Parcio yn Sir Benfro

Prisiau Meysydd Parcio

Faint yw hi i barcio?

Mae’r prisiau’n amrywio ymhob maes parcio, gyda gwahanol brisiau mewn meysydd parcio byr neu hir aros. 

Ceir

Cartref Modur

Cychod a threlars

Bysiau

Neilltuedig

Preswylydd

Cwestiynau Cyffredin

Polisi taliadau meysydd parcio

 

Ceir

Ardal
CB
 Lle
Taliad
Arhosiad
30 munud
1 awr
2 awr
4 awr
5 awr
Dyddiol
24 awr
Wythnosol

Broad Haven, Marine Road

1 51 Tymhorol Arhosiad Hir  - £1.50 £3.00 £4.50 £6.00 £30.00
Dale, Seafront 3 129 Tymhorol Arhosiad Hir  - £1.50 £3.00 £4.50  - £6.00 £30.00
Parc y Shwt, Abergwaun 2 71 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £2.00  - £2.50 £3.00 £15.00
West Street, Abergwaun 2 126 Tymhorol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £2.50 £3.00 £15.00
Parrog, Wdig 3 145 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £3.00 £4.50 £6.00 £30.00
Station Hill, Wdig 2 39 Tymhorol Arhosiad Hir £1.00 £1.50 £2.00 £3.00 £15.00
Bridgend Sq, Hwlffordd 1 46 blynyddol Arhosiad Byr £1.00 £2.00 £2.50  -
Castle Lake, Hwlffordd 2 163 blynyddol Arhosiad Hir  - £1.00 £2.00 £2.50 £3.00 £15.00
Multi Storey, Hwlffordd 8 425 blynyddol Arhosiad Hir £0.50 £1.00 £1.50 £2.00 £10.00
Perrots Road, Hwlffordd 2 158 blynyddol Arhosiad Byr £1.00 £2.00
Rifleman Field, Hwlffordd 2 148 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.00 £1.00 £5.00
Scotchwell, Hwlffordd 1 136 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.00 £1.00 £1.00 £5.00
St Thomas Green, Hwlffordd 5 150 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.50 £2.00 £2.50 £12.50
Arberth, Townsmoor 3 245 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £2.00  - £2.50 £3.00 £15.00
Niwgwl 3 222 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £3.00 £4.50 £6.00 £30.00
Trefdraeth, Long Street 1 68 Tymhorol Arhosiad Hir £1.00 £1.50 £3.00 £6.00 £30.00
Lower Charles Street, Aberdaugleddau 2 51 blynyddol Arhosiad Hir  - £1.00 £2.00 £2.50 £3.00 £15.00
Market Square, Aberdaugleddau 1 16 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £2.50 £3.00 £15.00
Robert Street, Aberdaugleddau 1 82 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.00 £1.00 £1.00 £5.00
Long Entry, Penfro 1 28 blynyddol Arhosiad Byr £1.00 £2.00 £2.50
South Quay, Penfro 1 38 blynyddol Arhosiad Byr £1.00 £2.00 £2.50
Station Road, Penfro 1 28 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.00 £1.00 £1.00 £5.00
The Commons, Penfro 5 161 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £2.50  - £4.00 £6.00 £30.00
The Parade, Penfro 2 90 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £2.50 £3.00 £15.00
Gordon Street,  Doc Penfro 3 252 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £1.50 £2.00 £2.50 £12.50
Lower Meyrick Street, Doc Penfro 1 30 blynyddol Arhosiad Byr £1.00 £2.00 £2.50  -
Merrivale, Tyddewi 2 79 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £3.00 £4.50 £6.00 £30.00
Quickwell Hill, Tyddewi 1 79 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £3.00 £4.50  - £6.00 £30.00
Llandudoch,High Street 4 76 Tymhorol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £2.50 £5.00 £25.00
Harbour, Dinbych-y-pysgod 1 21 Caniatad Arhosiad Hir £0.60 £1.00 £3.00  -
Multi story, Dinbych-y-pysgod 10 712 Haf Arhosiad Hir - £1.00 £2.00 £4.50 - - £6.00 £30.00

Multi story, Dinbych-y-pysgod

10 712 Gaeaf Arhosiad Hir - £1.00 £2.00 £2.50 - - £3.00 £15.00
North Beach, Dinbych-y-pysgod 2 326 blynyddol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £4.00 £5.00 £25.00
Salterns, Dinbych-y-pysgod 3 355 Tymhorol Arhosiad Hir  -  - £5.00 £7.00 £35.00
South Beach, Dinbych-y-pysgod 2 102 Tymhorol Arhosiad Hir £1.50 £3.00 £4.50 £6.00 £30.00
The Croft, Dinbych-y-pysgod 1 26 Caniatad Caniatad  -
The Green, Dinbych-y-pysgod 3 130 Tymhorol Arhosiad Hir £1.00 £2.00 £4.00 £5.00 £25.00

 

Cartref Modur

Ardal               
  4 awr      
               Dyddiol               
Dale, seafront £6.50 £10.00
West St, Abergwaun £5.00 £8.00
The Parrog, Wdig £6.50 £10.00
Riflemans Field, Hwlffordd £4.00 £5.00
Townsmoor, Arberth £5.00 £8.00
Niwgwl £6.00 £10.00
The Commons, Penfro £5.00 £8.00
High St, Llandudoch £6.00 £10.00
North Beach, Dinbych-y-pysgod £4.00 £8.00
Salterns, Dinbych-y-pysgod £6.00 £8.00
The Green, Tenby £6.00 £8.00


Cychod a threlars

Ardal
Taliad
Parrog, Wdig £4.00

Bysiau

Ardal
4 awr
Dyddiol
Wythnosol
Rifleman Field, Hwlffordd £6.00 £8.00 -
The Commons, Penfro £5.00 £8.00 £40.00
North beach, Dinbych-y-pysgod £6.00 £10.00 £50.00
Salterns, Dinbych-y-pysgod £6.00 £8.00 £56.00

Neilltuedig

Ardal
Taliad
Parc y Shwt, Abergwaun £436.80
West Street, Abergwaun £436.80
Station Hill, Wdig £436.80
Castle Lake, Hwlffordd £436.80
Multi Story, Hwlffordd £436.80
Perrots Rd, Hwlffordd £200.00
Riflemans Field, Hwlffordd £218.40
Scotchwell, Hwlffordd £218.40
St Thomas Green, Hwlffordd £436.80
Townsmoor, Arberth £436.80
Long Street. Trefdraeth £540.00
Lower Charles Street, Aberdaugleddau £436.80
Robert St, Aberdaugleddau £436.80
Market Square, Aberdaugleddau £436.80
The Commons, Penfro £540.00
High St, Llandudoch £540.00
Harbour, Dinbych-y-pysgod £40.00
Multi story, Dinbych-y-pysgod £540.00
North beach, Dinbych-y-pysgod £540.00
Croft, Dinbych-y-pysgod £540.00
Green, Dinbych-y-pysgod £540.00

 Preswylydd

Ardal
Taliad 
Station Hill, Wdig £29.33
Riflemans Field, Hwlffordd £44.00
St Thomas Green, Hwlffordd £44.00
Station Road, Penfro £44.00
High Street, Llandudoch £29.33

Gwarcheidwad

Ardal
Taliad
High Street. Llandudoch £20.00

Cwestiynau Cyffredin

Oes yna unrhyw feysydd parcio di-dâl?

Mae amrywiaeth o feysydd parcio’n cael eu darparu gan y cyngor ac mae rhai’n codi tâl ac eraill am ddim.

Beth yw’r cyfnod codi tâl?

Y cyfnod codi tâl arferol yw rhwng 9.00am a 7.00pm

Allaf i brynu tocyn tymor ar gyfer y meysydd parcio?

Gallwch brynu Tocynnau Tymor ar gyfer holl feysydd parcio hir-aros. Cysylltwch â’r adran Parcio ar 01437 764551 neu anfon e-bost parking@pembrokeshire.gov.uk

Pam fod y Cyngor yn gweithredu trefn Talu a Dangos?

Mae’r Cyngor wedi gweld mai’r drefn hon yw’r dull mwyaf darbodus o reoli’r parcio sydd ar gael yn ei feysydd parcio talu.

Pam fod rhaid i mi dalu am barcio?

Yn ogystal â chodi arian i dalu am gynnal meysydd parcio presennol, a darparu rhai newydd, mae codi hefyd yn helpu sicrhau bod trosiant digonol o fannau parcio yn ystod y dydd, ar gael wedyn i siopwyr ac ymwelwyr byrdymor. Pe na bai’r Cyngor yn codi ar ddefnyddwyr y cyfleusterau parcio, byddai cost eu cynnal a chadw’n disgyn ar dalwyr Treth y Cyngor ac ni fyddai ymwelwyr sy’n defnyddio’r cyfleusterau’n gwneud unrhyw gyfraniad. Byddai siopwyr ac ymwelwyr byrdymor hefyd yn gweld prinder lle i barcio yn enwedig mewn mannau lle mae llawer o deithio i’r gwaith a pharcio’n digwydd

Pam na wnewch chi dalu am gynnal a chadw’r meysydd parcio gyda’r arian y byddech yn ei arbed trwy beidio â chyflogi staff patrôl?

Hyd yn oed pe bai parcio am ddim, byddai angen dal i batrolio am nifer o resymau. Er mwyn darparu cyflenwad rheolaidd o fannau parcio cyfleus i siopwyr yn ystod y dydd, byddai angen sefydlu cyfnod aros hwyaf, a byddai angen dal i orfodi hyn, ynghyd â pharcio pobl anabl a rheoliadau eraill. Hefyd mae’r staff patrôl yn atal troseddu, ac yn nodi mannau sydd angen cynnal a chadw.

Pam na allaf i dalu wrth fynd allan?

Mae’r Cyngor wedi ystyried ffyrdd eraill o dalu. Mae systemau talu wrth fynd allan angen rhwystr ar fynedfa ac allanfa’r maes parcio sy’n gallu achosi cryn oedi, tagfeydd a llygredd, yn enwedig os yw’r offer yn torri. Gall rhwystrau hefyd achosi anhwylustod mawr i yrwyr anabl. Am y rhesymau hyn ystyriwyd trefn Talu a Dangos fel yr un fwyaf addas ar gyfer meysydd parcio’r Cyngor.

Pam nad yw’r peiriannau’n rhoi newid?

Yn anffodus, byddai peiriannau newid yn darged deniadol i ladron. Mae union natur y peiriannau’n gofyn iddynt fod yn llawn o arian bob amser. Ar y llaw arall, caiff peiriannau tocynnau eu gwagio bob dydd, gan sicrhau nad oes dim arian yn cael ei adael ynddynt dros nos.

Pam na chaf i ad-daliad os byddaf yn talu am hanner awr ac ond yn aros am bum munud?

Y strwythur prisio yw bod unrhyw arhosiad rhwng yr haenau cost yn costio’r un faint. Felly, mae’r pris am bum munud yr un fath â’r pris am 30 munud, ac mae’r pris am 1 awr a 5 munud yr un fath â’r pris am 2 awr. Mae’r Cyngor yn credu bod ei brisiau’n gystadleuol mewn cymhariaeth â chanol trefi eraill cyfagos gyda chyfleusterau siopa tebyg.

Pam na allaf i gasglu a gollwng rhywun yn y meysydd parcio?

Fe allwch chi, ond rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio trwy aros mewn llain barcio a phrynu tocyn parcio. Mae’r meysydd parcio’n cael eu darparu ar gyfer parcio cerbydau oddi ar y stryd. Petai gollwng a chodi achlysurol yn cael ei ganiatáu, byddai problemau tagfeydd yn cael eu creu, gan achosi oedi a rhwystredigaeth i ddefnyddwyr y meysydd parcio.

Polisi taliadau meysydd parcio

Cyflwyniad

Yn y polisi hwn, nodir y drefn a’r sail resymegol ar gyfer codi taliadau parcio gan Gyngor Sir Penfro. Bydd y polisi’n nodi pa daliadau a fydd yn berthnasol, os o gwbl, a’r amser aros priodol ym mhob lleoliad. Polisi wedi’i ddiweddaru yw hwn, a’r polisi gwreiddiol wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor ar 31 Hydref 2002, ar ôl gweithredu Gorfodi Parcio Sifil.

Egwyddorion Allweddol

Mae angen ystyried yr egwyddorion canlynol wrth bennu taliadau parcio ceir. Mae angen cymhwyso’r egwyddorion hyn yn gyson, gan arwain at wahanol daliadau o’r naill le i’r llall, a sicrhau nad yw taliadau’n ffafrio un ardal mewn perthynas ag un arall:

  • Mae angen annog masnach adwerthu
  • Mae angen rheoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llifoedd traffig
  • Mae angen rheoli galw’n effeithiol 
  • Natur y lle parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. trefol siopwr/busnes, preswyl, siopwr tref wledig, traeth/ymwelydd 
  • Cymharu â darparwyr eraill yn yr ardal
  • Mae angen annog pobl i ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o gludiant, gan gynnwys cludiant cyhoeddus 
  • Ni osodir taliadau dim ond i gael incwm 
  • Ystyried darpariaeth gyffredinol y gyllideb refeniw (gwariant ac incwm) ar gyfer meysydd parcio 
  • Rhagdybiaeth o blaid gwelliannau’n cael eu hariannu gan dariff cynyddol
 Economi

Dylid gosod taliadau meysydd parcio mewn modd sy’n gwneud y mwyaf o’u heffaith fuddiol bosibl i annog siopa lleol. I sicrhau y bodlonir yr amcan polisi hwn, rhaid ystyried taliadau parcio ceir fesul tref, a rhaid ystyried breuder yr economi leol.

Rheoli Traffig a Pharcio ar y Stryd

Gall taliadau parcio ceir achosi i fodurwyr chwilio am le am ddim yn rhywle arall cyn derbyn bod angen talu i barcio, a dylanwadu ar y lle parcio y byddant yn ei ddefnyddio pan fydd dewis. Gall tariffau amrywiol ddylanwadu ar ddewis y lleoliad. Yn sgil dyhead i barcio ar y stryd, mae traffig yn teithio o gwmpas y strydoedd yn chwilio am leoedd. Mae parcio anghyfreithlon ar linellau melyn yn digwydd yn lleol; fodd bynnag, gyda Phwerau Gorfodi Sifil, mae gennym bwerau gorfodi bellach i fynd i’r afael â hyn. Bydd codi taliadau am barcio ar y stryd, a gwell gorfodi, yn dylanwadu ar y dewis o leoliadau parcio. Lle cyflwynir taliadau ar y stryd, bydd y tariffau’n ystyried argaeledd parcio oddi ar y stryd ac a yw’n ddymunol lleihau’r lle parcio ar y stryd er mwyn rheoli’r traffig yn well. Rydym bellach yn gweithredu 57 o gynlluniau parcio preswylwyr ar y stryd ledled y sir. Bu’r cynlluniau parcio hyn yn llwyddiannus iawn, a nifer cadarnhaol yn manteisio arnynt. Gall cynlluniau gael eu datblygu bellach lle mae preswylwyr yn dymuno eu cael.

Mae nifer o opsiynau y gellir eu hystyried i gynorthwyo rheoli traffig a gorfodi parcio ar y stryd, a’r rhain yn cynnwys:

  • Gorfodi Parcio Sifil Rydym yn gweithredu Gorfodi Parcio Sifil ers mis Chwefror 2011. Mae hwn wedi rhoi’r pwerau i’r awdurdod reoli troseddau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd.
  • Parthau Parcio a Reolir Gellir cyflwyno Parthau Parcio a Reolir fesul ardal, a’r diffiniad o reoli ar gyfer pob parth parcio a reolir yn cael ei bennu mewn gorchymyn traffig. Gall y parthau parcio hyn a reolir gael eu gorfodi gan yr Awdurdod lleol o dan y drefn Gorfodi Parcio Sifil. 
  • Taliadau ar y Stryd Ystyrir ei bod yn briodol gwneud parthau parcio ceir yr un mor berthnasol i ardaloedd ar y stryd ag y maent i feysydd parcio oddi ar y stryd. Lle cymhwysir taliadau ar y stryd, dylai’r tâl fod o leiaf cymaint â’r parcio oddi ar y stryd ar gyfer y parth parcio ceir hwnnw. Lle na fydd tâl yn cael ei godi ar y stryd, dylid cymhwyso cyfnod o aros cyfyngedig i adlewyrchu’r parth parcio ceir, a dylai’r arhosiad mwyaf fod yn llai na’r parcio oddi ar y stryd sy’n berthynol i’r parth parcio ceir hwnnw. Beth bynnag, dylid cyfyngu ar barcio ar y stryd a hynny heb fod yn fwy nag 1 awr ym mhob ardal Parth A. 
  • Parcio i Breswylwyr Lle bydd preswylwyr yn awgrymu, gellir cyflwyno cynlluniau parcio i breswylwyr lle gellir cyfyngu ar barcio i gilfachau dethol ar y stryd drwy brynu trwydded flynyddol, er nad yw’r drwydded yn sicrhau y ceir defnyddio lle penodol.
  • Adolygu gorchmynion traffig Mae angen adolygu’n barhaus y gorchmynion traffig cyfredol i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion ar lif traffig a gofynion parcio.
Rheoli Galw

Dylai taliadau parcio ceir gael eu gosod i annog siopwyr (y mae angen iddynt gludo nwyddau), y mae’n debygol y bydd angen lleoedd arhosiad byr arnynt. Lle mae galw mawr am leoedd parcio ceir a/neu brinder lleoedd, dylid gosod cyfnodau a thariffau parcio yn ofalus i sicrhau’r trosiant gorau posibl. Yn gyffredinol, bydd gofyn i ddefnyddwyr arhosiad hirach barcio ymhellach i ffwrdd o ganol trefi lle mae galw mawr am leoedd arhosiad byr.

Parthau Parcio

Yn fras, bydd natur y lleoliadau parcio ceir yn pennu’r taliadau perthynol y dylid eu cymhwyso (os o gwbl). Drwy’r polisi hwn, bydd lleoliadau parcio ceir yn cael eu dosbarthu i un o’r parthau canlynol yn gam cyntaf i bennu’r taliadau mwyaf priodol i’w cymhwyso:

Parth A
  • Disgrifiad: Siopa canolog a defnyddiau arhosiad byr eraill (galw mawr, trosiant uchel). Arhosiad mwyaf o 2 awr
  • Oddi ar y stryd: Llawr gwaelod maes parcio aml-lawr (Dinbych-ypysgod/Hwlffordd) Perrots Road, Hwlffordd. Castle Lake, Hwlffordd (ardal arhosiad byr).
  • Ar y stryd: Stryd Fawr, Hwlffordd. Charles St, Aberdaugleddau
Parth B
  • Disgrifiad: Defnydd cymysg, arhosiad canolig i hir gyda rhai lleoedd arhosiad byr gorlif (galw mawr). Aros o 2 awr i ddyddiol gan gynnwys tariff 4 awr.
  • Oddi ar y stryd: Lloriau uchaf maes parcio aml-lawr (Dinbych-ypysgod/Hwlffordd) Castle Lake, Hwlffordd (ardal arhosiad hir)
  • Ar y stryd: Esplanade, Dinbych-ypysgod. Perrots Road, Hwlffordd.
Parth C
  • Disgrifiad: Arhosiad hirach, cyrion tref. Aros o 4 awr i ddyddiol. Cynnwys hefyd Arhosiadau 5 awr
  • Oddi ar y stryd: Townsmoor, Arberth The Commons, Penfro. I gynorthwyo gyda phatrymau gweithio hyblyg
  • Ar y stryd: The Croft, Dinbych-ypysgod.
Parth D
  • Disgrifiad: Traeth gwledig/allan o’r dref. Aros o 2 awr i ddyddiol
  • Oddi ar y stryd: Niwgwl
  • Ar y stryd: St. Justinians, Tyddewi.

Cynigir dosbarthu pob lleoliad parcio ceir cyhoeddus i un o’r parthau hyn. Caiff ffactorau eraill eu harchwilio wedyn, gan gynnwys breuder yr economi, rheoli traffig, y galw am leoedd, a chymharu â darparwyr lleol eraill, er mwyn cyfrifo’r taliadau i’w cymhwyso ym mhob lleoliad. Bydd y taliadau parcio ceir yn cael eu hadolygu yn unol â’r polisi hwn. Nid yw’r Peiriannau Talu ac Arddangos yn rhoi newid, felly ni fydd addaliadau yn cael eu talu am “ordalu” hyd arhosiad.

Cymharu â Darparwyr eraill

Dylai’r taliadau ystyried darparwyr eraill yn yr ardal ac awdurdodau lleol tebyg eraill. Mae angen cymharu’n lleol er mwyn cadw ein safle yn y farchnadfa ac i sicrhau bod amcanion rheoli traffig yn cael eu bodloni. Wrth bennu taliadau, mae angen ystyried y taliadau a godir gan awdurdodau lleol tebyg, i ryw raddau, i sicrhau nad ydym yn annog ymwelwyr i beidio â theithio neu ddychwelyd i Sir Benfro. Bydd trafodaethau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn archwilio’r potensial iddo gymhwyso’r polisi parcio ceir hwn i’w feysydd parcio ei hun, er cysondeb i ddefnyddwyr meysydd parcio yn y Sir.

Cynaliadwyedd

Gall taliadau parcio ddylanwadu ar symudiadau traffig lleol, gan effeithio’n gadarnhaol efallai wedyn ar yr amgylchedd lleol. Nid yw taliadau parcio yn gallu effeithio cymaint ar ddewis modd cludiant, e.e. trosglwyddo i gludiant cyhoeddus, sy’n fater ehangach. Mae cynyddu taliadau i annog pobl i beidio â theithio mewn ceir preifat yn annhebygol o gael yr effaith a ddymunir heb gyfuno hyn â mentrau eraill.

Cynhyrchu Incwm

Ni osodir taliadau parcio er mwyn cynhyrchu incwm yn unig. Mae’r Cyngor yn defnyddio’r incwm o daliadau parcio er mwyn cynnal darpariaeth gwasanaeth i safon o ansawdd. Lle bo’n briodol, bydd y Cyngor yn sicrhau gwelliannau gweledol i ansawdd ardaloedd parcio a’u hamgylchedd. Mae angen cynnal a chadw ardaloedd parcio’n dda, gan eu goleuo’n dda a’u cadw’n agored, i ddarparu amgylchedd diogel i fodurwyr a’u cerbydau. Mae incwm o daliadau parcio yn galluogi plismona rheolaidd gan Swyddogion Gorfodi Sifil, ac yn helpu i leihau fandaliaeth a throseddau ceir, gan roi mwy o hyder, yn enwedig i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Cyfnod Codi Tâl

Bydd y cyfnod amser y bydd taliadau’n ei sicrhau yn cael ei safoni ledled y Sir. Efallai bydd amrywiadau tymhorol i’r cyfnodau codi tâl er mwyn ystyried galw; bydd y cyfnod codi tâl yn cael ei gymhwyso ar bob diwrnod o’r wythnos. Bydd hyn yn galluogi parcio am ddim y tu allan i’r amseroedd hyn, er mwyn gwneud gwell defnydd o’r cyfleusterau yn ystod y cyfnodau pan fydd llai o bwysau ar y lleoedd parcio. Mae cyfnod codi tâl 24 awr syn cynorthwyo gyda’r diwydiant twristiaeth, ac mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i bobl sy’n aros mewn llety lleol.

Consesiynau ar gyfer Arhosiad Hir

Lle mae cwsmeriaid yn debygol o ddefnyddio meysydd parcio arhosiad hirach yn rheolaidd, bydd consesiynau ar gael, fel sy’n briodol, drwy gynnig trwyddedau wythnosol neu benodol. Bydd yr amrywiaeth o dariffau arhosiad hir sydd ar gael ym mhob lleoliad yn dibynnu’n helaeth ar ddefnydd penodol y lleoliad, gan ystyried unrhyw amodau sy’n cael eu cynnwys mewn trefniadau prydlesu lle byddant yn berthnasol. Lle byddant ar gael, dylid monitro tocynnau cilfach ar gadw yn ofalus i sicrhau bod lleoedd ar gael yn ehangach.

Tocynnau Wythnosol

Bydd tocynnau wythnosol yn cael eu darparu ym mhob maes parcio arhosiad hir i annog ymwelwyr i’w defnyddio tra byddant yn aros yn yr ardal. Nid yw tocynnau wythnosol yn sicrhau lle parcio. Bydd y gyfradd wythnosol yn cael ei chynnig am ddisgownt o’r gyfradd ddyddiol, gan brynu gwerth 5 diwrnod o gyfradd ddyddiol i gael aros am 7 diwrnod. Efallai bydd y gyfradd hon yn cael ei hamrywio gan ddibynnu ar ddefnydd y maes parcio. Nid yw’r rhain yn drosglwyddadwy.

Y Penfro – Trwydded Blwyddyn Gron Sirol (Meysydd Parcio Arhosiad Hir)

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw. Trwydded ydyw sy’n caniatáu parcio ar draws unrhyw faes parcio arhosiad hir drwy’r flwyddyn, a’r ffi a gynigir yw £240.00 am 12 mis, a’r drwydded yn un generig heb fod yn benodol i gerbyd. Gwerthir y drwydded hon am gyfnodau lleiaf o 3 mis.

Y Pâl – Trwydded Blwyddyn Gron Sirol, maes parcio penodol

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw. Bydd trwydded yn cael ei rhoi i barcio mewn maes parcio penodol, sef trwydded generig heb fod yn benodol i gerbyd. Ffi flynyddol o £180.00 am feysydd parcio blynyddol. Ffi flynyddol o £125.00 am feysydd parcio tymhorol. Gwerthir y drwydded hon am gyfnodau lleiaf o 3 mis.

Trwyddedau Cilfach ar Gadw

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw. Bydd trwydded cilfach ar gadw yn cynorthwyo’r defnyddiwr tymor hir sydd am gael lle ar gael yn barhaol. Gwerthir y drwydded hon am gyfnodau lleiaf o 3 mis. Cyfrifir y ffi fel a ganlyn:- (6 x y gyfradd ddyddiol x 52 wythnos) – 30% o ddisgownt. Y ffi fwyaf posibl fydd £540.00 Fe’u darparir mewn meysydd parcio tymor hir os bydd digon o leoedd parcio ar gael. Bydd mwyafswm o 10% yn cael eu dyrannu mewn perthynas â’r lleoedd parcio cyffredinol yn y maes parcio penodol. Efallai bydd amgylchiadau eithriadol lle gellir gwneud cilfachau ar gadw ar gael am dâl priodol mewn meysydd parcio arhosiad byr. Gallai hyn ddigwydd lle mae angen atal mynediad i draffig mewn ardaloedd penodol, e.e. lle caiff parthau cerddwyr eu creu. Nid yw’r tocynnau hyn yn drosglwyddadwy rhwng meysydd parcio; bydd pob tocyn yn enwi’r maes parcio.

Trwydded Arfordirol

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw. Trwydded dymhorol i feysydd parcio arfordirol. Enwir y meysydd parcio penodol yn y gorchymyn parcio ceir. Mae’r drwydded hon yn drosglwyddadwy rhwng y meysydd parcio a enwir. Bydd yn lleddfu’r angen i ddefnyddwyr brynu tocyn dyddiol droeon. Gosodir ffi o £90.00. Trwydded i feysydd parcio penodol, sef - (Traeth y De, Dinbych-y-pysgod; Marine Road, Aberllydan, Niwgwl Uchaf ac Isaf, Quickwell Hill a Merrivale, Tyddewi; Dale; Parrog, Wdig)

Pasbort Trwydded Barcio

Trwydded wythnosol, a brynir ymlaen llaw. Trwydded drosglwyddadwy fydd hon, a fydd yn caniatáu parcio ym meysydd parcio’r Cyngor, ac eithrio rhai meysydd parcio arhosiad byr. Trwydded hyblyg yw hon, a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd i’r prynwr brynu un drwydded ar gyfer nifer o feysydd parcio, a honno’n bennaf i ymwelwyr. Gosodir ffi o £35.00.

Trwydded Gwarcheidwad

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw i ganiatáu Gwarcheidwaid i barcio mewn meysydd parcio penodedig i ollwng a chasglu plant ysgol. Rhestrir y meysydd parcio penodedig yn y gorchymyn meysydd parcio. Bydd y drwydded yn enwi’r ysgol a’r maes parcio penodedig. Caniateir y drwydded ar gyfer parcio rhwng 9.00am a 9.30 am a rhwng 2.30pm a 3.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor ysgol yn unig. Dim ond i warcheidwaid sydd â phlant yn yr ysgol y rhoir y trwyddedau hyn. Er na fydd y tocyn hwn yn sicrhau lle parcio, bydd yn lleddfu’r angen i ddefnyddwyr brynu tocyn droeon.

Trwydded Parcio Ceir i Breswylwyr

Trwydded flynyddol a brynir ymlaen llaw i ganiatáu preswylwyr i barcio mewn meysydd parcio penodedig. Rhestrir y meysydd parcio penodedig yn y gorchymyn meysydd parcio. Bydd y meysydd parcio cymwys yn cael eu rhestru lle ystyrir bod galw am gyfleuster parcio i breswylwyr yn ein meysydd parcio h.y. oherwydd diffyg parcio preifat oddi ar y stryd neu ar y stryd. Bydd cymhwyster i ymgeisio am drwydded preswylydd yn dibynnu ar y canlynol - Bydd yr ymgeisydd yn breswylydd mewn stryd neu eiddo penodol a restrir mewn perthynas â phob maes parcio penodedig. Nid oes parcio oddi ar y stryd ar gael i’r preswylydd sy’n ymgeisio. Nid oes lle parcio ar y stryd ar gael i’r ymgeisydd yn agos i’w gartref. Dim ond un drwydded a gyhoeddir fesul eiddo. Ni fydd y Drwydded yn benodol i gerbyd, caiff ei chyhoeddi gan gyfeirio at y cartref penodol. Er na fydd y tocyn hwn yn sicrhau lle parcio, bydd yn lleddfu’r angen i ddefnyddwyr brynu tocyn dyddiol droeon.

Digwyddiadau

Weithiau bydd digwyddiadau’n gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio’r meysydd parcio. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried mewn perthynas ag effaith ar barcio. Efallai bydd y ffi’n cael ei hepgor am ddigwyddiadau elusennol.

Cilfachau Siopa Cyflym

Parcio am ddim am 30 munud. Mae hyn yn galluogi modurwr i barcio am 30 munud am ddim mewn cilfach a ddyrannwyd. Nifer y cilfachau fydd 6% o holl gilfachau’r maes parcio ar gyfer y maes parcio penodedig, hyd at fwyafswm o 6 chilfach y maes parcio. Bydd un o’r cilfachau hyn ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas (bydd cilfach Bathodyn Glas yn rhoi awr o barcio am ddim i roi mwy o amser i’r deiliad Bathodyn Glas).

Asesiad Effaith Integredig

Mae’r Awdurdod wedi datblygu offeryn i asesu effaith y strategaethau a’r polisïau a gynigir ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, datblygu cynaliadwy, y Gymraeg ac iechyd a lles. Cymhwysir yr offeryn i’r holl benderfyniadau arfer a pholisi strategol.

Parcio i’r Anabl

Er mwyn lleihau camddefnyddio, codir yr un tâl ar ddeiliaid ‘bathodyn glas’ â defnyddwyr eraill, a hynny yn y cilfachau anabl dynodedig a chilfachau eraill ym mhob lleoliad. Pan arddangosir y ‘bathodyn glas’ yn glir, caniateir awr ychwanegol o aros. Bydd pob lleoliad yn darparu nifer digonol o gilfachau i’r anabl, a bydd mesuryddion parcio yn cael eu gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Gorchymyn Meysydd Parcio

Mae’r Gorchymyn Meysydd Parcio’n nodi’r rheoliadau i bob maes parcio a weithredir gan y Cyngor sy’n hygyrch i’r cyhoedd, ni waeth a godir tâl ai peidio. Mae’r Gorchymyn yn nodi’r amodau defnyddio ar gyfer maes parcio, lefel yr Hysbysiadau Tâl Cosb a phryd y ceir eu cymhwyso.

 

ID: 2756, adolygwyd 27/01/2025