Canllawiau Gronfa Man Waith
Mae Cyngor Sir Penfro’n ymrwymedig i ddwyn gwelliannau go iawn yn Sir Benfro. Mae’r Gronfa Mân Waith Traffig a Phriffyrdd yn rhan o raglen Gwaith Priffyrdd y Cyngor.
Mae’r Gronfa Mân Waith Traffig a Phriffyrdd yn darparu cyfle i gynghorau Tref/Cymuned/Dinas gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau sy’n fwy na’r rhai a gyflwynir i’r Gronfa Gwaith Cymunedol, sef cynlluniau priffyrdd cysylltiedig â thrafnidiaeth a fydd yn costio mwy na £10,000.
Caiff cynlluniau eu hasesu yn ôl pum elfen ac fe roddir sgôr ar y cyfan iddynt, gyda hyn wedyn yn bwydo i mewn i restr sy’n gosod yr holl gynlluniau yn nhrefn blaenoriaeth. Bydd cynlluniau nad ydynt yn cael sgôr uchel yn cael safle is ar y rhestr a bydd cynlluniau sy’n fwy na £150,000 yn cael eu dosbarthu’n “Gynlluniau a Enwir”. Bydd angen i’r rhain gael cyllid unigol o’r Gyllideb Rheoli Asedau Cyfalaf (CAMB) a bydd achos busnes yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor Sir ar gyfer penderfyniad. Mae’r gronfa’n cael uchafswm o £170,000 y flwyddyn o Gyllideb Gyfalaf CSP ar gyfer yr holl gynlluniau, y bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio ei ddyrannu i gymaint â phosibl o gynlluniau buddiol.
Sylwer nad yw’r Gronfa Mân Waith yn amodol ar unrhyw gyllid cyfatebol gan y Cynghorau Lleol/Dinas/Cymuned a’i bod yn dibynnu ar brosesau penderfynu cyllidebol blynyddol.
1. Ar gyfer beth y mae cyllid ar gael?
Gellir defnyddio cyllid ar gyfer unrhyw welliannau o blith y canlynol:
- Troedffyrdd (newydd/estynedig/wedi’u gwella)
- Gwelliannau i weladwyedd wrth gyffyrdd
- Cilfachau Pasio
- Gwelliannau i safleoedd bysiau (newydd/wedi’u gwella).
- Mesurau gostegu traffig a rheoli traffig*
- Mân welliannau i ffyrdd cerbydau (h.y. lledu ffyrdd cerbydau).
2. Pa feini prawf y mae angen i’r cynllun eu bodloni?
Mae angen i brosiectau gyrraedd un o nodau corfforaethol Cyngor Sir Penfro hefyd, sydd wedi’u strwythuro ar sail pum amcan llesiant a nodir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor Sir (2020 – 2021).
Mae’r amcanion fel a ganlyn;
- Codi safonau cyflawniad ar y cyfan
- Cymunedau iach: Cymunedau’n cael eu cefnogi gan dai fforddiadwy a phriodol; gwella gofal cymdeithasol
- Cynyddu cynhyrchiant yr economi a mynd i’r afael â materion adfywio
- Diogelu ein hamgylchedd
- Cymunedau hunangynhaliol a ffyniannus
Hefyd, dylai prosiectau ddangos y canlynol:
- Adlewyrchu blaenoriaethau a gweledigaeth y gymuned.
- Cefnogaeth gan y gymuned leol a sefydliadau partner trwy ymgynghori priodol.
- Maent yn dangos ôl meddwl da a gellir eu cyflawni
- Maent yn ystyried cynaliadwyedd yn y dyfodol
- Maent yn ychwanegu gwerth at weithgareddau presennol ac yn ategu prosiectau a mentrau eraill
- Trwy ymgynghori, maent yn cwrdd ag anghenion a chyfleoedd yn eu cymunedau yn awr ac yn y dyfodol
- Maent wedi ystyried sut y gall y prosiect fod o fudd i’r rhai sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig1
* Mae nodweddion gwarchodedig wedi’u dynodi dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn cynnwys pobl o wahanol alluoedd, oedrannau, cefndiroedd ethnig, rhyweddau a chrefyddau.
2. Faint o gyllid sydd ar gael a sut y caiff ei ddyrannu ledled y sir?
Ar y cyfan, tua £170,000 y flwyddyn yw gwerth y Gronfa Mân Waith Traffig a Phriffyrdd.
Caiff cynlluniau eu hasesu yn ôl eu rhinweddau unigol a’u costio yn ôl gofynion y cynllun. Bydd cynlluniau llai na £10,000 yn cael eu hasesu dan Gynllun y Gronfa Gwaith Cymunedol. Bydd unrhyw gynlluniau sy’n mynd y tu hwnt i’r gyllideb flynyddol o £170,000 yn cael eu nodi’n 'Gynlluniau a Enwir' a bydd angen iddynt gael eu cyflwyno ar gyfer eu ffrwd gyllidebol eu hunain trwy’r Gyllideb Rheoli Asedau Cyfalaf (CAMB).
Po fwyaf fo mewnbwn y Cyngor Tref/Cymuned/Dinas, po fwyaf ffafriol fydd y farn am y cynnig.
3. Beth yw’r Broses ar gyfer y Gronfa Mân Waith?
Caiff y broses ar gyfer y Gronfa Mân Waith ei nodi yn y diagram llif gwaith isod
Mae 4 cam allweddol i’r broses:
- Cychwyn Prosiect – Mae’r ffurflenni ar gael ar y wefan i Gynghorau Dinas/Tref/Cymuned eu lawrlwytho a’u cwblhau yn eu hamser eu hunain a chael cefnogaeth eu Haelod Lleol. Cyflwynir y ffurflen gais trwy’r e-bost wedyn i minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk.
- Mae deialog gychwynnol gyda CSP ynghylch cynlluniau’n dechrau. Os yw’n ofynnol, gellir cynnal cyfarfod awr o hyd gyda swyddog priodol yn CSP i drafod y cynllun a gofynion pellach mewn manylder. Gofynnir i Gynghorau Dinas/Tref/Cymuned gasglu’r holl dystiolaeth sy’n ofynnol i ategu’r cynllun yn ystod y cyfnod hwn ac ymgynghori â’u hetholwyr.
- Asesu – Wedyn bydd Swyddogion CSP yn cynnal yr asesiad o’r cynllun ac yn cwblhau’r ffurflen asesu a fydd yn cynhyrchu sgôr ar y cyfan ar gyfer y prosiect. Sgôr y prosiect sydd wedyn yn penderfynu beth fydd safle’r cynllun ar y rhestr sydd yn nhrefn blaenoriaeth.
- Yn dilyn yr asesiad bydd tîm y Gronfa Mân Waith yn trafod hyfywedd y prosiect ac os nad yw cynllun yn bodloni’r meini prawf ni fyddir yn bwrw ymlaen ag ef yn y flwyddyn ariannol honno. Bydd Swyddogion CSP yn trafod y canlyniad ac yn gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer cynllun amgen neu’n egluro pam nad yw’r cynllun gwreiddiol yn hyfyw.
- Datblygiau Dynluniad – Unwaith y mae cynllun wedi cael ei ystyried yn llwyddiannus o fewn y broses benderfynu, mae rhaglen fewnol o waith gan CSP yn dechrau gyda swyddogion i ddylunio, cyfrifo’r gost, gwneud unrhyw asesiadau rheoli traffig y mae eu hangen, cynnal asesiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chrynhoi pecyn gwaith. Gellir gofyn am unrhyw wybodaeth bellach y mae ei hangen gan y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned yn ystod y cyfnod hwn.
- Rhoi ar werth – Yn ystod y cam hwn, mae gwaith y cynllun yn dechrau ar y safle. Bydd rhaglen waith yn cael ei rhyddhau, bydd contractwyr perthnasol yn mynd ar y safle a bydd gwaith yn dechrau.
- Cwblhau’r Cynllun – Yn dilyn y gwaith ar y safle, bydd y gwaith wedyn yn cael ei arolygu gan CSP a’i gymeradwyo. Bydd unrhyw waith i ddatrys mân broblemau neu waith mireinio’n cael ei wneud cyn cwblhau’r broses gymeradwyo. Mae’r llinell amser ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith a’i gwblhau’n ddibynnol ar gyllid a safle’r cynllun ar y rhestr flaenoriaethol ar y cyfan.
- Rhestr Wrth Gefn – Bydd unrhyw geisiadau aflwyddiannus nad ydynt yn cael cyllid o’r Gronfa Mân Waith ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cael eu gosod ar y Rhestr Wrth Gefn. Bydd hyn yn galluogi CSP i ymgysylltu â’r Cyngor perthnasol ar gyfer unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r cynllun er mwyn iddo fod yn llwyddiannus yn y flwyddyn ganlynol. Efallai y bydd cynllun sydd ar y Rhestr Wrth Gefn yn dod yn “Gynllun a Enwir”, efallai y gellir ei integreiddio â Chynllun Mân Waith ehangach yn yr ardal neu y gallai gael ei gyflawni gan ddatblygwr. Lle y bo’n bosibl, bydd CSP yn gweithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod prosiectau ar y Rhestr Wrth Gefn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i symud ymlaen.
5. Pwy all ymgeisio am gyllid?
Mae’r Gronfa Mân Waith ar agor i Gynghorau Dinas/Tref/Cymuned gyda chefnogaeth eu Haelodau Lleol. Fel arall gall Aelodau Etholedig godi cynlluniau’n uniongyrchol trwy’r un broses. Gofynnir i Aelodau Etholedig ddarparu cefnogaeth ysgrifenedig i Gynlluniau’r Gronfa Mân Waith os cânt eu codi gan Gynghorau Dinas/Tref/Cymuned.
6. Beth ellir ei gyllido?
Mae cyllid ar gael ar gyfer costau cyfalaf sy’n angenrheidiol ar gyfer cynlluniau priffyrdd a ganiateir, sef cysylltiadau troedffyrdd (newydd neu estynedig), gwelliannau i weladwyedd (h.y. mân welliannau i gyffyrdd), cilfachau pasio, gwelliannau i safleoedd bysiau, mesurau gostegu traffig a rheoli traffig, yn ogystal â mân welliannau i ffyrdd cerbydau.
Gall cyllid ar gyfer costau cyfalaf gynnwys:
- Gwaith ymchwilio, clirio a pharatoi ar y safle
- Costau adeiladau newydd a / neu adnewyddu gan gynnwys ffioedd proffesiynol uniongyrchol lle y bo angen
- Gwaith tirlunio a gwaith gwella amgylcheddol arall
- Gosodiadau a ffitiadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect
7. Beth na ellir ei gyllido?
Mae gweithgareddau eraill, na ellir eu cyllido, yn cynnwys:
- Y rhai sy’n gwrthdaro â nodau, amcanion neu bolisi Cyngor Sir Penfro neu unrhyw gwmni / sefydliad cysylltiedig arall neu’n effeithio’n anffafriol arnynt
- Y rhai y mae dyletswydd ar gorff cyhoeddus i’w darparu
- Y rhai sy’n cael neu a allai gael eu cyllido’n fwy priodol o ffynonellau eraill
- Y rhai sy’n dyblygu prosiectau eraill a gyflawnir yn lleol
- Y rhai sy’n effeithio ar gynaliadwyedd darpariaeth bresennol neu’n effeithio’n anffafriol ar y cynaliadwyedd hwnnw.
- Ni ellir ystyried y rhai sydd eisoes wedi cael eu cychwyn; fodd bynnag, gellir ystyried cam gwahanol o fewn yr un prosiect.
- Y rhai y mae contractau wedi cael eu llofnodi neu archebion wedi cael eu cyflwyno ar eu cyfer cyn eu cymeradwyo
- Costau gweithredu arferol neu gostau a ysgwyddir fel rhan o weithrediad beunyddiol / costau atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd / offer. Ar ôl unrhyw gyfnod o gyfrifoldeb am waith cynnal a chadw gan gyflenwr, y Cyngor Tref, Cymuned neu Ddinas fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw.
- Gweithgareddau / costau cyflogaeth cyffredinol y sefydliad
- Rhwymedigaethau iechyd a diogelwch y sefydliad
- Costau TAW adenilladwy
- Yswiriant
- Y rhai sy’n hyrwyddo gweithgareddau ffydd grefyddol (er y gellir ystyried ceisiadau gan sefydliadau crefyddol os yw’r prosiect bwriadedig o fudd i’r gymuned ehangach)
- Y rhai sy’n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol
- Ymgyrchoedd codi arian
- Teithiau ac ymweliadau
Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau (VAS)
Yn flaenorol, mae CSP wedi cefnogi cynlluniau i weithredu VAS mewn ardaloedd lle’r oedd mesurau gostegu traffig yn ofynnol o fewn y Gronfa Mân Waith. Fodd bynnag, o ystyried y Cynllun 20mya sydd ar fin cael ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru, mae penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio â gweithredu cynlluniau VAS mwyach tan ar ôl i’r Cynllun 20mya gael ei roi ar waith, a bod cyfnod o fonitro wedi cael ei gwblhau. Bydd unrhyw VAS sydd eisoes ar waith yn cael ei ailgalibro’n awtomatig i’r terfyn cyflymder is a bydd monitro’n parhau i sicrhau ymddygiad da gan draffig.
8. Cyllid Cyfatebol
Nid oes unrhyw gyllid cyfatebol yn ofynnol gyda chynlluniau’r Gronfa Mân Waith.
9. Sut i Ymgeisio
Ceisiadau
Os oes gennych fanylion eich cynllun a chithau’n gwybod yn union beth yw’r mater y mae arnoch eisiau ei ddatrys, llenwch Ffurflen Gais y Gronfa Mân Waith. Mae ffurflenni ar gael o minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk neu ar wefan CSP.
Dim ond un cais gan bob Cyngor Dinas/Tref/Cymuned y flwyddyn, y prosiect y gallwch ei wneud. Gall cyllid Mân Waith Traffig a Phriffyrdd gael ei ddefnyddio o bosibl i gyllido gwahanol gamau o brosiect, gyda chais pellach yn cael ei wneud unwaith y mae cam wedi cael ei gwblhau (gweler y Cwestiynau Cyffredin isod).
Cyflwyno Cais
Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy’r e-bost i minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk a dylent gynnwys llofnod pobl berthnasol yn y sefydliad wedi’i sganio.
Wedi i chi gyflwyno cais, bydd cydnabyddiaeth yn cael ei hanfon gan yr Isadran Seilwaith a Thîm y Gronfa Mân Waith. Bydd yr holl swyddogion yn gweithio gyda’r sefydliad sy’n ymgeisio i sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu.
Tystiolaeth Ategol ac Ymgynghori
Rhaid darparu tystiolaeth o ymgynghori ar y cynllun o fewn y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned i ategu’r cais hwn. Gall hyn gynnwys rhestr o lofnodion cefnogol, tystiolaeth o hysbysebu manylion y cynllun yn unrhyw gylchlythyr Dinas/Tref/Cymuned neu Blwyf neu bapur newydd lleol a/neu dystiolaeth o gyhoeddi ar wefan briodol ar gyfer y Ddinas/y Dref/y Gymuned neu’r Plwyf. Cyfrifoldeb yr Ymgeisydd yw dangos yr ymgynghorwyd yn briodol cyn cyflwyno cais.
Gall fod yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth arall ar ffurf cyswllt â rhanddeiliaid ym maes Treftadaeth, Adeiladau Rhestredig, Tirfeddianwyr/Landlordiaid, Cyfleustodau Statudol a’r Amgylchedd. Ceir rhestr fwy cyflawn yn Adran 10, isod.
Cefnogaeth Cynghorwyr
Mae angen dangos cefnogaeth gan yr Aelod Etholedig perthnasol ar ffurf tystiolaeth ysgrifenedig ac mae’n rhaid ei chyflwyno gyda’r cais.
Terfyn Amser ar gyfer Ceisiadau
Mae’r Gronfa Mân Waith yn gweithredu ar sail cylch blynyddol treigl a bydd cynlluniau a gyflwynir yn cael eu derbyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Efallai na fydd cynlluniau llwyddiannus yn cael eu cyllido’n llawn tan y cylch cyllidebol nesaf.
Asesu’r Cais
Bydd y Cais yn cael ei asesu gan swyddogion a phenderfyniad yn cael ei wneud gan banel sy’n cynnwys yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion a Hamdden.
Lle y bo’n berthnasol, bydd cyngor gan swyddogion / arbenigwyr priodol eraill yn cael ei ystyried. Mewn rhai achosion, gellir ceisio cyngor gan swyddogion priodol eraill o fewn y Cyngor neu sefydliadau partner, neu arbenigwyr perthnasol eraill. Lle mae angen tystiolaeth bellach, efallai y bydd aelod o Dîm y Gronfa Mân Waith yn cysylltu â chi.
Penderfynu ynglŷn â’r Cais: Llwyddiannus ynteu Aflwyddiannus?
Cyhoeddusrwydd a chydnabyddiaeth – rhaid i bob sefydliad sy’n cael Cyllid Mân Waith Traffig a Phriffyrdd gydnabod Cyngor Sir Penfro yn yr holl gyhoeddusrwydd a chyfryngau a gaiff eu creu am eu prosiect llwyddiannus. Bydd gofynion ychwanegol ar gyfer prosiectau sy’n cael cyllid cyfalaf yn cael eu hamlinellu yn y llythyr cynnig.
Aflwyddiannus – bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael adborth ac, os yn briodol, yn cael eu gwahodd i ailgyflwyno’u cais neu’n cael gwybodaeth am ffynonellau cyllid eraill lle y bo’n berthnasol. Nid oes hawl i apelio.
Mae rhestr wrth gefn ar gael ar gyfer gwaith nad yw’n llwyddiannus ar gyfer cyllid yn y flwyddyn gyfredol ond a allai gael ei gynnwys yn y flwyddyn ganlynol neu gael ei gyfuno o fewn cynllun Mân Waith. Mae’r rhestr wrth gefn yn cael ei monitro, a gall gael ei diweddaru fel y bo angen.
10. Gwybodaeth Ychwanegol
Gan ddibynnu ar y math o gynllun gall fod yn ofynnol darparu’r canlynol hefyd:
- Dyluniad y Cynllun a/neu gynlluniau manwl ar ei gyfer
- Caniatâd Amgylcheddol
- Caniatâd Adeilad Rhestredig
- Disgrifiad o’r cynllun
- Caniatâd Draenio
- Trefniadau cynnal a chadw
- Manylion Cyfrif Banc
- Caniatâd Priffyrdd
- Caniatâd Cynllunio (os yw’n ofynnol)
- Rheoliadau Adeiladu
- Caniatâd Tirfeddiannwr/ Trydydd Parti
- Prawf o Berchnogaeth/Gweithredoedd Eiddo
- Cynllun Busnes
- Caniatâd Landlord
- Dyfynbrisiau neu Amcangyfrifon o Gost y Gwaith
- Caniatâd Cadwraeth
- Trwyddedau
- Cytundeb Prydlesu wedi’i Lofnodi (gydag o leiaf 15 mlynedd ar ôl ar y brydles)
11. Cwestiynau Cyffredin
- Pwy sy’n penderfynu pa gynlluniau sy’n cael eu cyllido? Mae’r Cyngor Dinas/Tref/Cymuned ac Aelodau Etholedig, gan adlewyrchu dymuniadau a dyheadau eu cymuned, yn penderfynu beth i gynnig amdano. Bydd Tîm y Gronfa Mân Waith, sy’n cynnwys yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion a Hamdden, yn asesu’r cynlluniau ac yn penderfynu pa gynlluniau a gaiff eu cyllido.
- Beth yw’r gyllideb? Mae Cyngor Sir Penfro wedi dyrannu cyfanswm o £170,000 y flwyddyn i gael ei wario ar draws yr holl gynlluniau Mân Waith ar briffyrdd. Bydd cynlluniau sy’n werth mwy na’r gyllideb flynyddol yn cael eu hystyried fel ‘Cynllun a Enwir’ ac yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid ar wahân. Mae’r holl gyllid yn ddibynnol ar y broses benderfynu ar gyfer y Gyllideb Rheoli Asedau Cyfalaf.
- Pam fod angen i ni ddarparu tystiolaeth o ymgynghori? Hysbysir ymgeiswyr bod angen cyflwyno tystiolaeth o ymgynghori gydag unrhyw gais. Cynghorir Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned i hysbysu eu hetholwyr ynghylch eu bwriad i wneud cais ar gyfer y cynllun cyn cyflwyno cais. Gall fod oedi gyda chynlluniau os na fu ymgynghori priodol.
- Sut y caiff cynlluniau eu blaenoriaethu? Caiff cynlluniau eu hasesu yn seiliedig ar asesiad sy’n cynnwys nifer o feini prawf, sy’n archwilio cynlluniau yn erbyn y meini prawf canlynol: diogelwch ar y ffyrdd, llesiant, gwerth am arian, y gallu i’w cyflawni a manteision amgylcheddol. Rhoddir pwyntiau i bob maen prawf ac mae cyfanswm y pwyntiau cyfunol yn darparu’r rhif ar y drefn restrol.
- Ydych chi’n gweithio trwy’r rhestr flaenoriaethol mewn trefn? Ydym, lle y bo’n bosibl rydym yn gweithio trwy’r rhestr flaenoriaethol mewn trefn gan ddechrau ar Rif 1. Lle mae’n gwneud synnwyr rhoi rhai cynlluniau ar waith gyda’i gilydd oherwydd agosrwydd a gofynion adeiladu, caiff y rhain eu hystyried wedyn a’u bwndelu gyda’i gilydd. Fel arall, pe bai datblygiad cynllunio’n cael ei gyflwyno gerbron a bod hwnnw’n gallu cynnwys y cynllun, byddem wedyn yn ceisio trefnu bod y datblygwr yn darparu’r cynllun ac yn talu amdano.
- Pa ardaloedd sy’n cael eu henwebu ar gyfer cynlluniau? Caiff cynlluniau eu cyflwyno gerbron gan Aelodau Etholedig trwy’r Cynghorwyr Dinas/Tref/Cymuned ac anogir unrhyw ardal yn Sir Benfro i ymgeisio. Ar y Rhestr Mân Waith gyfredol, mae cyfanswm o 76 o gynlluniau. Mae oddeutu un rhan o dair o’r holl gynlluniau ar hyn o bryd wedi’u lleoli yng Ngogledd y Sir ac mae’r ddwy ran o dair sy’n weddill yn y De.
- Sut fydd y cynlluniau’n cael eu rheoli a’u cyflawni? Tîm Dylunio Priffyrdd Cyngor Sir Penfro fydd yn rheoli’r broses o gyflawni’r cynlluniau cymeradwy a hynny mewn partneriaeth gyda’r Cyngor Dinas/Tref/Cymuned.
- Beth sy’n digwydd os yw cost alldro’r cynllun yn sylweddol wahanol i’r un a gyflwynwyd yn y cynnig gan y cyngor tref, cymuned neu ddinas? Bydd y cynigion cymeradwy’n cael eu dylunio gan Dîm Dylunio CSP a fydd yn cynnwys pennu cost y cynllun. Os yw honno’n sylweddol wahanol i gost y cynnig yna gall hynny effeithio ar y cyfraniad sy’n ofynnol, efallai y bydd angen cyllid pellach trwy’r Gyllideb Rheoli Asedau Cyfalaf neu fe allai’r cynllun gael ei gyflwyno ar gyfer cyllid trwy ‘Gynllun a Enwir’.
- Beth os gwrthodir fy nghais? Os canfyddir bod cynllun yn anhyfyw oherwydd goblygiadau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, adeiladu neu’r gost, bydd yn cael ei ddychwelyd at y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned neu’r Aelod Etholedig ynghyd ag esboniad manwl o’r broses benderfynu ac unrhyw argymhellion. Ni fydd y cynllun yn cael ei ychwanegu at Restr Flaenoriaethol y Gronfa Mân Waith. Y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned neu’r Aelod Etholedig sydd i benderfynu wedyn a ydynt yn dymuno adolygu’r cynllun ac ymgorffori unrhyw argymhellion, ynteu rhoi’r gorau i’r cynllun ar y cam hwn.
12. Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau
Fel Cyngor rydym yn benderfynol o wneud y gwasanaethau a ddarparwn ar eich cyfer mor effeithiol â phosibl. Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau ac mae arnom eisiau cydweithio i gyrraedd y nod yma. Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig dysgu o’r hyn a ddwedwch chi, nid dim ond i ymdrin â’ch mater penodol chi, ond i sicrhau ein bod yn gwella ein gwasanaethau.
Gallwch gyflwyno cwyn, canmoliaeth neu sylw mewn nifer o ffyrdd:
- Ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551
- Mynd at y wefan
- E-bostio neges at dîm y Gronfa Mân Waith yn minorworksfund@pembrokeshire.gov.uk
Ymwadiad
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i bwriadu i fod yn arweiniad mewn perthynas â’r Gronfa Mân Waith Traffig a Phriffyrdd. Nid yw’n addas ar gyfer cyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled a achoswyd am bod unrhyw un wedi gweithredu neu ymatal rhag gweithredu arni.
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir gennym amcanoch chi fel unigolyn yn cael ei chadw a’i phrosesu gan Dîm y Gronfa Mân Waith yn gwbl unol â darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, fel a nodir yn ein Hysbysiad Prosesu Teg. Gellir gweld fersiwn lawn o’r Hysbysiad hwn yn Addewid Preifatrwydd; fel arall gellir darparu copi papur ar gais.