Parcio yn Sir Benfro
Faniau Gwersylla
Mae faniau gwersylla yn cael parcio yn unrhyw un o feysydd parcio'r Cyngor. Mae gan rai meysydd parcio leoedd mwy ar gyfer cerbydau mwy; os bydd fan wersylla ar fwy nag un lle parcio bydd rhaid prynu tocynnau ychwanegol.
Nid oes caniatâd i goginio a chysgu tros nos mewn faniau gwersylla.
Mewn rhai meysydd parcio sydd â chilfannau estynedig, mae gennym dariffau sy'n benodol ar gyfer cartrefi modur. Os nad oes tariffau penodol ac os ydych yn llenwi mwy nag un gilfan, bydd yn rhaid i chi brynu tocynnau ychwanegol.
Efallai na fydd modd mynd i mewn i'r meysydd parcio canlynol oherwydd rhwystrau sy'n cyfyngu'r uchder.
(Uchafswm yr uchder yw 6 troedfedd a 6 modfedd / 1.9m)
- West Street, Penfro
- Western Way, Doc Penfro
- Maes parcio isaf Townsmoor, Arberth
- Maes Parcio Aml-lawr Dinbych-y-pysgod
- Maes Parcio Aml-lawr Hwlffordd
- Salterns, Dinbych-y-pysgod
- Fort Road, Doc Penfro
- Scotchwell, Hwlffordd
Mae’r meysydd parcio canlynol yn cynnwys mannau parcio estynedig ar gyfer cartrefi modur:
- Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod
- The Green, Dinbych-y-pysgod
- Y Salterns, Dinbych-y-pysgod
- Y ganolfan hamdden, gorlif, Dinbych-y-pysgod – parcio am ddim
- Niwgwl, Isaf
- Niwgwl Uchaf
- Gwaun Wdig, Wdig
- Y Parrog, Wdig
- Traeth y De, maes parcio isaf, Dinbych-y-pysgod