Parcio yn Sir Benfro

Gorfodi Parcio Sifil Adroddiad Blynyddol 2014-15

Cyflwyniad

Strategaeth a Pholisi

Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro

Ein Gwasanaethau

Gorfodi Parcio Sifil

Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau

Gwybodaeth Ariannol

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2019 / 2020

Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir 

 

Cyflwyniad

gan y Cynghorydd Rob Lewis,

Llefarydd y Cabinet ar Briffyrdd, Cynllunio, Cludiant a Digwyddiadau o Bwys

Dyma’r pedwerydd adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym, yn unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Ei nod yw rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir Penfro’n gorfodi rheolau parcio ac yn cyflenwi ei wasanaethau cysylltiedig, a gosod y gwasanaeth yng nghyd-destun ein dyletswyddau a pholisïau rheoli rhwydweithiau ffyrdd eraill.

Rydym yn dal i orfodi cyfyngiadau parcio ar ac oddi ar y stryd ar holl ffyrdd yn y Sir ac yn holl feysydd parcio sydd ym meddiant y Cyngor. Cwmpas yr adroddiad hwn yw’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015. Os bydd gennych unrhyw gwestiwn neu sylwadau ar ein Adroddiad Blynyddol ar Barcio, cofiwch ddweud wrthym trwy ffonio 01437 764551 neu anfon e-bost atom yn parking@pembrokeshire.gov.uk. Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol ar Barcio 2014-15.

Strategaeth a pholisi

Cefndir

Mae’r Weledigaeth Strategol yng Nghynllun Corfforaethol a Gwella’r cyngor yn pwysleisio hyrwyddo amgylchedd deniadol, iach a glân ac mae’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn derbyn bod rheoli traffig yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau defnyddio’r briffordd yn ddiogel, effeithiol a rhesymegol.

Polisi Codi Tâl

Cymeradwyodd y Cabinet ddiwygio Polisi Codi am Barcio Ceir ar 6 Hydref 2014 a bydd angen adolygu mwy arno’n dilyn penderfyniadau a wnaed yn y Cabinet ar 7 Gorffennaf 2015 (yn dilyn penderfyniad i gyflwyno taliadau newydd mewn meysydd parcio di-dâl penodol). Mae prisiau parcio ceir yn ystyried yr egwyddorion canlynol.

  •  Yr angen i hybu siopa;
  • Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llif y traffig;
  • Yr angen i reoli’r galw’n effeithiol;
  • Natur lleoliad parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. siopwr / busnes trefol, preswyl, siopwr tref wledig, traeth / ymwelwyr;
  • Cymhariaeth gyda darparwyr eraill yn y cylch;
  • Yr angen i annog defnyddio dulliau cludo mwy cynaliadwy, gan gynnwys cludiant cyhoeddus;
  • Nid yw prisiau’n cael eu pennu’n gyfan gwbl er mwyn cael incwm;
  • Ystyried darpariaeth y gyllideb gyllidol at ei gilydd (gwariant ac incwm) ar gyfer meysydd parcio;
  • Rhagdybiaeth o blaid talu am welliannau trwy brisiau uwch.

Caiff yr egwyddorion hyn eu cymhwyso’n gyson, sy’n arwain at wahanol brisiau o le i le.


Rheoli’r Galw

Ystyriwyd prisiau parcio ceir fesul lleoliad. Caiff prisiau parcio ceir yn Sir Benfro eu pennu i hybu siopwyr, sy’n debygol o fod angen mannau arhosiad byr. Pan fo galw mawr am barcio ceir a/neu ychydig o le, yna caiff cyfnodau a phrisiau parcio eu pennu’n ofalus i gael y trosiant gorau.

Darpariaeth Barcio yn Sir Benfro

Oddi ar y stryd

Bydd yr Awdurdod yn rheoli meysydd parcio i ddarparu ar gyfer defnyddwyr arhosiad byr ac arhosiad hir. Mae prisiau’n berthnasol yn unol â Pholisi’r Cyngor. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl yn unol â chanllawiau DfT.

Ar y Stryd

Mae’r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar y briffordd gyhoeddus fabwysiedig pan fo’n briodol gwneud hynny heb ymyrryd yn ormodol ar draffig symudol. Mae’n darparu ar gyfer aros cyfyngedig, pobl anabl, llwytho, tacsis, beiciau modur a thrigolion.
Mae wedi datblygu arferion teg a chadarn i reoli ymyl y pafin er mwyn darparu ar gyfer gofynion yr amrywiol ddefnyddwyr sy’n cystadlu. Ni weithredwyd unrhyw gyfyngiadau heb orchymyn rheoleiddio traffig yn gefn iddynt.


Ein Gwasanaethau


Parcio Oddi ar y Stryd

Mae gan y Cyngor feysydd parcio talu a di-dâl; mae manylion ar wefan y cyngor www.sir-benfro.gov.uk. Mae gan Gyngor Sir Penfro 97 o feysydd parcio, 32 ohonynt yn rhai talu ac arddangos. Rhaid talu mewn 18 ohonynt drwy gydol y flwyddyn a 14 yn dymhorol.

Rhwng 1af Ebrill 2014 a 31ain Mawrth 2015 cyhoeddwyd y canlynol

  • 120 o docynnau tymor
  • 107 o hawlenni cilfachau cadw
  • 134 o hawlenni Harbwr Dinbych-y-pysgod.

Neilltuwyd isafswm o 6% o fannau ar gyfer deiliaid bathodynnau glas. Hepgorodd y Cyngor daliadau yn holl feysydd parcio talu ledled y Sir ar ddiwrnodau arbennig ym mis Rhagfyr yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Ar y Stryd

Ar hyn o bryd mae 840 o fannau aros cyfyngedig, 127 o fannau i bobl anabl, 33 o fannau tacsi, 3 cilfach fysiau, 26 o gilfachau llwytho / dadlwytho nwyddau, 1 cilfach ambiwlans ac 1 cilfach beic modur. O fewn y mannau parcio at ei gilydd erys 668 o fannau ar gyfer Deiliaid Hawlenni Trigolion / Busnes.


Parcio Trigolion

Sefydlwyd Cynlluniau Parcio Trigolion, lle bo hynny’n ymarferol, mewn nifer o strydoedd / lleoliadau ledled y Sir. Ar hyn o bryd mae 58 o gynlluniau’n gweithredu, gyda rhestr lawn yn Atodiad 1. Caiff holl gynlluniau ar y briffordd gyhoeddus eu gweithredu dan yr un rheoliadau, un hawlen fesul eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Mae hawlenni’n ddilys am gyfnod o hyd at 12 mis ac yn costio £40.00. Mae hawlenni ymwelwyr ar gael am gyfnodau hyd at 7 diwrnod am £20.00, eto un fesul eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Rhaid rhoi tystiolaeth o ddeiliadaeth, yswiriant dilys a thystysgrif MOT.

Caiff cynllun oddi ar y ffordd ei weithredu yn Harbwr Dinbych-y-pysgod gydag un hawlen fesul eiddo ond heb fod yn benodol i gerbyd. Cost yr hawlen yw £100 ac nid yw wedi codi ers 2003.

Cyhoeddwyd 873 o hawlenni blynyddol rhwng 1af Ebrill 2014 ac 31ain Mawrth 2015 a 220 o hawlenni ymwelwyr.

Caniatâd Parcio

Trwy roi goddefeb, mae’r Cyngor yn caniatáu parcio cerbyd yn gyfreithlon yn groes i Orchymyn Rheoleiddio Traffig, dan rai amgylchiadau. Gall hefyd atal mannau parcio dros dro at ddibenion neilltuo’r mannau hynny i gerbydau a/neu geiswyr arbennig.

Bydd goddefebau’n cael eu rhoi trwy hawlen dros dro’n cynnwys manylion yr achlysur, rhif cofrestru’r cerbyd, dyddiad ac amser defnyddio. Rhaid arddangos yr hawlen yn amlwg ar ffenestr flaen y cerbyd cymeradwy. Cyhoeddwyd 133 o oddefebau rhwng 1af Ebrill 2014 ac 31ain Mawrth 2015.

Gorfodi Rheolau Parcio Sifil

Parcio a Thimau Gofal Strydoedd

Cafwyd cryn fuddiannau gweithredol a chymunedol cymunedol trwy gyfuno rheoli a gorfodi rheolau parcio ar ac oddi ar y stryd. Ym mis Ebrill 2013, cyfunwyd tîm y Gwasanaeth Parcio a’r tîm Gofal Strydoedd dan un rheolwr gweithredol. Mae’r ddwy adran yn dal i fod â’u cylchoedd gwaith eu hunain; fodd bynnag, mae buddiannau’r gwasanaeth cyfunol hwn yn cynnwys y canlynol:

  •  Gorfodaeth a rheolaeth gydgysylltiedig o reolau parcio ar ac oddi ar y stryd
  • Gorfodaeth gydgysylltiedig o holl faterion cysylltiedig â phriffyrdd
  • Cydgysylltu gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
  •  Rheoli a chydgysylltu achlysuron sy’n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Cydgysylltu gwaith trydydd-parti ar y briffordd
  • Rheoli holl weithgareddau trwyddedig ar ac oddi ar y stryd
  • Gweithredu polisïau’n fwy effeithiol

Gweithredu CPE

Ar hyn o bryd mae Sir Benfro’n cyflogi 12 o Swyddogion Gorfodi Sifil, 2 Glerc Technegol a 3 Swyddog Gwasanaethau Parcio; maent i gyd dan ofal y Rheolwr Parcio a Gofal Strydoedd. Nid ydynt yn derbyn unrhyw fonysau neu gymhellion cysylltiedig â pherfformiad.
Caiff rhybuddion talu cosb eu rhoi i fodurwyr sy’n parcio’u cerbydau’n groes i gyfyngiadau. Os yw modurwyr yn dymuno herio RhTC rhaid iddynt ddilyn y broses apelio sy’n cael ei manylu ar gefn y RhTC.

Ar ôl gweithredu CPE ers mis Chwefror 2011 mae staff y Gwasanaethau Parcio wedi dod i ddeall yn dda ymhle a phryd fydd parcio difeddwl yn digwydd. Fodd bynnag, pan fo’r cyhoedd yn dioddef problemau parcio
arbennig gallant eu hadrodd i’r swyddfa.

Mae’r tîm gwasanaethau parcio hefyd yn gyfrifol am reoli holl feysydd parcio, peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, Hawlenni Trigolion, Tocynnau Tymor a Chadw Meysydd Parcio, Caniatâd Parcio a Thrwyddedau Meysydd Parcio.

Y Swyddfa Gefn - Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPC Cymru)

Mae swyddfa gefn PPC Cymru’n dal i gael ei defnyddio i brosesu’r RhTC sy’n cael eu rhoi. Caiff cyfarfodydd chwarterol eu cynnal gyda chynrychiolwyr pob Awdurdod Partner, gweithgor swyddogion, i drafod cysondeb gweithredol, rhannu arferion gorau a cheisio arbedion effeithlonrwydd parhaol.

Asiantau Gorfodi

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar cwmni beili i adennill dyledion, sef Excel, Proserve, Swift ac A J Enforcement. Mae gan bob un ohonynt brofiad sylweddol o’r gwaith yma gan ddarparu gwasanaethau tebyg i gynghorau eraill PPC Cymru yn ogystal â’n partneriaid NEWID, sef Cyngor Sir Gâr, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castellnedd Port Talbot.

Perfformiad ac Ystadegau

Perfformiad Ystadegol

Dengys y tablau isod ystadegau cysylltiedig â RhTC a roddwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1af Ebrill 2014 ac 31ain Mawrth 2015.

RhTC - Dilyniant Achosion

Disgrifiad
Nifer y RhTC
a Roddwyd
 
%
RhTC a roddwyd ar y stryd 6505 51%
RhTC a roddwyd oddi ar y stryd 6396 49%
Nifer y RhTC a dalwyd am bris rhatach 8917 69%
Nifer y RhTC a dalwyd ar ôl 14 diwrnod 1590 12% 
Nifer y RhTC na thalwyd 1164 9% 
Nifer y RhTC a ddiddymwyd (gwelwch dabl 6.5) 1230 10%
Cyfanswm y RhTC an roddwyd 12901 -

 

Toriadau Rheolau Parcio ar y Stryd

 

Cod   
Disgrifiad
RhTC a
Roddwyd
        
  %
 
01 Parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig 1841 14%
02

Parcio neu’n llwytho / dadlwytho mewn stryd gyfyngedig lle mae cyfyngiadau aros a llwytho / dadlwytho mewn grym

149 1%
12

Parcio mewn man parcio trigolion neu rannu defnydd heb arddangos hawlen yn amlwg a roddwyd ar gyfer y man hwnnw

1844 14%
16 Parcio mewn man hawlen heb arddangos hawlen ddilys 11 -
18

Defnyddio cerbyd mewn man parcio mewn cysylltiad â gwerthu neu gynnig neu ddangos nwyddau ar werth pan waharddwyd hynny

0 0.9%
20 Parcio mewn bwlch llwytho a nodwyd gyda llinell felen 0 0%
21 Parcio mewn cilfach neu ran o gilfach a ataliwyd 60 0.5%
23

Parcio mewn man parcio na ddynodwyd ar gyfer cerbyd o’r dosbarth hwnnw

294 2.3%
25

Parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho

70 0.6%
26

Parcio mwy na 50 cm o ymyl y lôn gerbydau ac nid o fewn man parcio dynodedig

34 0.26%
27 Parcio o flaen palmant isel 248 2%
40

Parcio mewn man parcio rhywun anabl dynodedig heb ddangos bathodyn anabl dilys yn amlwg

443 3.5%
45 Parcio mewn safle tacsis 84 0.65%
46 Stopio lle gwaharddwyd hynny 2 0.01%
47 Stopio mewn safle bysiau cyfyngedig 42 0.3%
48 Stopio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol 0 0%
49 Parcio’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar lwybr beicio 4 0.03%
56 Parcio’n groes i gyfyngiad aros cerbydau masnachol 0 0%
62

Parcio gydag un olwyn neu fwy ar ran o’r ffordd heblaw rhwng dwy lôn gerbydau

0 0%
99

Stopio ar groesfan gerddwyr neu ardal a nodwyd gydag igam-ogam

7 0.05%
05 Parcio ar ôl terfyn yr amser y talwyd amdano 2 0.01%
06 Parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys 7 0.05%
11 Parcio heb dalu’r pris parcio 0 0%
19

Parcio mewn man parcio trigolion neu ddefnydd ar y cyd gan arddangos hawlen annilys

0 0.01%
22

Ailbarcio yn yr un man parcio o fewn cyn pen awr ar ôl ymadael

1 0.01%
24 Heb barcio’n gywir o fewn marciau cilfach / man parcio 19 0.14%
30 Parcio’n hwy na’r hawl 1299 10%

 

 Toriadau Rheolau Parcio Oddi ar y Stryd

 

Cod   
Disgrifiad
RhTC a
Roddwyd
 
%
70 Parcio mewn parth llwytho yn ystod oriau cyfyngedig 0 0%
73 Parcio heb dalu’r pris parcio 2 0.01%
74

Defnyddio cerbyd mewn man parcio mewn cysylltiad â gwerthu neu gynnig neu ddangos nwyddau ar werth pan waharddwyd hynny

2 0.01%
80 Parcio’n hwy na’r cyfnod hwyaf a ganiateir 39 0.3%
81 Parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio 18 0.14%
82 Parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben 1580 12%
83

Parcio mewn maes parcio heb ddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos dilys yn amlwg

3682 28.5%
85 Parcio mewn cilfach hawlen heb arddangos hawlen ddilys 317 2.5%
86 Parcio y tu hwnt i’r marciau cilfach 330 2.6%
87

Parcio mewn man parcio pobl anabl heb ddangos bathodyn dilys pobl anabl yn amlwg

443 3.4%
89 Parcio cerbyd dros bwysau / uchder / hyd mwyaf yr ardal 0 0%
91

Parcio mewn maes parcio na ddynodwyd ar gyfer cerbyd o’r dosbarth hwnnw

12 0.1%
92 Parcio gan achosi rhwystr 1 0.01%
94 Tocynnau lluosog 1 0.01%
95

Parcio mewn man parcio at ddiben heblaw diben penodedig y man parcio

11 0.1%

 

RhTC a Ddiddymwyd

  • Nifer y RhTC a ddiddymwyd o ganlyniad i achos a derbyn yr her: 1018 (8%)

  • Nifer y RhTC a ddiddymwyd am resymau eraill (e.e. methu dod o hyd i’r perchennog, camgymeriad CEO, DVLA yn methu rhoi manylion): 212 (2%)

Cymharu

  • Nifer y RhTC a roddwyd: 11866 (2013-14)     12901 (2014-15)
  • Nifer y RhTC ar y stryd: 6138 (2013-14)      6505 (2014-15)
  • Nifer y RhTC oddi ar y stryd: 5728 (2013-14)      6396 (2014-15)
  • % y RhTC a ddiddymwyd: 14% (2013-14) 10% (2014-15)

Dyfarniadau (Tribiwnlys Parcio) 

  • Cyfanswm: 25 (2013-14)      25 (2014-15)
  • Gwrthodwyd yr apêl: 20 (80%)  (2013-14)      21 (84%) (2014-15)
  • Derbyniwyd yr apêl: 5 (20%) (2013-14)      4 (16%) (2014-15)

Gwybodaeth Ariannol

Cyfrif Ariannol

Income and expenditure financial data governed by Section 55 of the Road Traffic Regulations Act 1984 is presented below.

 

Incwm

      2013-14

     2014-15

Hawlenni Parcio Trigolion (yn cynnwys trigolion ac ymwelwyr)

£31,375 £38,316
Caniatâd Parcio £6,228 £8,970
Cosbau £365,564 £398,465
Cyfanswm Incwm £403,167.00 £445,752.00

 

Gwariant

2013-14

 2014-15

Costau cyflogeion £226,990 £205,775
Eiddo £45,699 £41,460
Nwyddau a gwasanaethau £65,432 £16,552
Cefnogaeth a rheolaeth £95,492 £99,535
Taliadau eraill £0 £47,565
Taliadau Cyfalaf £6,964 £6,946
Gwariant Llawn £440,557 £417,851
(Gwarged) / Diffyg £37,410.00 (£27,901.00)

 

Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgaredd oddi ar y stryd nad yw’n cael ei llywodraethu gan Ddeddf Rheoli Traffig y Ffyrdd 1984.

 

Y Diweddaraf ar Arweiniadau 2014 / 2015

Menter

Gorffen gwaith yn MSC Dinbych-ypysgod

Cynnydd

Gorffennwyd yr holl waith erbyn hyn

 

Menter

Adolygu TCC ar gyfer MSCP Hwlffordd

Cynnydd

Gohiriwyd hyn i aros am adolygiad eto

 

Menter

Adolygu a gwneud argymhellion ar drefniadau gofalwyr ar y stryd

Cynnydd

Rydym wedi adolygu’r llythyr a anfonwyd at sefydliadau gofalwyr; fodd bynnag, mae’n ymddangos bod angen mwy o eglurhad. Byddwn yn ymgysylltu mwy.

 

Menter

Dal i weithio ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cynnydd

Mae gorchymyn meysydd parcio PCAP mewn grym bellach. Buom yn gwneud gwaith gorfodi ym meysydd parcio PCAP yr haf hwn. Mae angen rhagor o waith o ran cydweithio hirdymor

 

Menter

Gweithredu prisiau meysydd parcio diwygiedig, fel y cytunwyd gan y Cabinet ar 6ed Hydref 2014

Cynnydd

Gweithredwyd y taliadau. Meysydd parcio Talu ac Arddangos ychwanegol i ddod i rym o 1af Chwefror 2016 ymlaen

 

Menter

Datblygu syniad y Pasbort Hawl Parcio

Cynnydd

Cyflwynwyd y pasbort parcio yn 2015 a gwerthwyd rhyw 360 ohonynt

 

Menter

Adolygu Gwefan Cyngor Sir Penfro o ran CPE a meysydd parcio

Cynnydd

Mae hyn ar y gweill, gwnaed newidiadau ond mae angen rhagor owaith

 

Menter

Creu cynllun rheoli asedau meysydd parcio

Cynnydd

Mae hyn ar y gweill ac mae trafodaethau mewnol yn digwydd i nodi rhestri gwaith, gwariant ac incwm

 

Datblygiad ac Arweiniadau’r Dyfodol

Yn 2015/16 bydd nifer o arweiniadau’n cael eu hystyried, naill ai’n dilyn gweithgaredd y llynedd a materion yn codi neu arweiniadau newydd, fel a ganlyn:

 

  • Adolygu cyflwr maes parcio amrylawr Hwlffordd
  • Dechrau codi am 6 o feysydd parcio ychwanegol
  • Adolygu swyddogaeth bresennol swyddogion gorfodi rheolau parcio sifil
  • Adolygu offer llaw presennol swyddogion gorfodi sifil
  • Cyflwyno adroddiad ar effaith y taliadau i’w gyflwyno i’r Cabinet ac adolygiad eto o brisiau meysydd parcio
  • Parhau gwaith ar Gyfnewidfa Doc Penfro
  • Ehangu cyfleuster parcio ceir yng ngorsaf drenau Wdig
  • Adolygu holl Hawlenni cyfredol

 

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir 

Aberllydan

  • Marine Road – yr ochr orllewinol

Dale

  • U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol

Abergwaun

  • Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Coronation Avenue

Hwlffordd

  • Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
  • Albany Terrace – yr ardal barcio
  • Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
  • Cartlett – yr ochr ogleddol
  • Ardal ger Castell y dref
  • North Street – yr ochr orllewinol
  • North Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Holloway – yr ochr ogleddol
  • Queens Square – yr ardal ganol
  • Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
  • Merlins Hill – yr ochr ogleddol
  • Hill Street
  • North Crescent – yr ochr orllewinol
  • Winch Crescent – yr ochr ddeheuol

Aberdaugleddau

  • Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Neyland
  • Neyland Hill – yr ochr ddeheuol

Penfro

  • Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Doc Penfro
  • Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Gordon Street – yr ochr orllewinol
  • Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol

Dinbych-y-pysgod

  • Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
  • Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
  • Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Weston Terrace – yr ochr orllewinol
  • Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Harries Street – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
  • Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
  • Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
  • Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Picton Terrace – yr ochr orllewinol
  • Queens Parade – yr ochr orllewinol
  • South Cilff Street – yr ochr ogleddol
  • St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
  • St Johns Hill – yr ochr ogleddol
  • St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
  • Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
  • The Croft – yr ochr ddwyreiniol
  • The Norton – yr ochr ddwyreiniol
  • The Paragon – yr ochr ddeheuol
  • Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
  • Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Warren Street – yr ochr ddeheuol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Hwlffordd

Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog

Tyddewi

Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol

ID: 10361, adolygwyd 04/07/2023