Parcio yn Sir Benfro

Y Adroddiad Gorfodaeth Parcio Sifil 2019-20

Rhagarweiniad

Strategaeth a Pholisi

Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro

Ein Gwasanaethau

Gorfodi Parcio Sifil

Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau

Gwybodaeth Ariannol

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2018/ 2019

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir

Rhagarweiniad

Gan y Cynghorydd Phil Baker

Llefarydd y Cabinet dros Seilwaith, Trwyddedu a Digwyddiadau Mawr 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Hwn yw’r Wythfed adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym, yn unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Ei nod yw darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir Penfro yn cyflawni ei wasanaethau gorfodi parcio a gwasanaethau cysylltiedig ac i osod y gwasanaeth yng nghyd-destun ein dyletswyddau a pholisïau eraill mewn perthynas â rheoli’r rhwydwaith ffyrdd.

Rydym yn parhau i orfodi cyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar bob heol yn y Sir ac ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. 

Un o’n blaenoriaethau yw sicrhau bod gorfodi cyfyngiadau parcio yn dryloyw, yn gyson ac yn deg. Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod didwylledd ac atebolrwydd yn hanfodol er mwyn ennyn cefnogaeth y cyhoedd a thrwy gyhoeddi ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, gobeithiwn y bydd ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’n hymrwymiad i wella’r drefn barcio ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Mae’r awdurdod hefyd yn adolygu’n barhaus sut yr ydym yn gweithredu ein gweithrediadau gwasanaethau parcio ac mae’n gweithio ar sail adennill costau’n llawn. Ein bwriad yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel ar gyfer ein darpariaethau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd. Byddwn yn parhau i werthuso ein Polisi Codi tâl am Barcio ac yn sicrhau ein bod yn adolygu ein gwasanaeth cyfan fel rhan o’n rhaglen trawsnewid

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01437 764551 neu e-bostio at parking@pembrokeshire.gov.uk.

Strategaeth a Pholisi

Cefndir 

Mae Gweledigaeth Strategol y Cyngor yn pwysleisio hyrwyddo amgylchedd sy’n ddeniadol, yn lân ac yn iach ac mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cydnabod bod rheoli traffig yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau defnydd diogel, effeithiol a rhesymol o’r briffordd. 

Polisi Codi tâl

  • Yr angen i annog masnach adwerthu;
  • Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llif traffig;
  • Yr angen i reoli’r galw yn effeithiol;
  • Natur y lleoliad parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. siopwr trefol/busnes, preswyl, siopwr tref gwledig, traeth/ymwelydd;
  • Cymharu â darparwyr eraill yr ardal;
  • Yr angen i annog defnyddio dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus;
  • Nid yw’r codi tâl at ddibenion creu incwm yn unig;
  • Ystyried darpariaeth gyffredinol y gyllideb refeniw (gwariant ac incwm) ar gyfer meysydd parcio;
  • Rhagdybiaeth o blaid ariannu gwelliannau drwy gynyddu’r tariff.

Caiff yr egwyddorion hyn eu gweithredu’n gyson, sy’n arwain at wahaniaeth yn  swm y tâl a godir o le i le.

Rheoli’r Galw

Mae’r taliadau a godir am barcio wedi cael eu hystyried fesul lleoliad. Mae’r taliadau a godir am barcio yn Sir Benfro wedi’u pennu er mwyn annog siopwyr a fydd yn debygol o angen lleoedd parcio arhosiad byr. Lle mae galw mawr am barcio a/neu nifer cyfyngedig o leoedd parcio, mae’r cyfnod a’r tariff parcio yn cael eu pennu’n ofalus er mwyn optimeiddio’r trosiant.

Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro

Oddi ar y Stryd

Mae’r Awdurdod yn rheoli meysydd parcio sy’n cynnig darpariaeth arhosiad byr ac arhosiad hir i’r defnyddiwr. Mae’r taliadau a godir yn unol â Pholisi’r Cyngor.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl yn unol â chanllawiau’r Adran Drafnidiaeth.

Ar y Stryd

Mae’r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar y briffordd gyhoeddus fabwysiedig lle ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny, heb amharu’n ormodol ar draffig sy’n symud. Mae’n darparu ar gyfer amser aros cyfyngedig, pobl anabl, llwytho, tacsis, beiciau modur a phreswylwyr.

Mae wedi datblygu arferion cadarn a theg i reoli ochr y ffordd er mwyn bodloni gofynion cystadleuol y gwahanol ddefnyddwyr. Ni chyflwynwyd unrhyw gyfyngiadau heb fod ganddynt Orchymyn Rheoleiddio Traffig i’w cefnogi.

Ein Gwasanaethau

Parcio Oddi ar y Stryd

Mae gan y Cyngor feysydd parcio sy’n codi tâl ynghyd â rhai nad ydynt yn codi tâl; ceir manylion ar wefan Cyngor Sir Penfro (CSP) www.pembrokeshire.gov.uk. Mae gan CSP 98 maes parcio, ac mae 36 ohonynt yn rhai talu ac arddangos. Mae 18 yn codi tâl drwy gydol y flwyddyn ac mae 14 yn codi tâl tymhorol.

Rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 cyflwynwyd y canlynol

  • 198 Trwydded tymor
  • 86 Trwydded cilfach a neilltuwyd
  • 157 Trwydded Porthladd Dinbych-y-pysgod.

Mae isafswm o 6% o’r lleoedd parcio wedi’u neilltuo ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas. Bu’r Cyngor yn hepgor codi tâl ar ddiwrnodau penodol ym mis Rhagfyr yn y cyfnod cyn y Nadolig ym mhob maes parcio’r Sir lle codir tâl fel arfer.

Ar y Stryd

Ar hyn o bryd, mae 1035 lle parcio amser cyfyngedig, 127 lle ar gyfer person anabl, 33 lle Tacsi, 3 cilfach Bysiau, 28 cilfach Llwytho / Dadlwytho nwyddau, 1 cilfach ambiwlans ac 1 cilfach beiciau modur. O’r cyfanswm o leoedd parcio, mae 636 lle yn weddill ar gyfer Deiliaid Trwydded Preswylydd / Trwydded Busnes.   

Parcio i Breswylwyr

Cyflwynwyd Cynlluniau Parcio i Breswylwyr, lle bo hynny’n ymarferol, ar nifer o strydoedd/lleoliadau ledled y Sir. Ar hyn o bryd, mae 57 cynllun o’r fath ar waith

(ceir rhestr llawn yn Atodiad 1). Gweithredir pob cynllun ar y briffordd gyhoeddus o dan yr un rheoliadau, un drwydded yr eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Mae’r trwyddedau yn ddilys am gyfnod o hyd at 12 mis. Cost y drwydded yw £40.00. Mae trwyddedau ymwelwyr ar gael am gyfnodau hyd at  7 niwrnod ac yn costio £30.00, eto un drwydded yr eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Rhaid cyflwyno prawf o fod yn breswylydd, yswiriant dilys a thystysgrif MOT.

Gweithredir cynllun nad yw’n briffordd, ym Mhorthladd Dinbych-y-pysgod lle cyflwynir un drwydded i bob eiddo nad yw ar gyfer cerbyd penodol. Cost y drwydded yw £200.00. Cynyddwyd y ffi hon ar 1 Mawrth 2018. 

Cyflwynwyd 902 trwydded flynyddol rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 a 58 trwydded ymwelwyr.

Gollyngiadau Parcio

Mae'r Cyngor, o dan rai amgylchiadau, yn caniatáu i gerbyd barcio'n gyfreithlon yn groes i Orchymyn Rheoleiddio Traffig trwy gyflwyno gollyngiad. Gall y Cyngor hefyd wahardd dros dro lleoedd parcio at ddibenion cadw’r lleoedd hynny ar gyfer cerbydau a/neu ymgeiswyr penodol.

Cyflwynir gollyngiadau ar ffurf trwydded dros dro sy’n cynnwys manylion y digwyddiad, rhif cofrestru’r cerbyd, y dyddiad a’r amser y mae’r drwydded i’w defnyddio. Rhaid arddangos y drwydded yn glir yn sgrin wynt flaen y cerbyd cymeradwy.

Cyflwynwyd 265 gollyngiad rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.

Gorfodi Parcio Sifil

Timau Parcio a Gofal Stryd

Mae cyfuno’r gwaith rheoli a gorfodi parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn cynnig manteision gweithredol a chymunedol sylweddol. Ym mis Ebrill 2013 cyfunwyd y tîm Gwasanaethau Parcio a’r tîm Gofal Stryd o dan un rheolwr gweithredol. Mae gan y ddwy adran eu cylch gwaith eu hunain o hyd, fodd bynnag, mae manteision y gwasanaeth cyfunol hwn yn cynnwys:

  • Cydgysylltu’r gwaith gorfodi a rheoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Cydgysylltu gorfodi’r holl faterion sy’n ymwneud â’r briffordd
  • Cydgysylltu’r gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
  • Rheoli a chydgysylltu digwyddiadau sy’n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Cydgysylltu gwaith ar y briffordd gan drydydd parti
  • Rheoli pob gweithgaredd trwyddedig ar y stryd ac oddi ar y stryd
  • Gweithredu polisïau yn fwy effeithiol

Gweithredu Gorfodi Parcio Sifil

Ar hyn o bryd mae Sir Benfro yn cyflogi 13 Swyddog Gorfodi Sifil, 2 Glerc Technegol, 2 Swyddog Gwasanaethau Parcio a Swyddog Gofal Stryd a Gwasanaethau Parcio; maent i gyd yn derbyn cymorth gan y Rheolwr Gofal Stryd a Pharcio; Nid ydynt yn derbyn unrhyw fonws na chymhelliant sy'n gysylltiedig â pherfformiad.   

Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i gerbydau sy’n parcio yn groes i’r cyfyngiadau. Os yw modurwr yn dymuno herio HTC, rhaid iddynt ddilyn y  broses apelio, a fanylir ar gefn y HTC.

Ar ôl gweithredu Gorfodi Parcio Sifil ers mis Chwefror 2011, mae staff y Gwasanaethau Parcio wedi meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o ble a phryd y mae parcio anwahaniaethol yn digwydd. Fodd bynnag, pan fo aelodau o’r cyhoedd yn cael problemau parcio penodol, gallant roi gwybod i’r swyddfa amdanynt. 

Mae’r tîm Gwasanaethau Parcio hefyd yn gyfrifol am reoli’r holl feysydd parcio, peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, Trwyddedau Preswylwyr, Trwyddedau Tymor a Thrwyddedau Neilltuo lle Meysydd Parcio, Gollyngiadau Parcio a Chytundebau Trwyddedu Meysydd Parcio ar gyfer digwyddiadau a chaeadleoedd.

Cefn Swyddfa - Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (WPPP)

Mae cefn swyddfa y WPPP yn parhau i gael ei ddefnyddio i brosesu’r HTC a gyflwynwyd.

Cynhelir cyfarfodydd chwarterol o weithgor swyddogion, gyda chynrychiolwyr o bob Awdurdod Partner i drafod cysondeb gweithredu, rhannu arfer gorau ac ymdrechu i sicrhau arbedion effeithlonrwydd parhaus.

Asiantiaid Gorfodi

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar Asiant Gorfodi i adennill dyledion, sef  Excel, Proserve, Swift ac A J Enforcement. Mae gan bob un ohonynt brofiad sylweddol yn y gwaith hwn ac maent yn darparu gwasanaethau tebyg i gynghorau eraill WPPP a hefyd i’n partneriaid SWWITCH  Cyngor Sir Gâr, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau

Perfformiad Ystadegol 

Mae’r tablau isod yn dangos ystadegau mewn perthynas â’r HTC a gyflwynwyd yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.

HTC – Cynnydd Achosion

Dilyniant Achosion
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd
%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y stryd 7,211  55%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y stryd 5,852  45%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar gyfradd ostyngol 9,277  71%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar ôl 14 diwrnod 1,014  8%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb nas talwyd 153  1.2%
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd (gweler tabl 6.5) 1,301  10%
Cyfanswm nifer y Rybuddion Taliadau Cosb a roddwyd 13,063  -

 

Tramgwyddau Parcio ar y Stryd

Cod
  Disgrifiad 
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd
%
01 Cerbyd sydd wedi parcio ar stryd gyfyngedig yn ystod oriau rhagnodedig 2,144 16.5%
02 Cerbyd sydd wedi parcio, neu sy’n llwytho/dadlwytho, ar stryd gyfyngedig lle mae yna gyfyngiadau mewn grym o ran aros a llwytho/dadlwytho  150 1%
12 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio i breswylwyr neu fan parcio a rennir, a hynny heb arddangos trwydded ar gyfer y man hwnnw mewn modd eglur 1,642 13%
14 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man gwefru cerbydau trydan yn ystod oriau cyfyngedig heb wefru’r cerbyd 0 0%
16 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys 6 0.1%
21 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ataliedig neu ran o fan parcio ataliedig 47 0.3%
23 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio nad yw’n ddynodedig ar gyfer y math hwnnw o gerbyd 345 3%
25 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig, a hynny heb lwytho nwyddau 21 0.1%
26 Cerbyd sydd wedi parcio mwy na 50 cm oddi wrth ymyl cerbytffordd, a hynny heb fod mewn man parcio dynodedig 5 0.1%
27 Cerbyd sydd wedi parcio yn agos at droetffordd isel 365 3%
40 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur 454 4%
45 Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle tacsis 80 0.6%
47 Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle bws dynodedig 38 0.3%
48 Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol 8 0.1%
49 Cerbyd sydd wedi parcio’n llwyr neu’n rhannol ar lwybr beicio 1 0.1%
62 Cerbyd sydd wedi parcio gydag un neu fwy o olwynion ar ran o ffordd heblaw am rhwng dwy gerbytffordd 0 0.0%
63 Cerbyd sydd wedi parcio gyda’r injan yn dal i redeg mewn ardal waharddedig 0 0.0%
99 Cerbyd sydd wedi parcio ar groesfan i gerddwyr neu ardal ag arwyddion igam-ogam 27 0.2%
04 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cynnwys mesurydd pan fo’r gosb amser wedi cael ei nodi 0 0.0%
05 Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano 1 0.1%
06 Cerbyd sydd wedi parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys mewn modd eglur 4 0.1%
24 Cerbyd nad yw wedi parcio mewn modd cywir y tu mewn i farciau man parcio 11 0.1%
30 Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn a ganiateir 1,586 12%

 

Tramgwyddau Parcio oddi ar y Stryd

Cod
Disgrifiad
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd
 %
74 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cael ei ddefnyddio i werthu, gynnig neu dynnu sylw at nwyddau pan fo hynny’n wedi’i wahardd 3 0.1%
80 Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy nag uchafswm yr amser a ganiateir 69 0.5%
81 Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio 46 0.4%
82 Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano 1079 8%
83 Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys, neu gloc parcio, mewn modd eglur 3,505 27%
85 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys 320 2%
86 Cerbyd sydd wedi parcio y tu hwnt i farciau’r man parcio 455 3%
87 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur 209 2%
91 Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio nad yw wedi cael ei ddynodi ar gyfer y math hwnnw o gerbyd 75 1%
94 Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio talu ac arddangos, a hynny heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys pan oedd angen 0 0%
95 Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio am resymau heblaw am ddiben dynodedig y man parcio 38 0.3%

 

Rhybuddion Taliadau Cosb a Ganslwyd

  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd o ganlyniad i gynrychiolaeth ffurfiol: yr Her wedi’i Derbyn: Y Rhybuddion Taliadau Cosb a Roddwyd: 933 (7%)
  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd am resymau eraill (e.e. nid oedd modd olrhain y perchennog, gwall y Swyddog Gorfodi Parcio Sifil (CEO), y DVLA ddim yn gallu darparu manylion: 368 (3%)
  • Y Cyfanswm a Ganslwyd: 1,301 (10%)

Cymariaethau

  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd: 14,187 (2018-19)      13,036 (2019-20)
  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y Stryd 7,504 (2018-19)      7,211 (2019-20)
  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y Stryd 6,683 (2018-19)     5,852 (2019-20)
  • Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd fesul 2050 (2018-19)     1301 (2019-20)

Dyfarniadau a wnaed mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cosbau Traffig

  • Cyfanswm 8 (2018-19)     13 (2019-20)
  • Apeliadau a Wrthodwyd 5 (62.5%) (2018-19)    8 (2019-20)
  • Apeliadau a Dderbyniwyd 3 (2018-19)     1 (2019-20)
  • Heb eu herio 4 (2019-20)

Gwybodaeth Ariannol

Cyfrif Ariannol

Cyflwynir isod ddata ariannol incwm a gwariant a lywodraethir gan Adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

 

Incwm 
2018-19
2019-20
Trwyddedau Parcio i Breswylwyr (yn cynnwys trwyddedau i Breswylwyr ac Ymwelwyr) £45,536 £45,090
Goddefebau Parcio £8,055 £8,789
Taliadau Cosb £427,588 £419,972
Cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol eraill £12,500 £13,000
Cyfanswm yr Incwm £493,679 £486,052

 

Gwariant
2018-19
2019-20
Costau Cyflogeion £271,253 £284,714
Safleoedd £35,904 £30,098
Nwyddau a Gwasanaethau £14,264 £10,702
Cymorth a Rheoli £145,497 £162,236
Taliadau Eraill £70,650 £59,613
Taliadau Cyfalaf £0 £0
Cyfanswm y Gwariant £552,590 £547,363
(Gwarged)/Diffyg £43,888 £61,312

Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgarwch oddi ar y stryd nad yw’n cael ei lywodraethu gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2018/ 2019

Menter

Nodi cynllun hirdymor ar gyfer maes parcio Aml-lawr Hwlffordd

Cynnydd

Gwnaed cynnydd a phennwyd nodau hirdymor. Cynhelir adolygiad ariannol ar hyn o bryd

Menter

Cyflwyno opsiynau i dalu heb ddefnyddio arian parod mewn peiriannau Talu ac Arddangos

Cynnydd

Dechreuwyd y gwaith o’i gyflwyno ym mis Rhagfyr 2019

Menter

Parhau gyda chyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn ein meysydd parcio

Cynnydd

Mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u gosod – mwy i ddod

Menter

Adolygu camerâu gorfodi symudol

Cynnydd

Cyfredol 

Menter

Parhau i adolygu adennill costau’n llawn ar gyfer ein gwasanaeth parcio

Cynnydd

Cyfredol

Menter

Adolygu’r strwythur prisiau presennol ar gyfer Parcio Oddi ar y Stryd

Cynnydd

Adroddiad cabinet dyddiedig 9 Mawrth 2020 - Agenda y Cabinet Ddydd Llun, 9 Mawrth, 2020, 10.00y.b. – Cyngor Sir Penfro

Menter

Datblygu rhaglen gwaith 3 – 5 mlynedd ar gyfer parcio oddi ar y stryd

Cynnydd

Cyfredol

Menter

Sicrhau bod yr holl ddata ynghylch cyflwr ac asedau'r meysydd parcio yn cael ei gasglu a'i ychwanegu at y system AMX

Cynnydd

Cyfredol

Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol

Yn 2020/21 bydd nifer o fentrau yn cael eu hystyried, naill ai’n dilyn gweithgareddau'r llynedd a’r materion a godwyd neu yn ystyried mentrau newydd, fel a ganlyn:

  • Datblygu cynlluniau darparu’r Gyfnewidfa Hwlffordd newydd
  • Adolygu camera symudol ANPR ar gyfer Gorfodi
  • Parhau gyda chyflwyno Talu heb ddefnyddio arian parod
  • Cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Cyflwyno Talu gyda Ffôn symudol am sesiynau parcio
  • Cyflwyno gwelliannau i’r meysydd parcio yn unol â rheoli asedau
  • Parhau i ddatblygu AMX ar gyfer gwasanaethau parcio
  • Parhau i gydweithio â Pharciau Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro mewn perthynas â Gorfodi a rheoli eu lleoedd parcio
  • Adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer Cartrefi Modur

Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir 

Aberllydan

  • Marine Road – yr ochr orllewinol

Dale

  • U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol

Abergwaun

  • Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Coronation Avenue

Hwlffordd

  • Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
  • Albany Terrace – yr ardal barcio
  • Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
  • Cartlett – yr ochr ogleddol
  • Ardal ger Castell y dref
  • North Street – yr ochr orllewinol
  • North Street – yr ochr ddwyreiniol
  • Holloway – yr ochr ogleddol
  • Queens Square – yr ardal ganol
  • Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
  • Merlins Hill – yr ochr ogleddol
  • Hill Street
  • North Crescent – yr ochr orllewinol
  • Winch Crescent – yr ochr ddeheuol

Aberdaugleddau

  • Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Neyland
  • Neyland Hill – yr ochr ddeheuol

Penfro

  • Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Doc Penfro
  • Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
  • Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Gordon Street – yr ochr orllewinol
  • Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol

Dinbych-y-pysgod

  • Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
  • Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
  • Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Weston Terrace – yr ochr orllewinol
  • Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Harries Street – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – yr ochr orllewinol
  • Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
  • Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
  • Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
  • Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
  • Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Picton Terrace – yr ochr orllewinol
  • Queens Parade – yr ochr orllewinol
  • South Cilff Street – yr ochr ogleddol
  • St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
  • St Johns Hill – yr ochr ogleddol
  • St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
  • Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
  • The Croft – yr ochr ddwyreiniol
  • The Norton – yr ochr ddwyreiniol
  • The Paragon – yr ochr ddeheuol
  • Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
  • Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
  • Warren Street – yr ochr ddeheuol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol

Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau) 

Hwlffordd
Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog
Tyddewi
Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol

ID: 8921, adolygwyd 25/10/2023