Parcio yn Sir Benfro

Trwydded Parcio Preswylwyr

Mae cynlluniau parcio gyda hawlen ar gyfer preswylwyr wedi eu cyflwyno mewn mwy na 50 o fannau ledled y Sir.  Mae gan bob cynllun yr un telerau ac amodau. 
  • Gellir neilltuo hyd at 50% o'r lle parcio sydd ar gael ar gyfer dalwyr hawlenni.
  • Dosberthir un hawlen i eiddo cymwys, ar gyfer cerbyd penodol.
  • Cost yr hawlen yw £46 y flwyddyn. Mae cynnydd yn gysylltiedig â chwyddiant.
  • Gellir dosbarthu hawlen ymwelydd, am gost o £52.50, am gyfnod o hyd at 7 diwrnod.
  • Cost adnewyddu hawlen yw £13.50.

Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  •  Copi o’ch yswiriant car
  • Prawf preswylio (rhywbeth sydd â’ch enw a chyfeiriad yr eiddo y byddwch yn ymgeisio amdano) 
  • Ni ddylai’r ddogfen fod yn hŷn na 3 mis
  • Tystysgrif MOT (os oes gan y cerbyd un) – ni fydd angen hwn arnoch chi os yw’r cerbyd yn iau na 3 blwydd oed
  • Cerdyn credyd/debyd er mwyn gwneud taliad

Ffurflen ar-lein: Ffurflen Gais Hawlenni i Drigolion (yn agor mewn tab newydd)

 

Ar ôl ei derbyn, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.

 

ID: 2649, adolygwyd 08/04/2025