Parcio yn Sir Benfro
Y Adroddiad Gorfodaeth Parcio Sifil 2018-19
Y Ddarpariaeth ar gyfer Parcio yn Sir Benfro
Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau
Diweddariad ar Fentrau 2017-28
Datblygiadau a Mentrau yn y Dyfodol
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Cyflwyniad
Gan y Cynghorydd Phil Baker
Llefarydd y Cabinet dros Seilwaith, Trwyddedu a Digwyddiadau Mawr
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Dyma'r Seithfed adroddiad blynyddol yr ydym wedi'i gyhoeddi, a hynny'n unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Ei nod yw darparu gwybodaeth am y modd y mae Cyngor Sir Penfro yn cyflawni ei waith gorfodi parcio a gwasanaethau cysylltiedig, yn ogystal â rhoi'r gwasanaeth yn yr un cyd-destun â'n dyletswyddau a'n polisïau eraill o ran rheoli’r rhwydwaith ffyrdd.
Rydym yn parhau i orfodi cyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd, a hynny ar bob ffordd yn y Sir ac ymhob maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
Un o'n blaenoriaethau yw sicrhau bod y gwaith o orfodi cyfyngiadau parcio yn dryloyw, yn gyson ac yn deg. Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod didwylledd ac atebolrwydd yn hanfodol i ennyn cefnogaeth y cyhoedd, a thrwy gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Barcio, rydym yn gobeithio y bydd ein cwsmeriaid yn ymwybodol o'n hymroddiad i wella'r drefn o ran parcio ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae'r awdurdod hefyd yn adolygu'n barhaus y modd yr ydym yn rhoi ein gweithrediadau gwasanaethau parcio ar waith ac yn gweithio ar sail adennill costau yn llawn. Ein bwriad yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel ar gyfer darpariaethau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd. Byddwn yn parhau i werthuso ein polisi ar gyfer codi tâl am barcio, a byddwn yn sicrhau ein bod yn adolygu ein gwasanaeth cyfan yn rhan o'n rhaglen drawsnewid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch ein Hadroddiad Blynyddol ar Barcio, rhowch wybod i ni trwy ffonio 01437 764551, neu anfonwch neges e-bost i parcio@pembrokeshire.gov.uk.
Strategaeth a Pholisi
Cefndir
Mae Gweledigaeth Strategol y Cyngor yn pwysleisio'r arfer o hyrwyddo amgylchedd deniadol, glân ac iach, ac mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cydnabod bod rheoli traffig yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau y defnyddir y priffyrdd mewn modd diogel, effeithiol a rhesymol.
Y Polisi Codi Tâl
- Yr angen i annog y diwydiant manwerthu;
- Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llif traffig;
- Yr angen i reoli'r galw mewn modd effeithiol;
- Natur mannau parcio a'u defnyddwyr, h.y. siopwyr/busnesau trefol, preswylwyr, siopwyr trefi gwledig, traethau/ymwelwyr;
- Cymariaethau â darparwyr eraill yn yr ardal;
- Yr angen i annog pobl i ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus;
- Ni osodir taliadau er mwyn cael incwm yn unig;
- Ystyriaeth o ddarpariaeth gyffredinol y gyllideb refeniw (gwariant ac incwm) ar gyfer meysydd parcio;
- Rhagdybiaeth o blaid gwelliannau a ariennir gan dariff uwch.
Mae'r egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso'n gyson, sy'n arwain at daliadau gwahanol o le i le.
Rheoli'r Galw:
Mae'r taliadau ar gyfer parcio ceir wedi cael eu hystyried fesul lleoliad. Mae'r taliadau ar gyfer parcio ceir yn Sir Benfro wedi cael eu gosod i ddenu siopwyr, ac maent yn debygol o fod yn fannau parcio ar gyfer arosiadau byr. Lle bo galw mawr am fannau parcio ceir a/neu lle bo nifer y mannau hynny'n gyfyngedig, caiff y cyfnodau a'r tariffau parcio eu gosod mewn modd gofalus er mwyn sicrhau’r trosiant mwyaf posibl.
Y Ddarpariaeth ar gyfer Parcio yn Sir Benfro
Parcio oddi ar y Stryd
Mae'r Awdurdod yn rheoli meysydd parcio i ddarparu ar gyfer defnyddwyr arosiadau byr a defnyddwyr arosiadau hir. Mae'r ffioedd yn unol â Pholisi'r Cyngor.
Mae'r ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth.
Parcio ar y Stryd
Mae'r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar briffyrdd cyhoeddus mabwysiedig lle ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny heb amharu'n ormodol ar y traffig sy'n symud. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer cyfnodau aros cyfyngedig, pobl anabl, llwytho, tacsis, beiciau modur a phreswylwyr.
Mae wedi datblygu arferion cadarn a theg o ran rheoli parcio ar ymyl y ffordd i ddarparu ar gyfer gofynion gwrthgyferbyniol defnyddwyr amrywiol. Nid oes unrhyw gyfyngiad wedi cael ei roi ar waith nad oes ganddo orchymyn rheoleiddio traffig i'w gefnogi.
Ein Gwasanaethau
Parcio oddi ar y Stryd
Mae gan y Cyngor feysydd parcio lle codir tâl am barcio a meysydd parcio sy'n rhad ac am ddim; Mae gan Gyngor Sir Penfro 98 o feysydd parcio, ac mae 36 ohonynt yn feysydd parcio talu ac arddangos. Yn achos 18 ohonynt, mae'r taliadau'n berthnasol trwy gydol y flwyddyn, a chodir taliadau tymhorol mewn 14 ohonynt.
Rhoddwyd y canlynol rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019:
- 517 o docynnau tymhorol
- 98 o drwyddedau parcio ar gyfer mannau neilltuedig
- 132 o drwyddedau parcio ar gyfer Harbwr Dinbych-y-pysgod
Mae o leiaf 6% o fannau parcio wedi cael eu neilltuo ar gyfer deiliaid bathodynnau glas. Roedd y Cyngor wedi hepgor taliadau ar ddiwrnodau penodol ym mis Rhagfyr yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain at y Nadolig, a hynny ymhob un o feysydd parcio’r sir lle codir tâl fel arfer.
Ar y Stryd
Ar hyn o bryd, mae yna 1,035 o fannau aros cyfyngedig, 127 o fannau parcio ar gyfer pobl anabl, 33 o fannau parcio ar gyfer tacsis, tri man parcio ar gyfer bysiau, 28 o fannau parcio ar gyfer llwytho/dadlwytho nwyddau, un man parcio ar gyfer ambiwlansys ac un man parcio ar gyfer beiciau modur. Yn rhan o'r mannau parcio cyffredinol, mae 636 yn weddill ar gyfer Deiliaid Trwyddedau Preswylwyr/Busnes.
Parcio i Breswylwyr
Mae Cynlluniau Parcio i Breswylwyr wedi cael eu cyflwyno ar nifer o strydoedd/leoliadau ledled y Sir, lle bo hynny'n ymarferol. Ar hyn o bryd, mae yna 57 o gynlluniau ar waith; gweler y rhestr lawn yn Atodiad 1. Mae'r holl gynlluniau ar y priffyrdd cyhoeddus yn cael eu gweithredu o dan yr un rheoliadau, sy'n cynnwys un drwydded i bob eiddo, a hynny ar gyfer cerbyd penodol. Mae trwyddedau'n ddilys am gyfnod o hyd at 12 mis. Mae trwydded yn costio £40.00. Mae trwyddedau ar gyfer ymwelwyr ar gael am gyfnodau o hyd at saith niwrnod am gost o £30.00, sef, unwaith eto, un drwydded i bob eiddo, a hynny ar gyfer cerbyd penodol. Rhaid darparu prawf o ddeiliadaeth, tystysgrif yswiriant ddilys a thystysgrif MOT.
Mae cynllun nad yw ar gyfer priffyrdd ar waith yn Harbwr Dinbych-y-pysgod, sy'n cynnwys un drwydded i bob eiddo, ond nid yw ar gyfer cerbyd penodol. Mae trwydded yn costio £200.00. Cynyddwyd y ffi hon ar 1 Mawrth 2018.
Rhoddwyd 1,831 o drwyddedau blynyddol rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, yn ogystal â 175 o drwyddedau ar gyfer ymwelwyr.
Goddefebau Parcio
Mewn rhai amgylchiadau, bydd y Cyngor yn caniatáu i gerbyd barcio'n gyfreithlon yn groes i orchymyn y Rheoliad Traffig, a hynny trwy roi goddefeb. Gall hefyd atal pobl rhag defnyddio mannau parcio er mwyn eu cadw ar gyfer cerbydau penodol a/neu ymgeiswyr.
Rhoddir goddefebau trwy drwydded dros dro, sy'n cynnwys manylion y digwyddiad, rhif cofrestru'r cerbyd, a’r dyddiad a'r amser y'i defnyddir. Rhaid arddangos y drwydded yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd cymeradwy.
Rhoddwyd 252 o oddefebau rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
Gorfodaeth Parcio Sifil
Timau Parcio a Gofal Stryd
Mae cyfuno'r gwaith o reoli a gorfodi parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn darparu buddion gweithredol a chymunedol sylweddol. Ym mis Ebrill 2013, cyfunwyd y tîm gwasanaethau parcio â'r tîm gofal stryd o dan un rheolwr gweithredol. Mae'r ddwy adran yn parhau i fod â'u cylch gwaith eu hunain; fodd bynnag, mae buddion y gwasanaeth cyfun hwn yn cynnwys:
- Cydgysylltu’r broses o orfodi a rheoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydgysylltu’r broses o orfodi pob mater sy'n ymwneud â phriffyrdd
- Cydgysylltu gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
- Rheoli a chydgysylltu digwyddiadau sy'n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydgysylltu gwaith trydydd partïon ar y priffyrdd
- Rheoli'r holl weithgareddau trwyddedig ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Rhoi polisïau ar waith mewn modd mwy effeithiol
Gweithredu’r Orfodaeth Parcio Sifil
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn cyflogi 13 Swyddog Gorfodi Sifil, dau Glerc Technegol, a thri Swyddog Gwasanaethau Parcio; mae pob un ohonynt yn cael eu cefnogi gan y Rheolwr Parcio a Gofal Stryd. Nid ydynt yn cael unrhyw fonysau na chymelldaliadau sy'n gysylltiedig â pherfformiad.
Rhoddir rhybuddion taliadau cosb i gerbydau sy'n parcio mewn modd sy'n mynd yn groes i'r cyfyngiadau. Os bydd modurwr yn dymuno herio Rhybudd Tâl Cosb, rhaid iddo ddilyn y broses apelio y manylir arni ar gefn y Rhybudd Tâl Cosb.
Gan fod yr Orfodaeth Parcio Sifil wedi bod mewn grym er mis Chwefror 2011, mae staff y Gwasanaethau Parcio wedi meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o le a phryd y gwelir arferion parcio diwahân. Fodd bynnag, pan fydd aelodau o'r cyhoedd yn profi problemau parcio penodol, gallant roi gwybod i'r swyddfa amdanynt.
Mae'r Tîm Gwasanaethau Parcio hefyd yn gyfrifol am reoli'r holl feysydd parcio, y peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, y Trwyddedau i Breswylwyr, Tymhorau'r Meysydd Parcio a Thocynnau Neilltuedig, y Goddefebau Parcio, a Thrwyddedau'r Meysydd Parcio.
Y Swyddfa Gefn — Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPP Cymru)
Mae swyddfa gefn PPP Cymru yn parhau i gael ei defnyddio i brosesu’r Rhybuddion Taliadau Cosb a roddir. Yn rhan o'r bartneriaeth, mae yna gyfarfodydd chwarterol a gweithgor swyddogion, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob Awdurdod Partner, lle maent yn trafod cysondeb gweithredol, yn rhannu arfer gorau, ac yn ymdrechu i wneud arbedion effeithlonrwydd yn barhaus.
Asiantau Gorfodi
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar Asiant Gorfodi i adennill dyledion, sef Excel, Proserve, Swift ac AJ Enforcement. Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth yn y gwaith hwn ac maent yn darparu gwasanaethau tebyg i gynghorau eraill PPP Cymru, yn ogystal â'n partneriaid sy'n rhan o Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru (SWWITCH), sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau
Perfformiad Ystadegol
Mae’r tablau isod yn cynnwys ystadegau sy’n ymwneud â’r Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
Rhybuddion Taliadau Cosb — Dilyniant Achosion
Dilyniant Achosion |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y stryd | 7,504 | 52.89% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y stryd | 6,683 | 47.11% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar gyfradd ostyngol | 8,982 | 63.31% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar ôl 14 diwrnod | 2,330 | 16.42% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb nas talwyd | 825 | 5.81% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd (gweler tabl 6.5) | 2,050 | 14.46% |
Cyfanswm nifer y Rybuddion Taliadau Cosb a roddwyd | 14,187 | - |
Tramgwyddau Parcio ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|---|
01 | Cerbyd sydd wedi parcio ar stryd gyfyngedig yn ystod oriau rhagnodedig | 2,318 | 16.34% |
02 | Cerbyd sydd wedi parcio, neu sy’n llwytho/dadlwytho, ar stryd gyfyngedig lle mae yna gyfyngiadau mewn grym o ran aros a llwytho/dadlwytho | 141 | 0.99% |
12 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio i breswylwyr neu fan parcio a rennir, a hynny heb arddangos trwydded ar gyfer y man hwnnw mewn modd eglur | 1,865 | 13.15% |
14 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man gwefru cerbydau trydan yn ystod oriau cyfyngedig heb wefru’r cerbyd | 0 | 0% |
16 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys | 12 | 0.08% |
21 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ataliedig neu ran o fan parcio ataliedig | 75 | 0.53% |
23 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio nad yw’n ddynodedig ar gyfer y math hwnnw o gerbyd | 360 | 2.54% |
25 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig, a hynny heb lwytho nwyddau | 43 | 0.30% |
26 | Cerbyd sydd wedi parcio mwy na 50 cm oddi wrth ymyl cerbytffordd, a hynny heb fod mewn man parcio dynodedig | 9 | 0.06% |
27 | Cerbyd sydd wedi parcio yn agos at droetffordd isel | 339 | 2.39% |
40 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur | 496 | 3.50% |
45 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle tacsis | 70 | 0.49% |
47 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle bws dynodedig | 44 | 0.31% |
48 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol | 1 | 0.01% |
49 | Cerbyd sydd wedi parcio’n llwyr neu’n rhannol ar lwybr beicio | 1 | 0.01% |
62 | Cerbyd sydd wedi parcio gydag un neu fwy o olwynion ar ran o ffordd heblaw am rhwng dwy gerbytffordd | 0 | 0.0% |
63 | Cerbyd sydd wedi parcio gyda’r injan yn dal i redeg mewn ardal waharddedig | 0 | 0.0% |
99 | Cerbyd sydd wedi parcio ar groesfan i gerddwyr neu ardal ag arwyddion igam-ogam | 22 | 0.16% |
04 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cynnwys mesurydd pan fo’r gosb amser wedi cael ei nodi | 0 | 0.0% |
05 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano | 2 | 0.01% |
06 | Cerbyd sydd wedi parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys mewn modd eglur | 12 | 0.08% |
24 | Cerbyd nad yw wedi parcio mewn modd cywir y tu mewn i farciau man parcio | 16 | 0.11% |
30 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn a ganiateir | 1,603 | 11.30% |
Tramgwyddau Parcio oddi ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|---|
74 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cael ei ddefnyddio i werthu, gynnig neu dynnu sylw at nwyddau pan fo hynny’n wedi’i wahardd | 11 | 0.08% |
80 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy nag uchafswm yr amser a ganiateir | 49 | 0.35% |
81 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio | 43 | 0.30% |
82 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano | 1433 | 10.10% |
83 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys, neu gloc parcio, mewn modd eglur | 4,009 | 28.26% |
85 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys | 319 | 2.25% |
86 | Cerbyd sydd wedi parcio y tu hwnt i farciau’r man parcio | 468 | 3.30% |
87 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur | 303 | 2.14% |
91 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio nad yw wedi cael ei ddynodi ar gyfer y math hwnnw o gerbyd | 70 | 0.49% |
94 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio talu ac arddangos, a hynny heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys pan oedd angen | 1 | 0.01% |
95 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio am resymau heblaw am ddiben dynodedig y man parcio | 10 | 0.07% |
Rhybuddion Taliadau Cosb a Ganslwyd
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd o ganlyniad i gynrychiolaeth ffurfiol: yr Her wedi’i Derbyn: Y Rhybuddion Taliadau Cosb a Roddwyd: 1,105 (7.78%)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd am resymau eraill (e.e. nid oedd modd olrhain y perchennog, gwall y Swyddog Gorfodi Parcio Sifil (CEO), y DVLA ddim yn gallu darparu manylion: 945 (6.68%)
- Y Cyfanswm a Ganslwyd: 2,050 (14.46%)
Cymariaethau
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd: 14,040 (2017-18) 14,187 (2018-19)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y Stryd 7,586 (2017-18) 7,504 (2018-19)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y Stryd 6,457 (2017-18) 6,683 (2018-19)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd fesul 16.22% (2017-18) 14.46% (2018-19)
Dyfarniadau a wnaed mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cosbau Traffig
- Cyfanswm 10 (2017-18) 8 (2018-19)
- Apeliadau a Wrthodwyd 6 (60%) (2017-18) 5 (62.5%) (2018-19)
- Apeliadau a Dderbyniwyd 4 (40%) (2017-18) 3 (37.5%) (2018-19)
Gwybodaeth Ariannol
Cyfrif Ariannol
Cyflwynir isod ddata ariannol incwm a gwariant a lywodraethir gan Adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Incwm |
2017-18 |
2018-19 |
---|---|---|
Trwyddedau Parcio i Breswylwyr (yn cynnwys trwyddedau i Breswylwyr ac Ymwelwyr) | £44,089 | £45,536 |
Goddefebau Parcio | £5,719 | £8,055 |
Taliadau Cosb | £447,032 | £427,588 |
Cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol eraill | £12,500 | £12,500 |
Cyfanswm yr Incwm | £509,340 | £493,679 |
Gwariant |
2017-18 |
2018-19 |
---|---|---|
Costau Cyflogeion | £259,216 | £271,253 |
Safleoedd | £44,196 | £35,904 |
Nwyddau a Gwasanaethau | £18,700 | £14,264 |
Cymorth a Rheoli | £127,676 | £145,497 |
Taliadau Eraill | £58,494 | £70,650 |
Taliadau Cyfalaf | £0 | £0 |
Cyfanswm y Gwariant | £508,282 | £552,590 |
(Gwarged)/Diffyg | (-£1,058) | £43,888 |
Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgarwch oddi ar y stryd nad yw’n cael ei lywodraethu gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Diweddariad ar Fentrau 2017-18
Menter
Bydd Gweithgor Parcio yn cael ei sefydlu, a fydd yn cwrdd bob chwarter, i adolygu gweithrediadau’r Gwasanaethau Parcio. Bydd y gweithgor yn cynnwys swyddogion a Chynghorwyr Sir etholedig
Cynnydd
Cynhaliodd y gweithgor parcio adolygiad o weithrediadau parcio a chyflwynwyd papur i'r cabinet. Bydd argymhelliad y Cabinet yn cael ei gynnwys yn y ffrwd waith ar gyfer 2019-20
Menter
Ymgymryd â gwaith adfer a gwella ym maes parcio aml-lawr Hwlffordd
Cynnydd
Roedd lefel uchel o waith cynnal a chadw wedi cael ei wneud. Adolygiad hirdymor o faes parcio aml-lawr Hwlffordd yn unol â rhaglen adfywio’r dref wrth symud ymlaen
Menter
Cyflwyno opsiynau talu heb arian parod ar gyfer peiriannau Talu ac Arddangos
Cynnydd
Roedd penderfyniad wedi cael ei wneud i gyflwyno opsiynau talu heb arian parod o 2019 ymlaen. Roedd penderfyniad wedi cael ei wneud i waredu opsiynau talu ag arian parod erbyn 31/03/2021
Menter
Gwella mannau gwefru Cerbydau Trydan yn ein meysydd parcio
Cynnydd
Roedd Cam 1 wedi cael ei gwblhau
Menter
Parhau i ddatblygu system y swyddfa gefn ar gyfer Trwyddedau Parcio
Cynnydd
Roedd hyn wedi cael ei gwblhau. Roedd y system newydd bellach ar waith
Menter
Datblygu’r cynllun Rheoli Asedau Parcio trwy ddefnyddio meddalwedd AMX
Cynnydd
Roedd y feddalwedd AMX yn parhau i gael ei datblygu
Menter
Adolygu lefelau staffio’r gwasanaethau parcio er mwyn sicrhau parhad busnes, datblygu dull rheoli asedau, datblygu’r gwasanaeth yn barhaus, a sicrhau bod costau’n cael eu hadennill yn llawn
Cynnydd
Parhaus
Menter
Parhau i weithio mewn modd cydweithredol â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn perthynas ag arferion Gorfodi a Rheoli yn eu mannau parcio
Cynnydd
Parhaus
Cynnydd
Parhau i adolygu’r Gwasanaethau Parcio yn unol â’n rhaglen drawsnewid
Menter
Cytunwyd ar opsiynau ar gyfer talu heb arian parod
Cynnydd
Adolygu consesiynau ychwanegol posibl yn ein meysydd parcio
Menter
Roedd adolygiad wedi cael ei gynnal; fodd bynnag, roedd y gyfradd o ran ymgymryd â hyn yn araf
Datblygiadau a Mentrau yn y Dyfodol
Yn ystod 2019-20, bydd nifer o fentrau’n cael eu hystyried, a hynny naill ai yn barhad o weithgarwch y llynedd a’r materion a oedd yn codi, neu’n fentrau newydd, fel a ganlyn:
- Nodi cynllun hirdymor ar gyfer maes parcio aml-lawr Hwlffordd
- Cyflwyno dewisiadau talu heb arian parod ar gyfer peiriannau talu ac arddangos
- Parhau i gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn ein meysydd parcio
- Adolygu camerâu gorfodi symudol
- Parhau i adolygu proses adennill costau’r gwasanaeth parcio
- Adolygu’r strwythur prisio cyfredol ar gyfer parcio oddi ar y stryd
- Nodi rhaglen waith rhwng tair a phum mlynedd ar gyfer parcio oddi ar y stryd
- Sicrhau bod yr holl ddata am gyflwr ac asedau meysydd parcio yn cael eu casglu a’u hychwanegu at y system AMX
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Aberllydan
- Marine Road – yr ochr orllewinol
Dale
- U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol
Abergwaun
- Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
- Coronation Avenue
Hwlffordd
- Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
- Albany Terrace – yr ardal barcio
- Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
- Cartlett – yr ochr ogleddol
- Ardal ger Castell y dref
- North Street – yr ochr orllewinol
- North Street – yr ochr ddwyreiniol
- Holloway – yr ochr ogleddol
- Queens Square – yr ardal ganol
- Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
- Merlins Hill – yr ochr ogleddol
- Hill Street
- North Crescent – yr ochr orllewinol
- Winch Crescent – yr ochr ddeheuol
Aberdaugleddau
- Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Neyland
- Neyland Hill – yr ochr ddeheuol
Penfro
- Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
- Doc Penfro
- Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
- Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Gordon Street – yr ochr orllewinol
- Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
Dinbych-y-pysgod
- Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
- Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
- Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Weston Terrace – yr ochr orllewinol
- Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Harries Street – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
- Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
- Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
- Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Picton Terrace – yr ochr orllewinol
- Queens Parade – yr ochr orllewinol
- South Cilff Street – yr ochr ogleddol
- St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
- St Johns Hill – yr ochr ogleddol
- St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
- Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
- The Croft – yr ochr ddwyreiniol
- The Norton – yr ochr ddwyreiniol
- The Paragon – yr ochr ddeheuol
- Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
- Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Warren Street – yr ochr ddeheuol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Hwlffordd
Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog
Tyddewi
Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol