Parcio i’r Anabl

Meini Prawf Cymhwyster

Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig os bodlonir unrhyw un o'r meini prawf canlynol:

  • Wedi’ch Cofrestru’n Ddall (nam ar y golwg).
  • Yn derbyn Cydran Symudedd cyfradd uwch y Lwfans Byw i'r Anabl.
  • Yn derbyn Taliad Annibynnol Personol (PIP) - 8-12 pwynt ar gyfer symud o gwmpas neu 12 pwynt ar gyfer cynllunio a dilyn taith.
  • Yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel.
  • Wedi derbyn budd-dal lwmp swm o Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn o fewn lefelau tariff 1-8 (yn gynhwysol) ac wedi cael eich ardystio fel un sydd â nam parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol wrth gerdded.

Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o hyn yn ogystal â phrawf o'ch hunaniaeth a'ch preswyliaeth.

Efallai y byddwch yn gymwys o dan y meini prawf Dewisol sy'n gofyn am dystiolaeth feddygol i gefnogi'r cais:

  • Anawsterau cerdded parhaol a sylweddol.
  • Anhawster cerdded difrifol dros dro y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy.
  • Bod â nam difrifol i'r ddwy fraich, yn yrrwr car rheolaidd sy'n cael trafferth defnyddio peiriannau talu am barcio.
  •  Yn gwneud cais ar ran plentyn sy'n iau na thair blwydd oed sydd â chyfarpar meddygol swmpus i'w gludo gydag ef bob amser, neu sydd angen mynediad ar unwaith i gerbyd os bydd angen triniaeth frys.
  • Nam gwybyddol sy'n effeithio ar allu'r unigolyn i gynllunio a/neu fynd ar daith i'r graddau y mae angen goruchwyliaeth.

O dan y meini prawf Dewisol efallai y bydd angen i chi gael eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol (IAS) i gael eich asesu. 

Comisiynwyd Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol Able2 (yn agor mewn tab newydd) gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr asesiadau hyn ar ein rhan heb unrhyw gost i ymgeiswyr. 

Bathodynnau Glas: pwy sy’n gymwys? (yn agor mewn tab newydd)

ID: 4609, adolygwyd 31/10/2023