Parcio yn Sir Benfro
Safle Gwefru Ceir Trydan yn Hwlffordd
1 - Lleoliadau:
Mae mannau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd yn cael eu cynnig mewn 18 o leoliadau ar draws y sir, diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae pob lleoliad yn cynnig gwefru ‘cyflym’ i gerbydau trydan, ac mae dau ohonynt (Maes Parcio Aml-lawr Dinbych-y-pysgod a Maes Parcio Neuadd y Sir Hwlffordd) yn cynnig gwefru ‘cyflym’ a ‘chwim’.
Mae’r mannau gwefru EV wedi’u lleoli’n ganolog mewn meysydd parcio er mwyn galluogi defnyddwyr i ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir.
Maent wedi’u lleoli yn y meysydd parcio canlynol:
· Maes Parcio Aml-lawr, Upper Park Road, Dinbych-y-pysgod, SA70 7LT
· Towns Moor, Arberth, SA67 7AB
· Gordon Street, Doc Penfro, SA72 6DW
· Long Street, Trefdraeth, SA42 0TJ
· West Street, Abergwaun, SA65 9NJ
· Charles Street, Aberdaugleddau, SA73 2AJ
· Stryd Fawr, Llandudoch, SA43 3EA
· Maes Parcio Aml-lawr, Cartlett Road, Hwlffordd, SA61 2LX
· Maes Parcio Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
· Maes Parcio Y Cwcwll, Tyddewi, SA62 6NT
· Maes Parcio Tiroedd y Farchnad Da Byw, Crymych, SA41 3QE
· Maes Parcio Stryd Fawr, Neyland, SA73 1TF
· Maes Parcio Y Parêd, Penfro, SA71 4JY
· Maes Parcio Y Parrog, Wdig, SA64 0DE
· Maes Parcio Brewery Meadow (Regency Hall), Saundersfoot, SA69 9ND
· Maes Parcio The Hoppers, Porthgain, SA62 5BN
· Maes Parcio Millmoor Way, Aberllydan, SA62 3JH
· Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, SA62 6NW
2 - Math o bweru:
Darperir pob cyflenwad pweru cerbydau trydanol cyhoeddus Cyngor Sir Penfro trwy socedi Math 2, a darperir y cebl gan y defnyddiwr. Math 2 yw'r safon Ewropeaidd IEC 62196 ac fe'i gelwir yn aml yn Menekes.
Mae'r gorsafoedd pweru cyflym yn gweithredu rheolaeth llwyth ddeinamig a gallant bweru cerbyd trydanol o fewn 3-4 awr, gan ddibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi'u cysylltu.
3 - Sut i ddefnyddio'r orsaf bweru:
I greu cyfrif er mwyn dechrau defnyddio gorsafoedd pweru cerbydau trydanol Cyngor Sir Penfro, ewch i: www.dragoncharging.co.uk
Rhaid talu i bweru eich cerbyd. Gallwch dalu trwy ddefnyddio ap ffôn symudol neu trwy brynu cerdyn RFID. Mwy o wybodaeth: www.dragoncharging.co.uk
Ar hyn o bryd, pris gwefru yw cysylltiad am ddim â thâl o 30c fesul kWh am y trydan sy’n cael ei ddefnyddio.
Sylwer bod pob gorsaf bweru wedi'i lleoli mewn maes parcio talu ac arddangos. Bydd rhaid i chi hefyd dalu'r ffi talu ac arddangos berthnasol ar gyfer y cyfnod cyfnod cyfan a gymer i bweru eich cerbyd.
Gallwch bweru eich car am uchafswm o 4 awr yn ystod oriau agor y meysydd parcio talu ac arddangos.
Bydd yr holl elw y mae Cyngor Sir Penfro'n ei wneud o'r gorsafoedd pweru cerbydau trydanol yn cael ei ail-fuddsoddi mewn rhagor o ddarpariaeth gorsafoedd pweru.
4 - Mwy o wybodaeth:
Darperir y gorsafoedd pweru cerbydau trydanol gan Gyngor Sir Penfro er budd preswylwyr ac ymwelwyr er mwyn hwyluso trosglwyddo i ddyfodol carbon isel. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei gyflwyno gan Silverstone Green Energy. Mae awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn defnyddio rhwydwaith pweru rhanbarthol hefyd, sef www.dragoncharging.co.uk
Croesawn eich adborth. Anfonwch neges e-bost at: energy@pembrokeshire.gov.uk.