Parcio i’r Anabl

Gwneud cais am Fathodyn Glas

*Cyfrifoldeb deiliaid y bathodyn yw ailymgeisio mewn digon o bryd i sicrhau bod ganddo fathodyn dilys, gan gofio y gall gymryd hyd at 28 diwrnod i brosesu cais.*

Dylech wneud cais ar-lein am Fathodynnau Glas newydd neu i adnewyddu/amnewid bathodynnau glas, a hynny: Gwneud cais ar-lein Bathodyn Glas (yn agor mewn tab newydd)  

Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein neu gyrchu'r Rhyngrwyd, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch Bathodynnau Glas, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551. Gallwch hefyd anfon neges e-bost atom yn: bluebadgeadmin2@pembrokeshire.gov.uk

Bydd pob bathodyn yn cymryd oddeutu pump i ddeg diwrnod gwaith i gyrraedd o'r dyddiad y caiff y cais ei gymeradwyo. Gall ceisiadau gymryd hyd at 28 diwrnod i'w prosesu.

Yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru, bydd bathodynnau glas unigol yn cael eu hanfon yn rhad ac am ddim ar gyfer yr opsiwn dosbarthu ail ddosbarth safonol.

Gall sefydliadau sy’n ymwneud â gofal a chludo pobl anabl wneud cais am fathodyn glas yma: Gwneud cais ar-lein Fathofyn Glas (sefydliadau) (yn agor mewn tab newydd)

Bathodynnau Glas: eich hawliau a chyfrifoldebau (yn agor mewn tab newydd)

ID: 4615, adolygwyd 22/03/2024