Parcio yn Sir Benfro
Pwyntiau gwefru i gerbydau trydan yn Sir Benfro
Lleoliadau
Mae mannau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd yn cael eu cynnig mewn 18 o leoliadau ar draws y sir, diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae pob lleoliad yn cynnig gwefru ‘cyflym’ i gerbydau trydan, ac mae dau ohonynt (Maes Parcio Aml-lawr Dinbych-y-pysgod a Maes Parcio Neuadd y Sir Hwlffordd) yn cynnig gwefru ‘cyflym’ a ‘chwim’.
Mae’r mannau gwefru EV wedi’u lleoli’n ganolog mewn meysydd parcio er mwyn galluogi defnyddwyr i ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir.
Maent wedi’u lleoli yn y meysydd parcio canlynol:
- Maes Parcio Aml-lawr, Upper Park Road, Dinbych-y-pysgod, SA70 7LT
- Towns Moor, Arberth, SA67 7AB
- Gordon Street, Doc Penfro, SA72 6DW
- Long Street, Trefdraeth, SA42 0TJ
- West Street, Abergwaun, SA65 9NJ
- Charles Street, Aberdaugleddau, SA73 2AJ
- Stryd Fawr, Llandudoch, SA43 3EA
- Maes Parcio Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
- Maes Parcio Y Cwcwll, Tyddewi, SA62 6NT
- Maes Parcio Tiroedd y Farchnad Da Byw, Crymych, SA41 3QE
- Maes Parcio Stryd Fawr, Neyland, SA73 1TF
- Maes Parcio Y Parêd, Penfro, SA71 4JY
- Maes Parcio Y Parrog, Wdig, SA64 0DE
- Maes Parcio Brewery Meadow (Regency Hall), Saundersfoot, SA69 9ND
- Maes Parcio The Hoppers, Porthgain, SA62 5BN
- Maes Parcio Millmoor Way, Aberllydan, SA62 3JH
- Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, SA62 6NW
Math o bweru
Darperir pob cyflenwad pweru cerbydau trydanol cyhoeddus Cyngor Sir Penfro trwy socedi Math 2, a darperir y cebl gan y defnyddiwr. Math 2 yw'r safon Ewropeaidd IEC 62196 ac fe'i gelwir yn aml yn Menekes.
Mae'r gorsafoedd pweru cyflym yn gweithredu rheolaeth llwyth ddeinamig a gallant bweru cerbyd trydanol o fewn 3-4 awr, gan ddibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi'u cysylltu.
Sut i ddefnyddio'r orsaf bweru
I greu cyfrif er mwyn dechrau defnyddio gorsafoedd pweru cerbydau trydanol Cyngor Sir Penfro, ewch i: Dragon Charging
Rhaid talu i bweru eich cerbyd. Gallwch dalu trwy ddefnyddio ap ffôn symudol neu trwy brynu cerdyn RFID. Mwy o wybodaeth: Dragon Charging
Sylwer bod pob gorsaf bweru wedi'i lleoli mewn maes parcio talu ac arddangos. Bydd rhaid i chi hefyd dalu'r ffi talu ac arddangos berthnasol ar gyfer y cyfnod cyfnod cyfan a gymer i bweru eich cerbyd.
Gallwch bweru eich car am uchafswm o 4 awr yn ystod oriau agor y meysydd parcio talu ac arddangos.
Bydd yr holl elw y mae Cyngor Sir Penfro'n ei wneud o'r gorsafoedd pweru cerbydau trydanol yn cael ei ail-fuddsoddi mewn rhagor o ddarpariaeth gorsafoedd pweru.
Mwy o wybodaeth
Darperir y gorsafoedd pweru cerbydau trydanol gan Gyngor Sir Penfro er budd preswylwyr ac ymwelwyr er mwyn hwyluso trosglwyddo i ddyfodol carbon isel. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei gyflwyno gan Silverstone Green Energy. Mae awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn defnyddio rhwydwaith pweru rhanbarthol hefyd, sef Dragon Charging
Croesawn eich adborth. Anfonwch neges e-bost at: energy@pembrokeshire.gov.uk.