Parcio yn Sir Benfro
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Mae ein maes parcio dros dro ar agor i roi mynediad hawdd i chi i’r dref.
Bydd mynedfa ac allanfa o Cartlett Road fel o'r blaen ar gyfer yr hen faes parcio aml-lawr. Map: What 3 Words (yn agor mewn tab newydd)
Sylwch mai maes parcio di-arian parod fydd hwn, a bydd taliadau drwy’r ap PayByPhone yn unig.
Am ragor o wybodaeth: barcio gyda PaybyPhone
Mae'r meysydd parcio eraill cyfagos yn Hwlffordd i'w canfod yn:
- Ffordd Perrots (tu ôl i Wilko)
- Ffordd Scotchwell (tu ôl i Aldi)
- Llyn y Castell
Mae’r orsaf fysiau wedi’i symud i’r hyn oedd yn faes parcio Bridgend Square er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau bysiau barhau drwy gydol y cyfnod dymchwel ac ailadeiladu.
Mae rhagor o wybodaeth am barcio ceir yn Hwlffordd ar gael yn: Parcio Ceir Hwlffordd
Cyflwniad
Mae cyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus fodern gwerth yn cael ei chynllunio ar gyfer Hwlffordd, fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i wella'r dref a galluogi pobl i gael mynediad i'r ganolfan yn llawer haws.
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect Metro De-orllewin Cymru a bydd yn darparu canolfan drafnidiaeth fodern ac arloesol, gan integreiddio pob dull trafnidiaeth.
Mae'r dyluniadau'n cynnwys gwelliannau i gyfleusterau i gerddwyr a beicwyr drwy'r safle, gorsaf fysiau fwy effeithlon ac integredig, ac adeiladu aml-lawr modern newydd.
Mae gan y Cyngor dîm o ymgynghorwyr sy'n dylunio'r cyfleuster gwell a fyddai ar safle'r orsaf fysiau bresennol a'r maes parcio aml-lawr.
Mae gwefan wedi'i lansio sy'n darparu dogfennau a lluniadau, gan gynnwys rendro 3D o'r dyluniad arfaethedig: Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Galluogi gwaith i ddechrau fel rhan o gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Hwlffordd
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r prosiect?
Diben y prosiect yw creu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd ar safle'r maes parcio aml-lawr presennol yn Cartlett Road yn Hwlffordd.
Mae'r cynllun yn ategu'r gwaith adfywio ehangach i adfywio canol tref Hwlffordd.
Mae hyn yn cynnwys: agor y Llyfrgell newydd ym mis Rhagfyr 2018; prynodd y Cyngor Ganolfan Siopa Glan yr Afon yn 2021 gyda'r nod o gael mwy o reolaeth i sicrhau datblygiadau defnydd cymysg eraill, gan gynnwys defnyddiau preswyl, swyddfa, masnachol a chymunedol; datblygu Glan Cei'r Gorllewin i greu amgylchedd bywiog a deniadol ar lan y cei gyda digon o le i gerddwyr, lleoedd manwerthu o safon a chyfleoedd i fusnesau fuddsoddi; a gwnaeth y cyllid "Ffyniant Bro" diweddar gyhoeddi gwelliannau yng Nghastell Hwlffordd i greu ardal berfformio awyr agored, adnewyddu'r carchar, a theithiau cerdded perimedr gyda chysylltiad uniongyrchol â chanol y dref drwy Stryd y Bont, ac ymlaen i Lan Cei’r Gorllewin a Glan yr Afon drwy "bont nodwedd".
Beth yw Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus?
Mae'n lleoliad lle darperir cyfleusterau ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn trosglwyddo teithwyr yn ddidrafferth rhwng y gwasanaethau hynny. Yn yr achos hwn, mae’n cynnwys ceir, bysiau, tacsis a theithio llesol fel cerdded a beicio.
Beth mae’r prosiect yn ei gynnwys?
Mae'n golygu dymchwel y maes parcio aml-lawr a'r orsaf fysiau bresennol a chreu cyfleuster ac amgylchedd cyfagos llawer gwell.
Bydd yr orsaf fysiau yn cael ei hintegreiddio o fewn y Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus gyda saith bae bws a chyfleusterau i deithwyr wedi'u huwchraddio gan gynnwys toiledau cyhoeddus a chyfleuster Lleoedd Newid.
Bydd gan y maes parcio aml-lawr newydd tua 320 o leoedd a bydd yn llawer haws i yrwyr ei ddefnyddio a symud o gwmpas.
Mae cymwysterau gwyrdd hefyd yn bwysig gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi'u cynnwys – gyda rhagor o fannau gwefru cerbydau wedi'u cynnwys a’u diogelu at y dyfodol - a phaneli solar wedi'u gosod ar do'r maes parcio newydd.
Bydd amgylchfyd cyhoeddus wedi'i uwchraddio yn gwella'r amgylchedd ymhellach o amgylch y Gyfnewidfa ac yn hyrwyddo Teithio Llesol fel cerdded a beicio.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwella'r ddarpariaeth parcio ceir a mynediad lleol i fysus yng ngorsaf reilffordd Hwlffordd.
Pam mae angen hyn arnom?
Mae'r maes parcio aml-lawr presennol mewn cyflwr gwael ac mae'n lle digroeso yng nghanol Tref y Sir. Mae hefyd yn anodd i gerbydau mwy, modern fynd o gwmpas, felly nid yw'n cael llawer o ddefnydd yn aml.
Bydd y Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn creu taith ddi-dor a phontio clir i deithwyr sy'n defnyddio'r cyfleusterau trafnidiaeth, gan annog pobl i fynd yno ac archwilio canol y dref.
Mae'r datblygiad hwn yn gyfle sylweddol i ddarparu cyfleuster modern, wedi'i gynllunio'n sensitif mewn lleoliad porth.
Mae hyn yn cysylltu â phrosiectau adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer Hwlffordd.
Oni fyddai’n well defnyddio’r arian hwnnw mewn mannau eraill?
Mae dyluniad y prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru ac mae'r cynllun yn ffurfio rhan o brosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Mae'r cynllun hefyd yn ategu'r gwaith adfywio ehangach i adfywio canol tref Hwlffordd.
Pe na fyddai'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn, ni fyddai ar gael i'r Cyngor.
Pryd fydd y gwaith yn dechrau ac am ba hyd mae'n debygol o bara?
Mae rhywfaint o’r gwaith wedi dechrau ar y safle i greu safle bws dros dro ar faes parcio blaenorol Bridgend Square.
Mae hyn er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau bysiau barhau drwy gydol y gwaith adeiladu.
Bwriedir dymchwel y maes parcio aml-lawr presennol ym mis Mehefin ar hyn o bryd, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.
Mae'r cam dymchwel ac ailadeiladu cyfan yn debygol o gymryd tua 18 mis i ddwy flynedd.
A fydd llawer o darfu?
Y nod yw sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ond rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fydd rhywfaint o darfu yn anochel.
Byddwn yn parhau i gyfathrebu drwy gydol y cyfnodau dymchwel ac adeiladu er mwyn sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd yn cael y wybodaeth ddiweddara’ ac yn gallu cynllunio ymlaen llaw.
Ble bydda’ i'n parcio pan fydd y maes parcio aml-lawr presennol ar gau ac yn cael ei ddymchwel?
Gallwch ddod o hyd i leoliadau meysydd parcio eraill yn Hwlffordd yma: Parcio ceri Hwlffordd
Bydd y Cyngor yn monitro materion parcio yn barhaus drwy gydol y cyfnod dymchwel ac adeiladu.