Parcio yn Sir Benfro

Mannau Parcio i Bobl Anabl

Gall lle parcio anabl helpu rhywun anabl i gynnal ei symudedd a'i annibyniaeth. Y nod yw darparu mannau parcio mor agos i'r eiddo ag sy'n ymarferol i helpu pobl anabl sydd â nam symudedd i’r fath raddau na allant gerdded unrhyw bellter sylweddol.

Mae'r cynllun Mannau Parcio i Bobl Anabl yn beilot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023. Bydd ceisiadau yn agor ddydd Llun 20 Mehefin ac yn cau ar ddydd Sul 31 Gorffennaf.

Byddwch yn ymwybodol cyn i chi wneud eich cais y bydd uchafswm o ddeg lle yn cael eu rhoi yn ystod y flwyddyn.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, gall y broses ymgeisio gymryd o leiaf chwe mis. Bydd tâl o £20 am gerdyn parcio lwyddiannus a dim ond pan fyddwch yn cael gwybod bod eich cais yn cael ei gymeradwyo y bydd angen i chi dalu hwn.

Meini Prawf Cymhwystra

Er mwyn helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf am le parcio anabl, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os oes gan yr ymgeisydd Fathodyn Glas
  • Mae’r ymgeisydd yn berchen ar ac yn gyrru cerbyd / yn cael ei yrru mewn cerbyd sydd wedi'i gofrestru yng nghyfeiriad lleoliad arfaethedig y lle anabl
  • Nid oes gan yr ymgeisydd fynediad i barcio oddi ar y stryd yn barod nac yn gallu darparu lle parcio oddi ar y stryd trwy glirio lôn / lle caled presennol neu drwy droi garej bresennol yn ôl i ddefnydd

Nid yw bodloni'r meini prawf hyn yn gwarantu y bydd lle parcio anabl yn cael ei ddarparu; dim ond y bydd y cais yn cael ei asesu ar gyfer addasrwydd. Peidiwch â darparu unrhyw dystiolaeth ychwanegol oni bai y gofynnir i chi wneud hynny.

Ni roddir lleoedd parcio anabl ar gyfer ymwelwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol neu ofalwyr nad ydynt yn byw gyda'r ymgeisydd anabl. 

Ni fydd y Cyngor yn ystyried darparu lle parcio anabl yn y lleoliadau canlynol:

  • Yn yr ardal droi ym mhen draw unrhyw ffordd cul-de-sac
  • Mewn unrhyw leoliad lle mae gwaharddiad neu gyfyngiad parcio presennol (gan gynnwys   parcio gyda thrwydded), neu o aros neu lwytho, ar waith neu'n cael ei ystyried gan y Cyngor
  • O fewn 10 metr i gyffordd ffordd
  • Mewn lleoliadau lle mae hanes o wrthdrawiadau yn ymwneud â gwelededd
  • Mewn safle a allai atal llif traffig arferol rhag mynd heibio
  • Mewn safle lle na fydd modd i gerbydau sy’n teithio weld y cerbyd sydd wedi'i barcio – er enghraifft, ar dro
  • Ar briffordd heb ei mabwysiadu neu ar dir preifat
  • Ardaloedd eraill lle mae diogelwch ar y priffyrdd dan fygythiad

Mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra yn ôl pob golwg ddarparu’r dystiolaeth ategol ganlynol:

  • Copi o drwydded yrru'r ymgeisydd. Os yw'r cais ar ran plentyn, dylid rhoi manylion trwydded y rhiant/gwarcheidwad
  • Copi o ddogfennaeth V5 fel prawf bod y cerbyd wedi'i gofrestru i gyfeiriad yr ymgeisydd
  • Copi o’r dystysgrif MOT (os oes un gan y cerbyd) – ni fydd angen hon arnoch os yw’r cerbyd yn llai na thair blwydd oed
  • Copi o'ch yswiriant car
  • Prawf preswylio (rhywbeth gydag enw a chyfeiriad yr eiddo y byddwch yn gwneud cais amdano, llai na thri mis oed)

Gellir gofyn hefyd i ymgeisydd ddarparu tystiolaeth feddygol ategol gan ymgynghorydd, ffisiotherapydd neu nyrs arbenigol. Dylai hon gadarnhau anabledd yr ymgeisydd a sut mae'n effeithio ar ei allu i gerdded unrhyw bellter. Os bydd angen, bydd staff hefyd yn defnyddio gwybodaeth arall a gedwir gan y Cyngor i helpu i bennu cymhwysedd.

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw diben y cynllun peilot?

Mae'r Cyngor yn aml yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd am gael lle parcio Bathodyn Glas ar y stryd y tu allan neu'n agos i'w cartrefi. Mae mwy na 10,000 o Fathodynnau Glas mewn cylchrediad ar hyn o bryd yn Sir Benfro, ond nid oes rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i ddarparu lleoedd parcio anabl, sydd yn gwneud y ddarpariaeth yn wasanaeth disgresiwn. Mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu lleoedd parcio naill ai ar gyfer pob deiliad Bathodyn Glas neu leoedd unigol i ymgeiswyr. Penderfynodd gweithgor yn Sir Benfro gynnig lleoedd personol a bwriad y treial hwn yw sicrhau bod y gwasanaeth yn fuddiol ac yn cael ei gyflenwi mewn modd cyfartal a theg.

Pa mor hir sydd gennyf i wneud cais?

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer y cynllun lleoedd parcio anabl yn dechrau ddydd Llun 20 Mehefin ac yn cau ar ddydd Sul 31 Gorffennaf. Ni fydd unrhyw geisiadau newydd yn cael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn.

Faint o leoedd fydd yn cael eu gosod?

Ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun, bydd uchafswm o ddeg lle ar gael. Os bydd y peilot yn llwyddiant, bydd mwy o leoedd yn cael eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod a bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf yn mynd ar y rhestr aros os na fyddant yn llwyddiannus eleni.

Faint o gardiau parcio y gallaf eu cael?

Rhoddir un cerdyn i eiddo cymwys, i'ch cerbyd penodol chi.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli fy ngherdyn?

Mae cardiau newydd yn costio £12.50.

Sut bydd lle parcio anabl yn cael ei orfodi?

Mae lleoedd parcio anabl a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro yn cael eu cefnogi gan orchymyn rheoleiddio traffig (o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984) y gellir ei orfodi gan y gyfraith. Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n parcio yn y lle parcio anabl nad yw'n arddangos y cerdyn parcio cywir.

A oes tâl am y cerdyn i ddangos pwy all barcio mewn man penodol?

Oes. Mae tâl o £20 y flwyddyn am y cerdyn yn helpu i dalu costau gweinyddol hanfodol o ran rhoi’r cerdyn parcio. Mae rhoi'r cerdyn yn flynyddol yn sicrhau bod y cerdyn a'r lle y mae'n gysylltiedig ag ef yn parhau i fod yn ddilys.

Beth sy'n digwydd os bydd preswylydd yn symud allan o'r eiddo?

Dylai'r ymgeisydd hysbysu'r Cyngor nad oes angen lle parcio mwyach. Bydd llythyrau atgoffa neu e-byst yn cael eu hanfon i ofyn am y ffi adnewyddu flynyddol. Os na ellir sefydlu cyswllt, mae'n bosibl y bydd y lle parcio yn cael ei gynnig i eiddo cyfagos (os bodlonir y meini prawf) neu bydd y lle yn cael ei dynnu'n ôl.  Bydd y Cyngor yn ysgwyddo'r gost o gyflwyno'r gorchymyn cyfreithiol, gosod y lle parcio, a chael gwared ohono pan na fydd ei angen mwyach.

Hysbysiad Preifatrwydd

ID: 8803, adolygwyd 10/03/2023