Parcio yn Sir Benfro
Gorfodi Parcio Sifil Adroddiad Blynyddol 2016-17
Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro
Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau
Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2019 / 2020
Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Cyflwyniad
Mae gofyn i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Hwn yw’r Chweched adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym yn unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Ei nod yw rhoi gwybod sut mae Cyngor Sir Penfro yn cyflenwi ei wasanaethau gorfodi parcio a’i wasanaethau cysylltiedig, a gosod y gwasanaeth yn ei gyd-destun gyda’n dyletswyddau a pholisïau eraill o ran rheoli’r rhwydwaith ffyrdd.
Mae’r Cyngor yn parhau i orfodi cyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar bob ffordd yn y Sir ac ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, rhowch wybod inni drwy ein ffonio ar 01437 764551 neu anfon ebost atom yn parking@pembrokeshire.gov.uk.
Strategaeth y pholisi
Cefndir
Mae Gweledigaeth Strategol y Cyngor yn pwysleisio hyrwyddo amgylchedd deniadol, glân ac iach ac mae’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn cydnabod bod rheoli traffig yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y briffordd yn cael ei defnyddio’n ddiogel, yn effeithiol ac yn rhesymol.
Polisi Codi Tâl
- Yr angen i annog masnach adwerthu;
- Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llifoedd traffig;
- Yr angen i reoli galw yn effeithiol;
- Natur y lleoliad parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. busnes/siopwr trefol, preswyl, siopwr tref wledig, traeth/ymwelydd;
- Cymharu â darparwyr eraill yn yr ardal;
- Yr angen i annog pobl i ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o gludiant, gan gynnwys cludiant cyhoeddus;
- Nid i gael incwm yn unig y gosodir taliadau;
- Maent yn ystyried y ddarpariaeth cyllideb refeniw gyffredinol (gwariant ac incwm) i feysydd parcio
- Ceir rhagdybiaeth o blaid gwelliannau’n cael eu hariannu gan dariff cynyddol.
Cymhwysir yr egwyddorion hyn yn gyson, sy’n arwain at wahanol daliadau o’r naill le i’r llall.
Rheoli Galw
Ystyriwyd taliadau parcio ceir yn ôl lleoliad. Gosodir taliadau parcio ceir yn Sir Benfro i annog siopwyr, ac mae’n debygol mai lleoedd arhosiad byr y bydd eu hangen arnynt. Lle mae parcio ceir yn destun galw mawr a/neu brinder lle, caiff cyfnodau a thariffau parcio eu gosod yn ofalus i sicrhau’r trosiant gorau posibl.
Y Ddarpariaeth Barcio yn Sir Benfro
Oddi ar y Stryd
Mae’r Awdurdod yn rheoli meysydd parcio i ddarparu ar gyfer defnyddwyr arhosiad byr ac arhosiad hir. Mae taliadau’n berthnasol yn unol â Pholisi’r Cyngor. Mae’r ddarpariaeth i’r anabl yn unol â’r canllawiau a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth.
Ar y Stryd
Mae’r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar y briffordd gyhoeddus wedi’i mabwysiadu lle ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny heb aflonyddu’n ormodol ar draffig sy’n symud. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer aros cyfyngedig, yr anabl, llwytho, tacsi, beiciau modur a phreswylwyr. Mae wedi datblygu arferion cadarn a theg i reoli ochr y cwrb ar gyfer gofynion cystadleuol yr amryw ddefnyddwyr. Ni weithredwyd dim cyfyngiadau sydd heb orchymyn rheoleiddio traffig i’w cefnogi.
Ein Gwasanaethau
Parcio Oddi ar y Stryd
Mae gan y Cyngor feysydd parcio di-dâl a rhai lle codir tâl; mae manylion ar wefan y Cyngor www.pembrokeshire.gov.uk. Mae gan Gyngor Sir Penfro 97 o feysydd parcio, a 36 ohonynt yn rhai talu ac arddangos. Mae gan 18 daliadau sy’n berthnasol drwy gydol y flwyddyn ac mae gan 14 daliadau tymhorol.
Rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017 cyhoeddwyd y canlynol:
- 190 o docynnau tymor
- 167 o drwyddedau lle ar gadw
- 343 o drwyddedau Harbwr Dinbych-y-pysgod.
Neilltuwyd o leiaf 6% o leoedd ar gyfer deiliaid bathodyn las. Hepgorodd y Cyngor daliadau ar rai diwrnodau ym mis Rhagfyr wrth agosáu at y Nadolig ym mhob maes parcio lle codir tâl drwy’r Sir.
Ar y Stryd
Ar hyn o bryd, mae 1035 o leoedd aros cyfyngedig, 127 o leoedd i’r anabl, 33 o leoedd tacsi, 3 cilfach bws, 28 cilfach ar gyfer llwytho / cilfachau dadlwytho nwyddau, 1 cilfach ambiwlans ac 1 gilfach beic modur. Yn rhan o’r lleoedd cyffredinol, mae 636 o leoedd ar ôl i Ddeiliaid Trwydded Busnes / Preswylydd.
Parcio i Breswylwyr
Cyflwynwyd Cynlluniau Parcio Preswylwyr, lle mae’n ymarferol, ar nifer o strydoedd/lleoliadau ledled y Sir. Ar hyn o bryd mae 57 o gynlluniau ar waith, a rhestr lawn ohonynt yn Atodiad 1. Gweithredir pob cynllun ar y briffordd gyhoeddus o dan yr un rheoliadau, sef un drwydded yr eiddo i gerbyd penodol. Mae’r trwyddedau’n ddilys hyd at 12 mis. Cost trwydded yw £40.00. Mae trwyddedau ymwelwyr ar gael am gyfnodau hyd at 7 niwrnod am £20.00, ac eto un yr eiddo i gerbyd penodol. Rhaid darparu tystiolaeth o anheddu, yswiriant dilys a thystysgrif MOT.
Gweithredir cynllun heblaw priffyrdd yn Harbwr Dinbych-y-pysgod lle cyhoeddir un drwydded i bob eiddo ond nid yw’n benodol i gerbyd. Mae trwydded yn costio £100 ac nid yw’r gost wedi codi ers 2003. Cyhoeddwyd 1178 o drwyddedau blynyddol rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017 a 198 o drwyddedau ymwelwyr.
Gollyngiadau Parcio
Mewn rhai amgylchiadau, drwy gyhoeddi gollyngiad, mae’r Cyngor yn caniatáu i gerbyd barcio’n gyfreithlon yn groes i Orchymyn Rheoleiddio Traffig. Caiff hefyd atal lleoedd parcio er mwyn cadw’r lleoedd hynny ar gyfer cerbydau a/neu ymgeiswyr penodol. Bydd gollyngiadau’n cael eu cyhoeddi drwy fodd trwydded dros dro sy’n cynnwys manylion y digwyddiad, rhif cofrestru’r cerbyd, dyddiad ac amser defnyddio. Rhaid arddangos y drwydded yn glir ar sgrin wynt flaen y cerbyd cymeradwy. Cyhoeddwyd 186 o ollyngiadau rhwng 1 Ebrill 2016 a 1 Mawrth 2017.
Gorfodi Parcio Sifil
Timau Parcio a Gofal Stryd
Drwy gyfuno’r gwaith o reoli a gorfodi parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd, sicrheir buddion gweithredol a chymunedol sylweddol. Ym mis Ebrill 2013 cyfunwyd y tîm gwasanaeth parcio a’r tîm gofal stryd o dan un rheolwr gweithredol. Serch hynny, mae gan y ddwy adran eu cylch gwaith eu hunain, ac mae buddion y gwasanaeth cyfunol hwn yn cynnwys:
- Cydlynu’r gwaith o orfodi a rheoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydlynu’r gwaith o orfodi’r holl faterion cysylltiedig â’r priffyrdd
- Cydlynu gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
- Rheoli a chydlynu digwyddiadau sy’n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydlynu gwaith trydydd parti ar y briffordd
- Rheoli’r holl weithgareddau trwyddedig ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Gweithredu polisïau’n fwy effeithiol
Gweithredu’r Gwasanaeth Gorfodi Parcio Sifil
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro’n cyflogi 13 o Swyddogion Gorfodi Sifil, 2 Glerc Technegol a 3 Swyddog Gwasanaethau Parcio; cânt oll eu cefnogi gan y Rheolwr Gofal Stryd a Pharcio. Ni chânt unrhyw gymhellion na bonws sy’n seiliedig ar berfformiad. Rhoir hysbysiadau tâl cosb i gerbydau sy’n parcio’n groes i’r cyfyngiadau. Os bydd modurwr yn dymuno dadlau hysbysiad tâl cosb, rhaid iddo ddilyn y broses apelio a ddisgrifir ar gefn yr hysbysiad tâl cosb. Wedi gweithredu’r gwasanaeth Gorfodi Parcio Sifil ers mis Chwefror 2011, mae’r staff Gwasanaethau Parcio wedi magu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r mannau a’r adegau lle digwydd parcio diwahaniaeth. Fodd bynnag, pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cael problemau parcio penodol, gallant roi gwybod i’r swyddfa amdanynt. Mae’r tîm gwasanaethau parcio yn gyfrifol hefyd am reoli'r holl feysydd parcio, peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, Trwyddedau i Breswylwyr, Tocynnau Tymor a Thocynnau Lle ar Gadw Meysydd Parcio, Gollyngiadau Parcio a Thrwyddedau Maes Parcio.
Y Swyddfa Gefn – Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPC Cymru)
Defnyddir swyddfa gefn PPC Cymru o hyd i brosesu’r hysbysiadau tâl cosb a gyhoeddwyd. Mae cyfarfodydd chwarterol, gweithgor swyddogion, gyda chynrychiolwyr o bob Awdurdod Partner i drafod cysondeb gweithredol, rhannu arfer gorau ac anelu at arbedion effeithlonrwydd parhaus.
Asiantau Gorfodi
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar cwmni beili i adennill dyledion, sef Excel, Proserve, Swift ac A J Enforcement. Mae ganddynt oll brofiad sylweddol yn y gwaith hwn a darparant wasanaethau tebyg i gynghorau PPC eraill yng Nghymru yn ogystal â’n partneriaid SWWITCH sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Perfformiad ac Ystadegau
Perfformiad Ystadegol
Dengys y tablau isod yr ystadegau mewn perthynas â Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.
Hysbysiadau Cosb Tâl – Datblygiad Achosion
Disgrifiad |
Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd |
% |
---|---|---|
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl ar y stryd | 7561 | 50.80% |
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl oddi ar y stryd | 7324 | 49.20% |
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a dalwyd yn ôl cyfradd |
9350 | 70.92% |
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a dalwyd ar ôl 14 diwrnod | 2962 | 22.46% |
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl heb eu talu | 873 | 6.62% |
Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a ganslwyd (gweler tabl 6.5) | 1664 | 11.17% |
Cyfanswm yr Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd | 14885 | - |
Tramgwyddau Parcio ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd |
% |
---|---|---|---|
01 |
Wedi parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig |
2190 | 14.7% |
02 |
Wedi parcio neu’n llwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym. |
158 | 1.1% |
12 |
Wedi parcio mewn lle parcio preswylwyr neu gydddefnyddio heb arddangos yn glir drwydded a gyhoeddwyd ar gyfer y lle hwnnw |
1747 | 11.7% |
14 |
Wedi parcio mewn man gwefru cerbydau trydan yn ystod oriau cyfyngedig heb wefru |
1 | 0.0% |
16 |
Wedi parcio mewn lle trwydded heb arddangos y drwydded ddilys |
7 | 0.0% |
21 |
Wedi parcio mewn cilfach waharddedig neu ran o gilfach |
76 | 0.5% |
23 |
Wedi parcio mewn lle parcio heb ei ddynodi at y dosbarth hwnnw o gerbyd |
570 | 3.8% |
25 |
Wedi parcio mewn lle llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho |
13 | 0.1% |
26 |
Cerbyd wedi parcio mwy na 50cm o ymyl y ffordd a heb fod o fewn lle parcio dynodedig |
10 | 0.1% |
27 | Wedi parcio wrth ymyl troedffordd isel | 321 | 2.2% |
40 |
Wedi parcio mewn lle parcio dynodedig i bobl anabl heb arddangos bathodyn person anabl dilys |
605 | 4.1% |
42 |
Wedi parcio mewn lle parcio wedi’i ddynodi ar gyfer cerbydau’r heddlu |
1 | 0.0% |
45 | Stopio mewn man gwaharddedig | 74 | 0.5% |
47 | Wedi stopio mewn safle bws cyfyngedig | 1 | 0.0% |
48 | Wedi stopio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol | 43 | 0.3% |
49 |
Wedi parcio’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar lwybr beicio |
3 | 0% |
62 |
Wedi parcio ag un neu ragor o olwynion ar ran o’r ffordd heblaw rhwng dwy ffordd gerbydau |
3 | 0% |
63 | Parked with engine running where prohibited | 1 | 0% |
99 |
Wedi stopio ar groesfan cerddwyr neu ardal wedi’i marcio ag igam-ogamiadau |
17 | 0.1% |
04 |
Wedi parcio mewn cilfach mesurydd lle nodir amser cosb |
1 | 0% |
05 |
Wedi parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben |
5 | 0% |
06 |
Wedi parcio heb arddangos taleb neu docyn talu ac arddangos dilys yn glir |
12 | 0.1% |
11 | Wedi parcio heb dalu’r tâl parcio | 2 | 0% |
22 |
Wedi ail-barcio yn yr un lle parcio cyn pen awr o’i adael |
4 | 0% |
24 | Heb barcio’n gywir o fewn marciau cilfach/lle | 32 | 0.2% |
30 | Wedi parcio am hirach na chaniatawyd | 1664 | 11.2% |
Tramgwyddau Parcio Oddi ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd |
% |
---|---|---|---|
73 | Wedi parcio heb dalu’r tâl parcio | 145 | 1.0% |
74 |
Defnyddio cerbyd mewn lle parcio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu eu cynnig neu arddangos ar werth pan fo hynny wedi’i wahardd. |
8 | 0.1% |
80 | Wedi parcio am hirach na’r cyfnod mwyaf a ganiateir | 73 | 0.5% |
81 | Wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio | 66 | 0.4% |
82 | Wedi parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben | 1833 | 12.3% |
83 |
Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos yn glir daleb neu docyn talu ac arddangos dilys |
4055 | 27.2% |
85 |
Wedi parcio mewn cilfach trwydded heb arddangos trwydded ddilys |
427 | 2.9% |
86 | Wedi parcio y tu hwnt i farciau’r gilfach | 370 | 2.5% |
87 |
Wedi parcio mewn lle parcio i bobl anabl heb arddangos yn glir fathodyn pobl anabl dilys. |
269 | 1.8% |
90 |
Wedi ail-barcio cyn pen awr o adael cilfach neu le parcio mewn maes parcio |
1 | 0% |
91 |
Wedi parcio mewn maes parcio heb ei ddynodi ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd |
54 | 0.4% |
92 | Wedi parcio gan greu rhwystr | 1 | 0% |
94 | Parked in a pay and display car park without displaying two valid pay and display tickets when required | 1 | 0% |
95 | Parked in a parking place for a purpose other than the designated purpose of the parking place. | 20 | 0.1% |
96 | Parked with engine running where prohibited | 1 | 0.0% |
Hysbysiadau Cosb Tâl a Ganslwyd
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a ganslwyd o ganlyniad i sylwadau ffurfiol Derbyniwyd y Gwrthwynebiad: Gwrthwynebiadau:1317 (8.85%)
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a ganslwyd am resymau eraill (e.e. dim modd olrhain y perchennog gwall meddalwedd, DVLA yn methu darparu manylion): 347 (2.33%)
- Cyfanswm a Ganslwyd 1664 (11.18%)
Cymharu
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a gyhoeddwyd: 13,045 (2015-16) 14885 (2016-17)
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl ar y stryd: 6955 (2015-16) 7561 (2016-17)
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl oddi ar y stryd: 6090 (2015-16) 7324 (2016-17)
- Nifer yr Hysbysiadau Cosb Tâl a ganslwyd fel %: 16.13% (2015-16) 11.18% (2016-17)
Penderfyniadau dyfarnu a wnaed mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cosb Traffig
- Cyfanswm: 18 (2015-16) 14 (2016-17)
- Apêl wedi’i Gwrthod: 12 (67%) (2015-16) 10 (71%) (2016-17)
- Apêl wedi’i Derbyn: 6 (33%) (2015-16) 4 (29%) (2016-17)
Gwybodaeth Ariannol
Cyfrif Ariannol
Cyflwynir isod ddata ariannol incwm a gwariant a lywodraethir gan Adran 55 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffordd 1984.
Incwm |
2015-16 |
2016-17 |
---|---|---|
Trwyddedau Parcio Preswylwyr (gan gynnwys Preswylydd ac Ymwelydd) |
£39,511.00 | £40,412 |
Gollyngiadau Parcio | £5,286.00 | £6,060.00 |
Taliadau Cosb | £412,722.00 | £454,069.00 |
Cyfraniadau ALlau eraill | - | £12,500.00 |
Cyfanswm Incwm | £457,519.00 | £513,042.00 |
Gwariant |
2015-16 |
2016-17 |
---|---|---|
Costau Cyflogeion | £238,109.00 | £250,762 |
Safleoedd | £72,852.00 | £45,280.00 |
Nwyddau a Gwasanaethau |
£17,436.00 | £18,117 |
Cymorth a Rheoli | £103,946.00 | £104,852 |
Taliadau Eraill | £53,300.00 | £65,520 |
Costau Cyfalaf | £7,184.00 | £6,487 |
Cyfanswm Gwariant | £492,828.00 | £491,020 |
Gwarged) / Diffyg | £35,309.00 | (-£22,022) |
Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgarwch oddi ar y stryd heb ei lywodraethu gan Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffordd 1984.
Y diweddaraf am fentrau 2015 / 2016
Menter
Adolygu opsiynau i ailwampio maes parcio aml-lawr Hwlffordd.
Cynnydd
Mae cynigion wedi’u llunio bellach a’r adroddiad terfynol i’w gyhoeddi ym mis Medi 2017.
Menter
Cynnal adolygiad o effaith cyflwyno’r taliadau newydd.
Cynnydd
Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ym mis Medi 2016.
Menter
Cydweithio ag APCAP, gan ei gefnogi gydag adolygu a ffurfioli unrhyw faterion Gorchymyn Parcio, a hefyd datblygu’r posibilrwydd i gydweithio’n agosach.
Cynnydd
Parhawyd y cydweithio yn 2015/16 a bydd yn parhau yn 2016/17. Dechreuodd y gorfodi ym meysydd parcio PCAP yn 2016 a gefnogodd yr achos busnes am orchymyn parcio ceir diwygiedig.
Menter
Gweithio gyda’r tîm Trawsffurfio yn adolygu ffioedd a thaliadau a chefnogi’r dull adennill costau.
Cynnydd
Yn parhau. Mae hon yn rhaglen dreigl sy’n adolygu’r holl ffioedd a thaliadau.
Menter
Datblygu ymagwedd rheoli ased at feysydd parcio – adolygiad o gyflwr meysydd parcio, a lle mae adnoddau’n caniatáu, gwneud gwelliannau ac ychwanegiadau lleol.
Cynnydd
Roedd arolygon yn yr hydref 2016 yn nodi blaenraglen ar gyfer atgyweiriadau. Roedd meysydd parcio hefyd yn cael eu hintegreiddio ar fodiwl asedau AMX.
Menter
Adolygu’r potensial i wefru ceir trydan mewn meysydd parcio.
Cynnydd
Yn parhau
Datblygiadau a Mentrau’r Dyfodol
Yn 2017/18 ystyrir nifer o fentrau, naill ai’n dilyn materion yn codi a gweithgarwch y llynedd neu fentrau newydd, fel a ganlyn:
- Dechrau ailwampio maes parcio aml-lawr Hwlffordd.
- Cydweithio ag APCAP, yn ei gefnogi i adolygu a ffurfioli unrhyw faterion Gorchymyn Parcio, a hefyd datblygu’r potensial i gydweithio’n agosach.
- Gweithio gyda’r tîm Trawsffurfio yn yr adolygiad o ffioedd a thaliadau a chefnogi’r dull adennill costau.
- Parhau i ddatblygu ymagwedd rheoli ased at feysydd parcio – Sicrhau bod pob gorchymyn gwaith yn gysylltiedig â system AMX
- Adolygu’r potensial i wefru ceir trydan mewn meysydd parcio.
- Adolygu consesiynau maes parcio cyfredol gan ystyried opsiynau am gonsesiynau newydd
- Datblygu system ar-lein i ymgeisio am drwyddedau ac adolygu’r prosesau cyfredol. Gweithio gyda’r tîm Trawsffurfio i ddatblygu proses drwyddedu newydd.
- Adolygu pob trwydded parcio car, gan ystyried mwy o hyblygrwydd
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Aberllydan
- Marine Road – yr ochr orllewinol
Dale
- U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol
Abergwaun
- Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
- Coronation Avenue
Hwlffordd
- Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
- Albany Terrace – yr ardal barcio
- Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
- Cartlett – yr ochr ogleddol
- Ardal ger Castell y dref
- North Street – yr ochr orllewinol
- North Street – yr ochr ddwyreiniol
- Holloway – yr ochr ogleddol
- Queens Square – yr ardal ganol
- Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
- Merlins Hill – yr ochr ogleddol
- Hill Street
- North Crescent – yr ochr orllewinol
- Winch Crescent – yr ochr ddeheuol
Aberdaugleddau
- Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Neyland
- Neyland Hill – yr ochr ddeheuol
Penfro
- Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
- Doc Penfro
- Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
- Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Gordon Street – yr ochr orllewinol
- Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
Dinbych-y-pysgod
- Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
- Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
- Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Weston Terrace – yr ochr orllewinol
- Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Harries Street – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
- Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
- Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
- Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Picton Terrace – yr ochr orllewinol
- Queens Parade – yr ochr orllewinol
- South Cilff Street – yr ochr ogleddol
- St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
- St Johns Hill – yr ochr ogleddol
- St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
- Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
- The Croft – yr ochr ddwyreiniol
- The Norton – yr ochr ddwyreiniol
- The Paragon – yr ochr ddeheuol
- Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
- Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Warren Street – yr ochr ddeheuol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Hwlffordd
Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog
Tyddewi
Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol