Parc Eco Sir Benfro

Parc Eco Sir Benfro

Pam fod angen y parc eco newydd?

Ym mis Tachwedd 2019, cyflawnodd Cyngor Sir Penfro newid i'r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu ledled y sir yn llwyddiannus, a oedd yn rhoi Glasbrint Llywodraeth Cymru ar waith. Mae hyn wedi arwain at gyfradd ailgylchu Cyngor Sir Penfro yn cynyddu o 57% yn 2017/18 i 71.65% yn 2019/20 a chynnydd pellach i 73.2% yn 2021-22, yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” – a’r targedau ailgylchu statudol cysylltiedig.

Ar yr adeg hon, sefydlwyd cyfleuster trosglwyddo gwastraff ac ailgylchu dros dro ym Mhorthladd Penfro, fodd bynnag, oherwydd cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer y safle hwn, mae bellach angen ar gyfleuster hirdymor i gefnogi Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu ledled Sir Benfro. Mae prosiect Morol Doc Penfro yn brosiect allweddol o fewn rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3bn, sy'n ceisio datblygu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygiad economaidd glas. Fel rhan o’r prosiect hwn, bydd y ganolfan gwastraff ac ailgylchu presennol yn Noc Penfro (Porthladd) yn cael ei datgomisiynu yn ystod 2024.

Yn dilyn proses gynllunio lwyddiannus, bydd cyfleuster gwastraff ac ailgylchu newydd, "Parc Eco Cyngor Sir Penfro" nawr yn cael ei ddatblygu ar dir a brynwyd i'r gogledd o Amoco Road. Bydd hyn yn sicrhau bod y seilwaith cywir yn ei le i gefnogi gweithrediadau a chasgliadau Gwastraff ac Ailgylchu er mwyn sicrhau y gall Cyngor Sir Penfro barhau i ddarparu gwasanaethau statudol i drigolion Sir Benfro. Bydd hyn hefyd yn cynyddu ein cyfraddau ailgylchu yn unol â Strategaethau Llywodraeth Cymru “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” a “Mwy nag Ailgylchu”. 

Bydd y Parc Eco yn canolbwyntio ar y pedwar cam canlynol:

  • Cam un: Cyfleuster trosglwyddo ailgylchu, cyfleusterau swyddfa, a ffyrdd mynediad cysylltiedig. Ar gyfer crynhoi a throsglwyddo deunyddiau, a fydd yn cael eu storio ar y safle am gyfnod cyfyngedig cyn eu trosglwyddo oddi ar y safle ar gyfer eu prosesu a gwaredu.
  • Cam dau: Ardal parcio i'r staff ac i gerbydau gan gynnwys gweithdy cynnal a chadw cerbydau a chyfleusterau llesiant i'r staff.
  • Cam tri: Cyfleuster gwastraff gweddilliol a throsglwyddo ailgylchu
  • Cam pedwar: Canolfan gwastraff ac ailgylchu y gall y cyhoedd gael mynediad at

Mae adeiladu’r safle Parc Eco yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol i’r trethdalwr.


ID: 10113, adolygwyd 19/06/2023