Parc Eco Sir Benfro

Diweddariad 3

Diweddariad 3 – Ebrill 2023

Andrew Scott Cyf yw'r prif gontractiwr sy'n gyfrifol am adeiladu cyfleuster Ailgylchu Gwastraff y Parc Eco newydd i gefnogi rhaglen wastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Penfro.

Fel rhan o ymrwymiad Andrew Scott i gyrraedd y safonau uchaf posibl o ragoriaeth weithredol, byddant yn monitro pob cam o'r prosiect i sicrhau nad yw eu gwaith yn tarfu, nac yn achosi anghyfleustra na gofid diangen i'n cymdogion.

Fel rhan o'r prosiect hwn, mae Andrew Scott Cyf a Chyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosib o ddeunyddiau a gloddiwyd o'r safle presennol er mwyn hybu a chynyddu economi gylchol. Yn ystod dau fis cyntaf y cyfnod adeiladu byddwn yn adfer hen faes parcio a llawr caled concrit, lle bydd deunyddiau a gloddiwyd yn cael eu hailgylchu i’w hailddefnyddio o fewn y prosiect. Yn dilyn hyn bydd gwaith cloddio mawr yn mynd rhagddo er mwyn creu lefel ffurfiant ar draws y safle, lle bydd pum adeilad newydd yn cael eu hadeiladu yn y misoedd nesaf, dros y gwanwyn a'r haf.

Hyd yn hyn, mae Andrew Scott wedi cloddio'r canlynol:

  • 7000 tunnell o uwchbridd sydd wedi'i gadw i gael ei ailddefnyddio ar gyfer gwaith tirlunio
  • 1500 tunnell o ddeunydd du hen arwyneb ffyrdd sydd wedi'i falu ar y safle i'w ailddefnyddio ar gyfer arwyneb maes parcio'r safle.
  • 1900 tunnell o goncrid o adeiladau presennol sydd wedi'i falu ac a fydd yn cael ei ailddefnyddio fel deunydd capio ar draws y safle.
  • 1100 tunnell o is-sylfaen presennol sydd wedi'i ailddefnyddio yn ein maes parcio ac ar weddill y safle.
ID: 10119, adolygwyd 19/06/2023