Parcio yn Sir Benfro

Adroddiad Blynyddol am Orfodi Sifil ar Barcio 2017-18

Cyflwyniad

Strategaeth a Pholisi

Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro

Ein Gwasanaethau

Gorfodi Parcio Sifil

Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau

Gwybodaeth Ariannol

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2019 / 2020

Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir

 

Cyflwyniad

Gan y Cynghorydd Phil Baker
Llefarydd y Cabinet dros Gynllunio a Seilwaith

Mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Dyma’r Seithfed Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd gennym, yn unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Nod yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir Penfro yn cyflawni ei wasanaeth gorfodi sifil ar barcio a’i wasanaethau cysylltiedig, ynghyd ag egluro’r gwasanaeth yng nghyddestun ein dyletswyddau a’n polisïau eraill o ran rheoli’r rhwydwaith ffyrdd.

Rydym yn dal i orfodi cyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar holl ffyrdd y Sir ac yn yr holl feysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Un o’n blaenoriaethau yw sicrhau bod y gwaith gorfodi sifil ar gyfyngiadau parcio yn dryloyw, yn gyson ac yn deg. Mae Cyngor Sir Penfro yn deall bod atebolrwydd a bod yn agored yn hollbwysig o ran cael cefnogaeth y cyhoedd.

Ein gobaith, trwy gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol am Barcio, yw y bydd ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’n hymroddiad i wella’r drefn barcio ar gyfer ein trigolion, ein busnesau ac ymwelwyr â’r sir. Hefyd mae’r awdurdod yn bwrw ati’n barhaus i adolygu sut yr ydym yn gweithredu ein gwasanaethau parcio, gan weithio ar sail adennill y gost lawn. Ein bwriad yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf o ran ein darpariaethau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd. Byddwn yn dal i werthuso ein polisi ynghylch taliadau am barcio ac yn sicrhau ein bod yn adolygu ein hollwasanaethau fel rhan o’n rhaglen drawsnewid.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am ein Hadroddiad Blynyddol am Barcio, cysylltwch â ni drwy ffonio 01437 764551 neu drwy anfon neges e-bost at parking@pembrokeshire.gov.uk.

Y Strategaeth a'r polisi 

Y Cefndir

Mae Gweledigaeth Strategol y Cyngor yn rhoi pwyslais ar hyrwyddo amgylchedd atyniadol, glân ac iach, ac mae’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cydnabod bod rheoli traffig yn elfen bwysig o ran sicrhau bod y priffyrdd yn cael eu defnyddio mewn modd diogel, effeithiol a rhesymegol.

Y Polisi Codi Tâl

  • Yr angen i annog masnach fanwerthu;
  • Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llif traffig;
  • Yr angen i reoli’r galw mewn modd effeithiol;
  • Rhoi sylw i natur y lleoliad parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. defnyddwyr busnes/siopwyr trefol, defnyddwyr preswyl, siopwyr mewn trefi gwledig, defnyddwyr traethau/ymwelwyr;
  • Cymharu â darparwyr eraill yn yr ardal;
  • Yr angen i annog defnyddio mathau mwy cynaliadwy ar deithio, gan gynnwys cludiant cyhoeddus;
  • Nid yw taliadau parcio yn cael eu pennu at ddibenion incwm yn unig;
  • Ystyried y ddarpariaeth gyffredinol yn y gyllideb refeniw (gwariant ac incwm) ar gyfer y meysydd parcio;

Bod rhagdybiaeth o blaid cyllido gwelliannau drwy gynyddu’r taliadau. Rhoddir yr egwyddorion hyn ar waith mewn modd cyson, gan olygu bod y taliadau’n amrywio o le i le.

Rheoli’r Galw

Rhoddwyd ystyriaeth yn ôl lleoliad i’r taliadau am barcio ceir. Caiff y taliadau am barcio ceir yn Sir Benfro eu pennu er mwyn annog siopwyr, gan olygu bod yr angen tebygol am leoedd parcio arhosiad byr. Yn y mannau hynny lle mae galw mawr a/neu brinder lle, pennir y cyfnodau a’r taliadau parcio yn ofalus er mwyn sicrhau bod y trosiant gorau posibl.

Y Ddarpariaeth Barcio yn Sir Benfro

Oddi ar y Stryd

Mae’r Awdurdod yn rheoli’r meysydd parcio er mwyn darparu ar gyfer defnyddwyr arhosiad byr a defnyddwyr arhosiad hir. Pennir y taliadau yn unol â Pholisi’r Cyngor. Mae’r ddarpariaeth i’r anabl yn unol â’r canllawiau a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth.

Ar y stryd

Mae’r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar y priffyrdd cyhoeddus mabwysiedig lle ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny heb darfu’n ormodol ar draffig sy’n symud. Mae’n darparu ar gyfer aros cyfyngedig, yr anabl, llwytho, tacsis, beiciau modur a phreswylwyr.
Mae’r Awdurdod wedi datblygu arferion cadarn a theg i reoli ochr y cwrbyn ar gyfer gofynion gwahanol yr amrywiol ddefnyddwyr. Ni weithredwyd dim cyfyngiadau lle nad oedd gorchymyn rheoleiddio traffig i’w cefnogi.

Ein Gwasanaethau

Parcio Oddi ar y Stryd

Mae gan y Cyngor feysydd parcio lle codir tâl a meysydd parcio di-dâl; mae’r manylion amdanynt ar wefan y Cyngor. Mae gan Gyngor Sir Penfro 98 o feysydd parcio y mae 36 ohonynt yn rhai talu ac arddangos. Codir tâl drwy gydol y flwyddyn yn 18 ohonynt, ac yn 14 ohonynt codir tâl yn dymhorol.

Rhwng y 1 Ebrill 2017 a’r 31 Mawrth 2018 dosbarthwyd y canlynol:

  • 184 o docynnau tymor
  • 109 o hawlenni lle ar gadw
  • 149 o hawlenni Harbwr Dinbych-y-pysgod.

Neilltuwyd o leiaf 6% o’r llefydd ar gyfer deiliaid bathodyn glas. Nid oedd y Cyngor wedi codi tâl ar rai diwrnodau ym mis Rhagfyr yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, a hynny ym mhob un o’r meysydd parcio yn y Sir lle’r oeddid yn arfer
codi tâl.

Ar y stryd

Ar hyn o bryd mae 1052 o lefydd aros cyfyngedig, 127 o lefydd i’r anabl, 33 o lefydd i dacsis, 3 cilfan i fysiau, 28 o gilfannau ar gyfer llwytho / dadlwytho nwyddau, 1 gilfan ambiwlans ac 1 gilfan beic modur. Mae’r cyfanswm cyffredinol yn cynnwys 630 o lefydd ar gyfer Deiliaid Hawlen Preswylydd / Hawlen Busnes.

Parcio i Breswylwyr

Lle bo’n ymarferol cyflwynwyd Cynlluniau Parcio i Breswylwyr ar nifer o strydoedd/lleoliadau ledled y Sir. Mae 57 o gynlluniau ar waith ar hyn o bryd y mae rhestr lawn ohonynt yn Atodiad 1. Caiff yr holl gynlluniau ar y priffyrdd cyhoeddus eu gweithredu yn unol â’r un rheoliadau, sef un hawlen i eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Mae’r hawlenni mewn grym am hyd at 12 mis. Cost hawlen yw £40.00. Mae hawlenni ymwelwyr ar gael am hyd at 7 niwrnod am £30.00, sef unwaith eto un hawlen i eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o breswylio, yswiriant dilys a thystysgrif MOT. Yn Harbwr Dinbych-y-pysgod gweithredir cynllun oddi ar y briffordd lle rhoddir un hawlen i bob eiddo ond nid yw ar gyfer cerbyd penodol. Cost hawlen yw £200; cynyddwyd y ffi hon ar y 1af Mawrth 2018. Rhoddwyd 1039 o hawlenni blynyddol rhwng y 1 Ebrill 2017 a’r 31 Mawrth 2018 ynghyd â 269 o hawlenni ymwelwyr.

Gollyngiadau Parcio

O dan rai amgylchiadau mae’r Cyngor yn caniatáu, drwy gyhoeddi gollyngiad, i gerbyd barcio’n gyfreithlon yn groes i Orchymyn Rheoleiddio Traffig. Hefyd gall y Cyngor benderfynu bod atal dros dro o ran defnyddio llefydd parcio er mwyn cadw’r llefydd hynny ar gyfer cerbydau a/neu ymgeiswyr penodol. Caiff gollyngiadau eu rhoi ar ffurf hawlen dros dro sy’n cynnwys manylion y digwyddiad, rhif cofrestru’r cerbyd, a’r dyddiad a’r amser defnyddio. Mae’n rhaid arddangos yr hawlen yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd cymeradwy. Caniatawyd 186 o ollyngiadau rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

Gorfodi Sifil ar Barcio

Y Timau Parcio a Gofal Stryd

Mae cyfuno’r gwaith rheoli a gorfodi parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn sicrhau bod manteision sylweddol, yn weithredol ac yn gymunedol. Ym mis Ebrill 2013 cyfunwyd y tîm gwasanaeth parcio a’r tîm gofal stryd o dan un rheolwr gweithredol. Mae gan y ddwy adain eu cylch gwaith eu hunain o hyd, ond mae manteision y gwasanaeth cyfunol hwn yn cynnwys:

  • Cydlynu gorfodi a rheoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Cydlynu gorfodi’r holl faterion sy’n gysylltiedig â’r priffyrdd
  • Cydlynu’r gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
  • Rheoli a chydlynu’r digwyddiadau sy’n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Cydlynu’r gwaith trydydd parti ar y priffyrdd
  • Rheoli’r holl weithgareddau trwyddedig ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Gweithredu polisïau’n fwy effeithiol

Gweithredu Gorfodi Sifil ar Barcio

Ar hyn o bryd mae Sir Benfro yn cyflogi 13 o Swyddogion Gorfodi Sifil, 2 Glerc Technegol a 3 Swyddog Gwasanaethau Parcio; cefnogir y rhain i gyd gan y Rheolwr Gofal Stryd a Pharcio. Nid ydynt yn cael unrhyw gymelliadau na bonysau yn seiliedig ar berfformiad.
Rhoddir Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau) i gerbydau sy’n parcio’n groes i’r cyfyngiadau. Os yw modurwr am herio HTC mae’n rhaid dilyn y broses apelio y manylir arni ar gefn yr HTC. Gan fod staff y Gwasanaethau Parcio wedi bod yn gweithredu’r gwasanaeth Gorfodi Sifil ar Barcio ers mis Chwefror 2011 maent wedi magu dealltwriaeth drylwyr o’r mannau ac o’r adegau y mae parcio annetholus yn digwydd. Fodd bynnag, pan fo’r cyhoedd yn wynebu problemau parcio penodol, gallant roi gwybod amdanynt i’r swyddfa. Mae’r tîm gwasanaethau parcio yn gyfrifol hefyd am reoli’r holl feysydd parcio, y peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, Hawlenni i Breswylwyr, Tocynnau Tymor a Thocynnau Llefydd ar Gadw ar gyfer Meysydd Parcio, Gollyngiadau Parcio, a Thrwyddedau Meysydd Parcio.

Y Swyddfa Gefn – Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru

Parheir i ddefnyddio swyddfa gefn Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru i brosesu’r hysbysiadau tâl cosb a roddwyd. Cynhelir cyfarfodydd chwarterol o weithgor swyddogion, gyda chynrychiolwyr o bob Awdurdod Partner, i drafod cysondeb o ran gweithredu, i rannu arferion da ac i geisio cael arbedion effeithlonrwydd parhaus.

Asiantau Gorfodi

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar o Asiantau Gorfodi, sef Excel, Proserve, Swift ac A J Enforcement, i adennill dyledion. Mae gan y rhain oll brofiad sylweddol o ran y gwaith hwn, ac maent yn darparu gwasanaethau tebyg i gynghorau eraill Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru yn ogystal ag i’n partneriaid SWWITCH sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Y Perfformiad a’r Ystadegau

Perfformiad Ystadegol

Mae’r tablau isod yn manylu ar yr ystadegau ynghylch yr HTCau a roddwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018

HTCcau – Yr Achosion

Disgrifiad
HTCau a roddwyd
%
Nifer yr HTCau a roddwyd ar y stryd 7583 54.01%
Nifer yr HTCau a roddwyd oddi ar y stryd 6457 45.99%
Nifer yr HTCau a dalwyd yn ôl cyfradd ostyngol 8787 62.59%
Nifer yr HTCau a dalwyd ar ôl 14 o ddiwrnodau 2454 17.48% 
Nifer yr HTCau na thalwyd mohonynt 901 6.42% 
Nifer yr HTCau a ganslwyd (gweler tabl 6.5) 2277 16.22%
Cyfanswm yr HTCau a roddwyd 14040 -

 

Tramgwyddau Parcio ar y Stryd

Cod   
Disgrifiad
HTCau a roddwyd        
  %
 
01 Parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig 2099 14.95%
02

Parcio neu lwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym

133 0.95%
12

Parcio mewn man parcio i breswylwyr neu fan parcio cydddefnyddio heb arddangos yn glir hawlen a roddwyd ar gyfer y lle hwnnw

1897 13.51%
14

Parcio mewn man gwefru cerbydau trydan yn ystod oriau penodedig heb fod yn gwefru’r cerbyd

1 0.01%
16 Parcio mewn man hawlen heb arddangos hawlen ddilys 4 0.03%
21

Parcio mewn cilfan, neu ran o gilfan, lle’r oedd atal dros dro mewn grym

99 0.71%
23

Parcio mewn man parcio nad oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd

515 3.67%
25

Parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb fod yn llwytho

23 0.16%
26

Cerbyd wedi’i barcio mwy na 50cm o ymyl y ffordd a heb fod o fewn man parcio dynodedig

11 0.08%
27 Parcio wrth ymyl troedffordd isel 311 2.22%
40

Parcio mewn man parcio dynodedig i bobl anabl heb arddangos yn glir fathodyn person anabl dilys

570 4.06%
45 Parcio mewn safle tacsis 129  0.92%
47 Aros mewn safle bysiau cyfyngedig 30  0.21%
48 Aros mewn llecyn cyfyngedig y tu allan i ysgol 1  0.01%
49 Parcio’n llwyr neu’n rhannol ar lwybr beicio 1  0.01%
62

Parcio ag un neu fwy nag un olwyn ar ran o’r ffordd heblaw rhwng dwy ffordd gerbydau

1  0.01%
63

Parcio gyda’r injan yn dal i droi lle mae hynny’n waharddedig

1  0.01%
99

Aros ar groesfan i gerddwyr neu mewn llecyn wedi’i ddynodi â marciau igam-ogam

21  0.15%
04 Parcio mewn cilfan mesurydd lle nodir amser cosb 1  0.01%
05 Parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben 0 0.00%
06

Parcio heb arddangos yn glir docyn neu daleb talu ac arddangos dilys

9 0.06%
24 Heb barcio’n gywir o fewn marciau cilfan/safle 17 0.12%
30 Parcio am fwy o amser nag a ganiatawyd 1709 12.17%

 

Tramgwyddau Parcio Oddi ar y stryd

Cod   
Disgrifiad
HTCau a roddwyd
%
74

Defnyddio cerbyd mewn man parcio i werthu nwyddau neu i’w cynnig neu’u harddangos ar werth pan fo hynny wedi’i wahardd

2 0.01%
80 Parcio am fwy o amser na’r cyfnod hiraf a ganiatawyd 51 0.36%
81 Parcio mewn llecyn cyfyngedig mewn maes parcio 50 0.36%
82 Parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben 1438 10.24%
83

Parcio mewn maes parcio heb arddangos yn glir docyn neu daleb neu gloc parcio dilys

3791 27%
85 Parcio mewn cilfan hawlen heb arddangos hawlen ddilys 327 2.33%
86 Parcio’r tu hwnt i farciau’r gilfan 431 3.07%
87

Parcio mewn man parcio i bobl anabl heb arddangos yn glir fathodyn person anabl dilys

299 2.13%
91

Parcio mewn maes parcio nad oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd

53 0.38%
94

Parcio mewn maes parcio talu ac arddangos heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys pan oedd hynny’n ofynnol

2 0.01%
95

Parcio mewn man parcio at ddiben heblaw diben dynodedig y man parcio.

13 0.09%

 

HTCau a Ganslwyd

  • Nifer yr HTCau a ganslwyd o ganlyniad i sylwadau ffurfiol Derbyniwyd y Gwrthwynebiad - 1262 (8.99%)
  • Nifer yr HTCau a ganslwyd am resymau eraill (e.e. dim modd olrhain y perchennog, gwall CEO, DVLA yn methu darparu manylion) - 1015 (7.23%)
  • Y Cyfanswm a Ganslwyd - 2277 (16.22%)

Cymharu

  • Nifer yr HTCau a roddwyd: 14885 (2016/17) 14040 (2017/18)
  • Nifer yr HTCau ar y stryd: 7651 (2016/17) 7583(2017/18)
  • Nifer yr HTCau oddi ar y stryd: 7324 (2016/17) 6457 (2017/18)
  • Nifer yr HTCau a ganslwyd ar ffurf %: 11.18% (2016/17) 16.22% (2017/18)

Penderfyniadau dyfarnu a wnaed mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cosbau Traffig

  • Y Cyfanswm: 14 (2016/17) 10 (2017/18)
  • Gwrthodwyd yr Apêl: 10 (71%) (2016/17) 6 (60%) (2017/18)
  • Derbyniwyd yr Apêl: 4 (29%) (2016/17) 4 (40%) (2017/18)

Gwybodaeth Ariannol

Cyfrif Ariannol

Cyflwynir isod ddata ariannol am yr incwm a’r gwariant a reolir gan Adran 55 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984.

Incwm
      2016/17
     2017-18

Hawlenni Parcio i Breswylwyr (gan gynnwys Preswylwyr ac Ymwelwyr)

£40,412 £44,089
Gollyngiadau Parcio £6,060 £5,719
Taliadau Cosb £454,069 £447,032
Cyfraniadau, Eraill, ALlau £12,500 £12,500
Cyfanswm yr Incwm £513,042 £509,340

 

 

Gwariant
2016-17
 2017-18
Costau Staff £250,762 £259,216
Safleoedd £45,280 £44,196

Nwyddau a Gwasanaethau

£18,117 £18,700
Cymorth a Rheoli £104,852 £127,676
Taliadau Eraill £65,520 £58,494
Costau Cyfalaf £6,487 £0
Cyfanswm y Gwariant £491,020 £508,282
(Gwarged) / Diffyg (-£22,022.00) (-£1,058)

 

Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgarwch oddi ar y stryd nad yw’n cael ei reoli gan Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fentrau 2017/2018

Y Fenter

Dechrau ailwampio maes parcio amllawr Hwlffordd.

Y Cynnydd a wnaed

Ymgysylltwyd â’r rhanddeiliaid, a bellach mae cynlluniau ar y gweill i ailwampio’r cyfleuster presennol.

Y Fenter

Cydweithio ag APCAP, gan gynorthwyo’r Awdurdod i adolygu a ffurfioli unrhyw faterion ynghylch Gorchmynion Parcio, a hefyd datblygu’r posibiliadau o ran cydweithio’n agosach

Y Cynnydd a wnaed

Mae hyn ar waith. Buom yn gwneud gwaith gorfodi ym meysydd parcio PCAP ac rydym yn dal i ddatblygu trefniadau cydweithio cryf.

Y Fenter

Cydweithio â’r Tîm Trawsnewid i adolygu’r ffioedd a’r taliadau, a chefnogi’r ymagwedd adennill costau.

Y Cynnydd a wnaed

Adolygwyd yr holl ffioedd a thaliadau, ac fe’u cymeradwywyd gan y Cabinet.

Y Fenter

Parhau i ddatblygu ymagwedd rheoli asedau at feysydd parcio – Sicrhau bod yr holl archebion gwaith yn gysylltiedig â’r system AMX.

Y Cynnydd a wnaed

Bellach rhoddwyd Rhifau Stryd Unigryw i’r meysydd parcio, a’u llwytho yn AMX fel rhan o’n harchwiliad rheoli asedau.

Y Fenter

Adolygu’r potensial i wefru ceir trydan mewn meysydd parcio.

Y Cynnydd a wnaed

Rydym yn cydweithio â phartneriaid eraill i ddatblygu ymagwedd strategol at bwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Y Fenter

Adolygu consesiynau presennol y meysydd parcio ynghyd ag ystyried y dewisiadau o ran consesiynau newydd.

Y Cynnydd a wnaed

Bellach mae’r Awdurdod wedi cytuno ar ymagwedd newydd at gonsesiynau sy’n cael ei rhoi ar waith fesul cam.

Y Fenter

Datblygu system ar-lein i gyflwyno cais am hawlen, ac adolygu’r prosesau presennol. Cydweithio â’r Tîm Trawsnewid i ddatblygu proses newydd ar gyfer hawlenni.

Y Cynnydd a wnaed

Cwblhawyd. Datblygwyd system swyddfa gefn newydd ar gyfer hawlenni, ac mae’n weithredol.

Y Fenter

Adolygu’r holl hawlenni parcio ceir, gan ystyried bod yn fwy hyblyg.

Y Cynnydd a wnaed

Cyflwynwyd hawlenni newydd ym mis Mawrth 2018 gan roi mwy o ddewis a hyblygrwydd.

Datblygiadau a Mentrau’r Dyfodol

Ystyrir nifer o fentrau yn ystod 2018/19, a hynny naill ai yn dilyn gweithgarwch y llynedd a materion oedd yn codi neu ar ffurf fentrau newydd, fel a ganlyn:

  • Sefydlir Gweithgor Parcio, a fydd yn cyfarfod bob chwarter, er mwyn adolygu gwaith y gwasanaethau parcio. Bydd y gweithgor yn cynnwys swyddogion a Chynghorwyr Sir etholedig
  • Gwneud y gwaith unioni a gwella a glustnodwyd ar gyfer maes parcio aml-lawr Hwlffordd
  • Rhoi ar waith fesul cam ddewisiadau talu di-arian yn y peiriannau Talu ac Arddangos
  • Camu ymlaen o ran gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ein meysydd parcio
  • Parhau i ddatblygu’r system swyddfa gefn ar gyfer Hawlenni Parcio
  • Datblygu’r cynllun Rheoli Asedau Parcio drwy ddefnyddio’r meddalwedd AMX
  • Adolygu’r lefelau staffio yn y gwasanaethau parcio er mwyn sicrhau bod dilyniant busnes, datblygu’r ymagwedd rheoli asedau, parhau i ddatblygu’r gwasanaeth, a sicrhau yr adenillir y costau llawn
  • Parhau i gydweithio â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghylch gorfodi a rheoli mannau parcio’r Parc
  • Parhau i adolygu’r Gwasanaethau Parcio yn unol â’n rhaglen drawsnewid
  • Adolygu consesiynau ychwanegol posibl yn ein meysydd parcio

 

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir 

Aberllydan

  • Marine Road – yr ochr orllewinol

Dale

  • U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol

Abergwaun

  • Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Coronation Avenue

Hwlffordd

  • Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
  • Albany Terrace – yr ardal barcio
  • Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
  • Cartlett – yr ochr ogleddol
  • Ardal ger Castell y dref
  • North Street – yr ochr orllewinol
  • North Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Holloway – yr ochr ogleddol
  • Queens Square – yr ardal ganol
  • Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
  • Merlins Hill – yr ochr ogleddol
  • Hill Street
  • North Crescent – yr ochr orllewinol
  • Winch Crescent – yr ochr ddeheuol

Aberdaugleddau

  • Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Neyland
  • Neyland Hill – yr ochr ddeheuol

Penfro

  • Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Doc Penfro
  • Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Gordon Street – yr ochr orllewinol
  • Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol

Dinbych-y-pysgod

  • Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
  • Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
  • Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Weston Terrace – yr ochr orllewinol
  • Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Harries Street – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
  • Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
  • Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
  • Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Picton Terrace – yr ochr orllewinol
  • Queens Parade – yr ochr orllewinol
  • South Cilff Street – yr ochr ogleddol
  • St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
  • St Johns Hill – yr ochr ogleddol
  • St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
  • Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
  • The Croft – yr ochr ddwyreiniol
  • The Norton – yr ochr ddwyreiniol
  • The Paragon – yr ochr ddeheuol
  • Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
  • Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Warren Street – yr ochr ddeheuol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Hwlffordd
Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog
Tyddewi
Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol

ID: 9956, adolygwyd 27/04/2023