Parc Eco Sir Benfro
Statws presennol a cysylltwch
Beth yw statws presennol y prosiect adeiladu?
Mae’r adeiladau trosglwyddo ailgylchu a gwastraff gweddilliol a throsglwyddo ailgylchu ynghyd â chyfleusterau swyddfa, maes parcio cerbydau a staff gan gynnwys gweithdy cynnal a chadw cerbydau a chyfleusterau llesiant staff (Camau 1 i 3) wedi cael caniatâd cynllunio llwyddiannus ac yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Disgwylir i’r safle fod yn weithredol yn ystod Gwanwyn 2024.
Mae’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud gan ein Prif Gontractwr, Andrew Scott Limited, dan oruchwyliaeth ein hymgynghorwyr dylunio, WSP, a bydd yn dilyn cynlluniau rheoli amgylcheddol adeiladu y cytunwyd arnynt.
Mae’r ganolfan gwastraff ac ailgylchu sy’n hygyrch i’r cyhoedd (Cam 4) wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol ac mae’n cael ei dylunio’n fanwl ar hyn o bryd.
 phwy y dylem gysylltu os oes gennym gwestiynau am y datblygiad?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gweithgareddau sy'n ymwneud ag adeiladu, neu'r rhaglen waith, cysylltwch â Rheolwr Prosiect ASL, Gavin Evans, Gavin.Evans@andrewscott.co.uk. Os hoffech drafod yr ymholiadau hyn yn Gymraeg, cysylltwch â Dafydd Jones drwy djones@andrewscott.co.uk.
Ar gyfer ymholiadau dylunio, ymholiadau gweithredol yn y dyfodol neu unrhyw ymholiadau eraill, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm yng Nghyngor Sir Penfro drwy ecopark@pembrokeshire.gov.uk.