Parcio yn Sir Benfro

Beiciau Modur

Mae lleoedd penodol ar gyfer beiciau modur i'w cael yn y

  • Maes Parcio Aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod
  • St Thomas Green, Hwlffordd
  • Merrivale, Tyddewi

Mae beiciau modur yn cael parcio am ddim ym mhob un o'n meysydd parcio ond mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r telerau a'r amodau cyffredinol.

Telerau ac amodau defnyddio meysydd parcio

Ni ddylai gyrrwyr

  • Parcio heb arddangos tocyn hawl / tocyn dilys. 
  • Parcio heb fod yn gyfan gwbl o fewn cilfach barcio. 
  • Parcio naill ai mewn cilfan wedi'i neilltuo neu wedi'i roi ar gadw heb arddangos tocyn hawl dilys. 
  • Defnyddio unrhyw ran o'r maes parcio ar gyfer cysgu, gwersylla neu goginio. 
  • Gwneud unrhyw beth yn y man parcio hwn mewn perthynas â chynnig unrhyw beth neu wasanaeth ar werth neu ar log i bobl ar neu ger y maes parcio. 
  • Gwneud sŵn uchel yn y fath fodd ag i aflonyddu ar neu gythruddo trigolion neu defnyddwyr y man parcio.

Gellir rhoi Hysbysiad Tâl Gosb am fethiant i gydymffurfio â'r telerau a'r amodau.

 

ID: 275, adolygwyd 22/09/2022