Parcio yn Sir Benfro

Parcio gyda PayByPhone

Mae PayByPhone yn cynnig ffordd arall i fodurwyr dalu'r peiriannau talu ac arddangos cyfredol drwy dalu drwy eich ffôn symudol.

Mae'r gwasanaeth ar gael bellach yng Nghyngor Sir Penfro, ac mae gan bob maes parcio ei rif lleoliad unigryw ei hun i'w ddyfynnu wrth dalu.

Meysydd Parcio Cyngor Sir Penfro - Rhifau Lleoliadau talu dros y ffôn

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Rhifau Lleoliadau talu dros y Ffôn 

Mae'r gwasanaeth PayByPhone yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Negeseuon atgoffa a derbynebau dewisol drwy neges destun
  • Derbynebau e-bost
  • Derbynebau TAW
  • Amserydd cyfrif i lawr ar yr ap
  • Opsiwn i ymestyn y parcio (o fewn cyfyngiadau parcio)
  • Cerbydau a chardiau lluosog yn gallu cael eu hychwanegu at un cyfrif

Pam dylech ei ddefnyddio

  • Dim angen poeni am gael y newid cywir arnoch chi
  • Dim angen mynd i chwilio am y peiriant talu ac arddangos agosaf
  • Dim angen arddangos tocyn yn eich cerbyd
  • Mae'n hybu arferion diogel fel cadw pellter cymdeithasol
  • Cewch negeseuon testun i'ch atgoffa cyn i'r cyfnod parcio ddod i ben wedi'u hanfon i'ch ffôn
  • Dim angen brysio yn ôl i'ch cerbyd – gallwch ymestyn eich sesiwn barcio o'ch ffôn

Gall modurwyr lawrlwytho'r ap i gofrestru neu gofrestru ar-lein i dalu am eu parcio o'u ffôn symudol. Gellir gwneud taliadau drwy ffonio neu anfon neges destun i 65565.

Mae gwefan PayByPhone yn darparu gwybodaeth bellach, yn ogystal â fideos esbonio sydd ar gael ar YouTube ynglŷn â sut i ddefnyddio'r ap a'r gwasanaeth: Cyfarwyddiadau  

Mae PayByPhone hefyd wedi datblygu canolfan gymorth hunanwasanaeth ar ei wefan, sydd ar gael yma: PayByPhone  

 

Cwestiynau cyffredin

Sut i barcio gyda PayByPhone

  1. Lawrlwythwch yr ap PayByPhone o'r App Store neu Google Play.
  2. Rhowch eich cod lleoliad i mewn. Dewiswch y cod lleoliad agosaf y caiff ei awgrymu neu rhowch y cod lleoliad a welir ar yr arwyddion PayByPhone gerllaw.
  3. Bydd map yn ymddangos ac yn amlygu eich lleoliad.
  4. Rhowch hyd eich sesiwn barcio i mewn. Rhowch hyd yr amser rydych am barcio a gwiriwch eich manylion cyn cadarnhau eich dewis. Sicrhewch eich bod yn dewis y cofrestriad cerbyd cywir.
  5. Fe welwch neges yn ymddangos ‘Receive SMS parking reminders’ – gallwch ychwanegu eich rhif ffôn symudol i dderbyn hysbysiadau a nodiadau trwy SMS i’ch atgoffa bod eich cyfnod parcio yn dod i ben. Sylwch fod tâl ychwanegol o 10c am bob neges destun ym meysydd parcio Cyngor Sir Penfro. Gallwch barhau heb nodiadau atgoffa SMS am eich cyfnodau parcio trwy ddewis ‘Park without reminders’.
  6. Ymestynnwch eich cyfnod parcio unrhyw bryd. Ychwanegwch fwy o amser o le bynnag yr ydych. Yn syml, agorwch yr ap a phwyswch 'extend'.

Beth yw PayByPhone?

Mae PayByPhone yn ffordd sydyn a diogel o dalu am barcio gyda'ch ffôn symudol. Yn hytrach na gorfod rhoi arian mewn peiriant talu ac arddangos, gallwch ddefnyddio ein ap neu wefan neu ein ffonio.

Oes rhaid i mi arddangos tocyn ar fy nghar?

Nac oes. Unwaith rydych wedi cychwyn eich sesiwn barcio, rydych yn rhydd i barhau gyda gweddill eich diwrnod.

Sut mae'r wardeiniaid traffig yn gwybod fy mod wedi talu?

Pan ydych wedi talu’n llwyddiannus, mae dyfais gorfodi’r warden traffig yn diweddaru i ddangos rhif cofrestru eich cerbyd ynghyd ag amseroedd dechrau a diwedd eich sesiwn barcio.

A yw'n ddiogel i mi ddefnyddio fy ngherdyn credyd/debyd?

Ydy, mae PayByPhone yn cydymffurfio'n llawn â Safonau Diogelwch Data'r Diwydiant Cardiau Talu.

Sut ydw i'n cael derbynebau TAW ar gyfer fy mharcio?

Gallwch dderbyn derbynebau drwy neges destun neu e-bost, ac maent ar gael ar-lein yn PaybyPhone 

A fydd yn costio mwy i mi ddefnyddio PayByPhone?

Na, ym meysydd parcio Cyngor Sir Penfro ni chodir ffi trafod am dalu am barcio gan ddefnyddio PayByPhone. Os byddwch yn dewis cael negeseuon SMS (i’ch atgoffa bod eich cyfnod parcio yn dod i ben, neu i gael derbynebau a chadarnhad) codir 10c am bob neges destun.

Gallwch weld dadansoddiad o’ch ffi parcio trwy ddewis ‘View Totals’.

Sut mae diffodd y negeseuon atgoffa SMS?

O fewn yr Ap ewch i ‘Settings’ > ‘Account settings’ > ‘Notifications & privacy’ a gallwch eu diffodd a’u troi ymlaen yn ôl yr angen.

 

Rhifau Lleoliadau talu dros y ffon

Meysydd Parcio Cyngor Sir Penfro - Rhifau Lleoliadau talu dros y ffôn

** Ni chaniateir Hawlen Pasbort Parcio yn y meysydd parcio hyn

 

Lleoliad y maes parcio
Rhif y Lleoliad 
Broad Haven – Marine Road 805862
Dale Sea Front – Cartrefi modur 805863
Dale Sea Front – Ceir 805864
Abergwaun – Parc-y-shwt 805865
Abergwaun – West Street – Cartrefi modur 805866
Abergwaun – West Street – Ceir 805867
Wdig – Station Hill 805868
Wdig – Parrog – Ceir sy'n tynnu trelar cychod 805869
Wdig - Parrog – Cartrefi modur 805870
Wdig - Parrog – Ceir 805871
Hwlffordd – Bridgend Square ** 805872
Hwlffordd – The Castle 805873
Hwlffordd – Perrots Road ** 805874
Hwlffordd – Rifleman Field – Coetsis 805875
Hwlffordd – Rifleman Field – Cartrefi modur 805876
Hwlffordd – Rifleman Field – Ceir 805877
Hwlffordd – St Thomas Green 805878
Hwlffordd – Maes parcio aml-lawr Riverside (Llawr 2–4) 805879
Hwlffordd – Maes parcio aml-lawr Riverside (Llawr 1) ** 805880
Hwlffordd – Maes parcio aml-lawr Riverside (Llawr daear) ** 805881
Hwlffordd – Scotchwell 805882
Aberdaugleddau – Lower Charles Street 805883
Aberdaugleddau – Market Square 805884
Aberdaugleddau – Robert Street 805885
Arberth – Townsmoor – Cartrefi modur 805886
Arberth – Townsmoor – Ceir 805887
Traeth Niwgwl Is – Cartrefi modur 805888
Traeth Niwgwl Is – Ceir 805889
Traeth Niwgwl Uwch – Cartrefi modur 805890
Traeth Niwgwl Uwch – Ceir 805891
Trefdraeth – Long Street 805892
Penfro – Long Entry ** 805893
Penfro – Commons – Coetsis 805894
Penfro – Commons – Cartrefi modur 805895
Penfro – Commons – Ceir 805896
Penfro – The Parade 805897
Penfro – South Quay ** 805898
Penfro – Station Road 805899
Doc Penfro – Lower Meyrick St ** 805900
Spittal – Maenordy Scolton ** 805901
Tyddewi – Merrivale 805902
Tyddewi – Quickwell Hill 805903
Llandudoch – High Street – Cartrefi modur 805904
Llandudoch – High Street – Ceir 805905
Dinbych-y-pysgod – North Beach – Coetsis 805906
Dinbych-y-pysgod – North Beach – Cartrefi modur 805907
Dinbych-y-pysgod – North Beach – Ceir 805908
Dinbych-y-pysgod – South Beach 805909
Dinbych-y-pysgod – Salterns – Coetsis 805910
Dinbych-y-pysgod – Salterns – Cartrefi modur 805911
Dinbych-y-pysgod – Salterns – Ceir 805912
Dinbych-y-pysgod – The Green – Cartrefi modur 805913
Dinbych-y-pysgod – The Green – Ceir 805914
Dinbych-y-pysgod – Aml-lawr – Llawr Daear ** 805915
Dinbych-y-pysgod – Aml-lawr (Llawr 1–3) Haf 1/3 – 31/10 a Gaeaf 01/11 – 29/02 805916
Hawlen Pasbort Parcio ** 805918

 

 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Rhifau Lleoliadau talu dros y Ffôn 

Lleoliad y maes parcio
Rhif y Lleoliad
Amroth – Brooklands Place 805769///805770
Angle – West Angle 805771///805772
Broad Haven – Millmoor Way 805744///805745
Freshwater East – Beach 805746///805747
Aber-bach 805748///805749
Maenorbŷr – Manorbier Beach 805750///805751
Niwgwl – The Pebbles 805752///805753
Trefdraeth – Traeth Trefdraeth 805754///805755
Nolton Haven 805773///805774
Penalun – The Station 805775///805776
Saunderfoot – Regency 805742///805743
Tyddewi – Oriel y Parc 805758///805759
Llandudoch – Traeth Poppit 805756///805757
ID: 7649, adolygwyd 22/09/2023