Parcio yn Sir Benfro

Parcio Tacsis

Mae safleoedd tacsis wedi eu darparu ym maes parcio

  • Gordon Street, Doc Penfro
  • y maes parcio aml-lawr, Dinbych-y-pysgod
  • Bridgend Square, Hwlffordd.

Mae tacsis yn cael parcio am ddim ar y lleoedd parcio hyn.

Mae'n rhaid i dacsis beidio â cheisio am waith o unrhyw le arall yn y meysydd parcio hyn ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r holl delerau ac amodau wrth barcio.

Telerau ac amodau defnyddio meysydd parcio

Ni ddylai gyrwyr

  • Parcio heb arddangos tocyn hawl / tocyn dilys. 
  • Parcio heb fod yn gyfan gwbl o fewn cilfach barcio. 
  • Parcio naill ai mewn cilfan wedi'i neilltuo neu wedi'i roi ar gadw heb arddangos tocyn hawl dilys. 
  • Defnyddio unrhyw ran o'r maes parcio ar gyfer cysgu, gwersylla neu goginio. 
  • Gwneud unrhyw beth yn y man parcio hwn mewn perthynas â chynnig unrhyw beth neu wasanaeth ar werth neu ar log i bobl ar neu ger y maes parcio. 
  • Gwneud sŵn uchel yn y fath fodd ag i aflonyddu ar neu gythruddo trigolion neu ddefnyddwyr y man parcio.

Gellir rhoi Hysbysiad Tâl Gosb am fethiant i gydymffurfio â'r telerau a'r amodau.

 

ID: 278, adolygwyd 22/09/2022