20mya: deddfwriaeth newydd yn Sir Benfro a Chymru
20mya fydd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd 30mya yng Nghymru, o 17 Medi 2023 ymlaen.
Mae’n dilyn cymeradwyo deddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (yn agor mewn tab newydd) gan y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y newid hwn am nifer o resymau gan gynnwys:
- Lleihau nifer y damweiniau a lleihau nifer yr anafiadau difrifol (a hefyd lleihau’r effaith ar y GIG i drin pobl sydd wedi cael eu hanafu)
- Annog rhagor o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- Helpu i wella ein hiechyd a llesiant
- Gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
- Diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Ni fydd pob ffordd sy’n 30mya ar hyn o bryd yn addas i’w newid i 20mya. Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hadnabod fel eithriadau (gweler y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am y rhain).
Mae’n rhaid i Gyngor Sir Penfro, fel pob awdurdod priffyrdd yng Nghymru, ddilyn y broses statudol ar gyfer gorchmynion rheoleiddio traffig i wneud eithriadau.
Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd a’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.
Dewiswyd wyth cymuned ar gyfer cam cyntaf y rhaglen 20mya genedlaethol, gan gynnwys Llandudoch yn Sir Benfro: Prosiect, Llandudoch (yn agor mewn tab newydd)
Eithriadau
Cynigion yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth 20mya yn Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd): Cyfnod ymgynghori 17/05/2023 – 07/06/2023
Dolenni Defnyddiol
Deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru: cwestiynau cyffredin (yn agor mewn tab newydd)