Parcio i’r Anabl

Hysbysiad Preifatrwydd

1. Pam rydym ni'n casglu ac yn cadw gwybodaeth bersonol

Fel Awdurdod Lleol, rydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn eich asesu ar gyfer ceisiadau am Gynllun Parcio Bathodyn Glas.

Mae prosesu eich data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r dasg hon.

Mae'r Cyngor yn darparu nifer o wahanol wasanaethau sydd wedi'u rhestru ar ein Gwefan.

2. Sut mae gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn ôl y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2018) a deddfwriaeth arall sy'n berthnasol i Fathodynnau Glas

Addewid Preifatrwydd

Darllenir Rhybudd Hysbysiad Preifatrwydd‘ ar lafar gyda phob cais

Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata a bydd eich data yn ddiogel a chyfrinachol bob amser.  Mae gan y cyngor ddyletswydd i ddiogelu arian cyhoeddus a gallai ddefnyddio gwybodaeth bersonol a thechnegau cyfateb data i ganfod ac atal twyll, a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, gellir rhannu gwybodaeth gydag adrannau mewnol.

Byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol sy'n ofynnol i roi bathodyn glas i chi yn unig. Yn y rhan fwyaf o achosion, yr isafswm gofynnol fydd eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni, Rhif Yswiriant Gwladol, unrhyw wybodaeth berthnasol am fudd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau a/neu wybodaeth feddygol bersonol. Gellir gofyn am fwy o wybodaeth yn dibynnu ar y meini prawf cymhwyster. Byddwn yn gofyn am wybodaeth sy'n berthnasol yn unig ac nid yn ormodol. Efallai y bydd angen datgelu eich gwybodaeth i Wasanaethau Therapi Galwedigaethol Able2 (yn agor mewn tab newydd) y mae Llywodraeth Cymru wedi’u penodi fel y gwasanaeth cynghori annibynnol. 

3. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a roddwyd i ni ar gyfer eich Bathodyn Glas am dair blynedd yn unig. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel pan na fydd arnom ei hangen mwyach.

4. Mynediad i'm gwybodaeth bersonol?

Gallai unigolion ddarganfod a oes gennym unrhyw wybodaeth bersonol amdanynt trwy wneud 'cais gwrthrych am wybodaeth' o dan Reoliad Cyffredinol Diogelu Data 2018. I wneud cais, anfonwch y cais yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad a roddir isod:

Y Tîm Mynediad at Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

e-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk       Ffôn:01437 775798

5. Eich hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch chi eu hymarfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi ar gyfer eich bathodyn glas:

  • Hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn am gael mynediad at, a chopi o, unrhyw wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi.
  • Yr hawl i unioni - Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro'ch gwybodaeth.
  • Gallai’r hawl i gyfyngu prosesu fod yn gymwys - Fe allech ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol mewn perthynas â Bathodynnau Glas, ond gallai hyn ein hoedi neu ein hatal rhag cyflwyno gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd yn ofynnol i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu - Nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich data personol

6. Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn yn ddifrifol iawn. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt o'r farn fod y ffordd rydym yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.

Nid yw'r rhybudd preifatrwydd hwn yn rhoi'r holl fanylion am bob agwedd ar y ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Ond rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod: -

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

e-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk   Rhif Ffôn: 01437 764551

Os ydych chi am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data.

Cyswllt â’r cwsmeriaid

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow SK9 5AF

e-bost: casework@ico.org.uk   Rhif Ffôn: 0303 123 1113 

7. Newidiadau i'r rhybudd preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein rhybudd preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 4616, adolygwyd 31/10/2023