflawni ac felly mae gweithgareddau adeiladu cynnar wedi dechrau ar y safle'r wythnos hon.