Parcio yn Sir Benfro
Y adroddiad Gorfodaeth Parcio Sifil 2020-21
Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro
Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau
Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2019 / 2020
Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Rhagarweiniad
Gan y Cynghorydd Phil Baker
Llefarydd y Cabinet dros Seilwaith, Trwyddedu a Digwyddiadau Mawr
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Hwn yw’r Nawfed adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym, yn unol â gofynion Deddf Rheoli Traffig 2004. Ei nod yw darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir Penfro yn cyflawni ei wasanaethau gorfodi parcio a gwasanaethau cysylltiedig.
Yn ystod y cyfnod hwn roeddem i gyd yn ddarostyngedig i newid oherwydd cyfyngiadau COVID. Fel awdurdod a thîm Parcio roeddem yn ddarostyngedig i newidiadau i wasanaethau ac i sut y gwnaethom ddarparu eitemau megis parcio.
Yn 2020 caniatawyd i weithwyr allweddol barcio yn ein meysydd parcio, fel rhan o gynllun trwyddedau Llywodraeth Cymru a ganiataodd i weithwyr allweddol fynediad i’n meysydd parcio yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau heb iddynt orfod talu am barcio.
Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi dechreuom weld pobl yn archwilio ein sir unwaith eto ac o ganlyniad bu galw mawr am ein meysydd parcio yn ystod y tymor brig.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn yr Adran Parcio am y ffordd y gwnaethant gefnogi ein hymateb a’n hadferiad yn sgil COVID yn 2020.
Rydym yn parhau i sicrhau bod gorfodi cyfyngiadau parcio yn dryloyw, yn gyson ac yn deg. Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod didwylledd ac atebolrwydd yn hanfodol er mwyn ennyn cefnogaeth y cyhoedd a thrwy gyhoeddi ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, gobeithiwn y bydd ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’n hymrwymiad i wella’r drefn barcio ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Rydym yn parhau i adolygu ein darpariaeth gwasanaethau ac mae Adrannau 8 a 9 yn nodi ein hamcanion a'n diweddariadau allweddol.
Mae Gwasanaethau Parcio hefyd yn integreiddio â phrosiectau cyflawni strategol allweddol eraill yr ydym ni, fel awdurdod, yn eu cyflawni. Yr wyf yn falch o weld ein bod yn symud ymlaen gyda Chyfnewidfa newydd yn Hwlffordd fydd yn cychwyn tua mis Mawrth 2022.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, gadewch i ni wybod drwy ffonio 01437 764551 neu e-bostio parking@pembrokeshire.gov.uk.
Strategaeth a Pholisi
Cefndir
Mae Gweledigaeth Strategol y Cyngor yn pwysleisio hyrwyddo amgylchedd sy’n ddeniadol, yn lân ac yn iach ac mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cydnabod bod rheoli traffig yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau defnydd diogel, effeithiol a rhesymol o’r briffordd.
Polisi Codi tâl
- Yr angen i annog masnach adwerthu;
- Yr angen i reoli traffig, gan gynnwys parcio ar y stryd a llif traffig;
- Yr angen i reoli’r galw yn effeithiol;
- Natur y lleoliad parcio a’i ddefnyddwyr, h.y. siopwr trefol/busnes, preswyl, siopwr tref gwledig, traeth/ymwelydd;
- Cymharu â darparwyr eraill yr ardal;
- Yr angen i annog defnyddio dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus;
- Nid yw’r codi tâl at ddibenion creu incwm yn unig;
- Ystyried darpariaeth gyffredinol y gyllideb refeniw (gwariant ac incwm) ar gyfer meysydd parcio;
- Rhagdybiaeth o blaid ariannu gwelliannau drwy gynyddu’r tariff.
Caiff yr egwyddorion hyn eu gweithredu’n gyson, sy’n arwain at wahaniaeth yn swm y tâl a godir o le i le.
Rheoli'r Galw
Mae’r taliadau a godir am barcio wedi cael eu hystyried fesul lleoliad. Mae’r taliadau a godir am barcio yn Sir Benfro wedi’u pennu er mwyn annog siopwyr a fydd yn debygol o angen lleoedd parcio arhosiad byr. Lle mae galw mawr am barcio a/neu nifer cyfyngedig o leoedd parcio, mae’r cyfnod a’r tariff parcio yn cael eu pennu’n ofalus er mwyn optimeiddio’r trosiant.
Darpariaeth Parcio yn Sir Benfro
Oddi ar y Stryd
Mae’r Awdurdod yn rheoli meysydd parcio sy’n cynnig darpariaeth arhosiad byr ac arhosiad hir i’r defnyddiwr. Mae’r taliadau a godir yn unol â Pholisi’r Cyngor.
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl yn unol â chanllawiau Yr Adran Drafnidiaeth
Ar y Stryd
Mae’r Awdurdod yn darparu cyfleusterau parcio ar y stryd ar y briffordd gyhoeddus fabwysiedig lle ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny, heb amharu’n ormodol ar draffig sy’n symud. Mae’n darparu ar gyfer amser aros cyfyngedig, pobl anabl, llwytho, tacsis, beiciau modur a phreswylwyr.
Mae wedi datblygu arferion cadarn a theg i reoli ochr y ffordd er mwyn bodloni gofynion cystadleuol y gwahanol ddefnyddwyr. Ni chyflwynwyd unrhyw gyfyngiadau heb fod ganddynt Orchymyn Rheoleiddio Traffig i’w cefnogi.
Ein Gwasanaethau
Parcio Oddi ar y Stryd
Mae gan y Cyngor feysydd parcio sy’n codi tâl ynghyd â rhai nad sy’n codi tâl; ceir manylion ar wefan Cyngor Sir Penfro (CSP) www.pembrokeshire.gov.uk. Mae gan CSP 98 maes parcio, ac mae 36 ohonynt yn rhai Talu ac Arddangos. Mae 18 yn codi tâl trwy gydol y flwyddyn ac mae 14 yn codi tâl tymhorol.
Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 cyflwynwyd y canlynol
- 170 Trwydded tymor
- 87 Trwydded cilfach a neilltuwyd
- 174 Trwydded Porthladd Dinbych-y-pysgod
Mae isafswm 6% o’r lleoedd parcio wedi’u neilltuo ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas. Bu’r Cyngor yn hepgor codi tâl ar ddiwrnodau penodol ym mis Rhagfyr yn y cyfnod cyn y Nadolig ym mhob maes parcio y Sir lle codir tâl fel arfer.
Ar y Stryd
Ar hyn o bryd, mae 1035 lle parcio amser cyfyngedig, 127 lle ar gyfer person anabl, 33 lle Tacsi, 3 cilfach Bysiau, 28 cilfach Llwytho / Dadlwytho nwyddau, 1 cilfach ambiwlans ac 1 cilfach beiciau modur. O’r cyfanswm leoedd parcio, mae 636 lle yn weddill ar gyfer Deiliaid Trwydded Preswylydd / Trwydded Busnes.
Parcio i Breswylwyr
Cyflwynwyd Cynlluniau Parcio i Breswylwyr, lle bo hynny’n ymarferol, ar nifer o strydoedd/lleoliadau ledled y Sir. Ar hyn o bryd, mae 57 cynllun o’r fath ar waith
(ceir rhestr lawn yn Atodiad 1). Gweithredir pob cynllun ar y briffordd gyhoeddus o dan yr un rheoliadau, un drwydded yr eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Mae’r trwyddedau yn ddilys am gyfnod o hyd at 12 mis. Cost y drwydded yw £40.00. Mae trwyddedau ymwelwyr ar gael am gyfnodau hyd at 7 niwrnod ac yn costio £40.00, eto un drwydded yr eiddo ar gyfer cerbyd penodol. Rhaid cyflwyno prawf o fod yn breswylydd, yswiriant dilys a thystysgrif MOT.
Gweithredir cynllun nid yw’n briffordd ym mhorthladd Dinbych-y-pysgod lle rhoddir un drwydded i bob eiddo nad yw’n benodol i gerbyd. Cost y drwydded yw £200.00, cynyddwyd y ffi hon 1 Mawrth 2018.
Cyflwynwyd 887 trwydded flynyddol rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 a 46 trwydded ymwelwyr.
Gollyngiadau Parcio
Mae'r Cyngor, o dan rai amgylchiadau, yn caniatáu i gerbyd barcio'n gyfreithlon yn groes i Orchymyn Rheoleiddio Traffig drwy gyflwyno gollyngiad. Gall y Cyngor hefyd wahardd dros dro lleoedd parcio at ddibenion cadw’r lleoedd hynny ar gyfer cerbydau a/neu ymgeiswyr penodol.
Cyflwynir gollyngiadau ar ffurf trwydded dros dro sy’n cynnwys manylion y digwyddiad, rhif cofrestru’r cerbyd, ynghyd â’r dyddiad a’r amser y mae’r drwydded i’w defnyddio. Rhaid arddangos y drwydded yn glir yn sgrin wynt flaen y cerbyd cymeradwy.
Cyflwynwyd 197 gollyngiad rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.
Gorfodi Parcio Sifil
Tîmau Parcio a Gofal Stryd
Mae cyfuno’r gwaith rheoli a gorfodi parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn cynnig manteision gweithredol a chymunedol sylweddol. Ym mis Ebrill 2013 cyfunwyd y tîm Gwasanaethau Parcio a’r tîm Gofal Stryd o dan un rheolwr gweithredol. Mae gan y ddwy adran eu cylch gwaith eu hunain o hyd, fodd bynnag, mae manteision y gwasanaeth cyfunol hwn yn cynnwys:
- Cydgysylltu’r gwaith gorfodi a rheoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydgysylltu gorfodi’r holl faterion sy’n ymwneud â’r briffordd
- Cydgysylltu’r gweithgareddau ar y rhwydwaith priffyrdd
- Rheoli a chydgysylltu digwyddiadau sy’n effeithio ar weithgareddau ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Cydgysylltu gwaith ar y briffordd gan drydydd parti
- Rheoli pob gweithgaredd trwyddedig ar y stryd ac oddi ar y stryd
- Gweithredu polisïau yn fwy effeithiol
Gweithredu Gorfodi Parcio Sifil
Ar hyn o bryd mae Sir Benfro yn cyflogi 13 Swyddog Gorfodi Sifil, 2 Glerc Technegol, 1 Swyddog Gwasanaethau Parcio a Gofal Stryd a 2 Swyddog Gwasanaethau Parcio; maent i gyd yn derbyn cymorth gan y Rheolwr Gofal Stryd a Pharcio. Nid ydynt yn derbyn unrhyw fonws na chymhelliant sy'n gysylltiedig â pherfformiad.
Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i gerbydau sy’n parcio yn groes i’r cyfyngiadau. Os yw modurwr yn dymuno herio HTC, rhaid iddynt ddilyn y broses apelio, a fanylir ar gefn y HTC.
Ar ôl gweithredu Gorfodi Parcio Sifil ers mis Chwefror 2011, mae staff y Gwasanaethau Parcio wedi meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o ble a phryd y mae parcio anwahaniaethol yn digwydd. Fodd bynnag, pan fo aelodau o’r cyhoedd yn cael problemau parcio penodol gallant roi gwybod i’r swyddfa amdanynt.
Mae’r tîm Gwasanaethau Parcio hefyd yn gyfrifol am reoli’r holl feysydd parcio, peiriannau Talu ac Arddangos, materion ariannol, Trwyddedau Preswylwyr, Trwyddedau Tymor a Thrwyddedau Neilltuo lle Meysydd Parcio, Gollyngiadau Parcio a Chytundebau Trwyddedu Meysydd Parcio ar gyfer digwyddiadau a chaeadleoedd.
Cefn Swyddfa - Partneriaeth Prosesu Cymru (WPPP)
Mae cefn swyddfa y WPPP yn parhau i gael ei ddefnyddio i brosesu’r HTC a gyflwynwyd.
Cynhelir cyfarfodydd chwarterol o weithgor swyddogion, gyda chynrychiolwyr o bob Awdurdod Partner i drafod cysondeb gweithredu, rhannu arfer gorau ac ymdrechu i sicrhau arbedion effeithlonrwydd parhaus.
Asiantiaid Gorfodi
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaethau pedwar Asiant Gorfodi i adennill dyledion, sef Excel, Proserve, Swift ac A J Enforcement. Mae gan bob un ohonynt brofiad sylweddol yn y gwaith hwn ac maent yn darparu gwasanaethau tebyg i gynghorau eraill WPPP a hefyd i’n partneriaid SWWITCH Cyngor Sir Gâr, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Cyflawni Perfformiad ac Ystadegau
Perfformiad Ystadegol
Mae’r tablau isod yn dangos ystadegau mewn perthynas â HTC a gyflwynwyd yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.
HTC - Cynnydd Achosion
Dilyniant Achosion |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y stryd | 3,762 | 62% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y stryd | 2,316 | 38% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar gyfradd ostyngol | 4,375 | 72% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a dalwyd ar ôl 14 diwrnod | 568 | 9% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb nas talwyd | 572 | 9% |
Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd (gweler tabl 6.5) | 610 | 10% |
Cyfanswm nifer y Rybuddion Taliadau Cosb a roddwyd | 6078 | - |
Tramgwyddau Parcio ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|---|
01 | Cerbyd sydd wedi parcio ar stryd gyfyngedig yn ystod oriau rhagnodedig | 1,108 | 18% |
02 | Cerbyd sydd wedi parcio, neu sy’n llwytho/dadlwytho, ar stryd gyfyngedig lle mae yna gyfyngiadau mewn grym o ran aros a llwytho/dadlwytho | 64 | 1% |
12 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio i breswylwyr neu fan parcio a rennir, a hynny heb arddangos trwydded ar gyfer y man hwnnw mewn modd eglur | 991 | 16% |
14 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man gwefru cerbydau trydan yn ystod oriau cyfyngedig heb wefru’r cerbyd | 0 | 0% |
16 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys | 8 | 0.1% |
21 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ataliedig neu ran o fan parcio ataliedig | 34 | 0.5% |
23 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio nad yw’n ddynodedig ar gyfer y math hwnnw o gerbyd | 105 | 2% |
25 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig, a hynny heb lwytho nwyddau | 35 | 2% |
26 | Cerbyd sydd wedi parcio mwy na 50 cm oddi wrth ymyl cerbytffordd, a hynny heb fod mewn man parcio dynodedig | 2 | 0% |
27 | Cerbyd sydd wedi parcio yn agos at droetffordd isel | 104 | 2% |
40 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur | 249 | 4% |
45 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle tacsis | 17 | 0.3% |
47 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn safle bws dynodedig | 19 | 0.3% |
48 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol | 2 | 0% |
49 | Cerbyd sydd wedi parcio’n llwyr neu’n rhannol ar lwybr beicio | 0 | 0% |
62 | Cerbyd sydd wedi parcio gydag un neu fwy o olwynion ar ran o ffordd heblaw am rhwng dwy gerbytffordd | 0 | 0.0% |
63 | Cerbyd sydd wedi parcio gyda’r injan yn dal i redeg mewn ardal waharddedig | 0 | 0.0% |
99 | Cerbyd sydd wedi parcio ar groesfan i gerddwyr neu ardal ag arwyddion igam-ogam | 4 | 0% |
04 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cynnwys mesurydd pan fo’r gosb amser wedi cael ei nodi | 0 | 0% |
05 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano | 0 | 0% |
06 | Cerbyd sydd wedi parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys mewn modd eglur | 2 | 0% |
24 | Cerbyd nad yw wedi parcio mewn modd cywir y tu mewn i farciau man parcio | 12 | 0.2% |
30 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn a ganiateir | 852 | 14% |
Tramgwyddau Parcio oddi ar y Stryd
Cod |
Disgrifiad |
Y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd |
% |
---|---|---|---|
74 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio sy’n cael ei ddefnyddio i werthu, gynnig neu dynnu sylw at nwyddau pan fo hynny’n wedi’i wahardd | 2 | 0% |
80 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy nag uchafswm yr amser a ganiateir | 18 | 0.3% |
81 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio | 28 | 0.5% |
82 | Cerbyd sydd wedi parcio am gyfnod hwy na’r hyn y talwyd amdano | 267 | 4% |
83 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos ddilys, neu gloc parcio, mewn modd eglur | 1,499 | 25% |
85 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer cerbydau â thrwydded, a hynny heb arddangos trwydded ddilys | 111 | 2% |
86 | Cerbyd sydd wedi parcio y tu hwnt i farciau’r man parcio | 102 | 1.7% |
87 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio ar gyfer pobl anabl, a hynny heb arddangos bathodyn dilys ar gyfer pobl anabl mewn modd eglur | 71 | 2% |
91 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio nad yw wedi cael ei ddynodi ar gyfer y math hwnnw o gerbyd | 65 | 2% |
94 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn maes parcio talu ac arddangos, a hynny heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys pan oedd angen | 0 | 0% |
95 | Cerbyd sydd wedi parcio mewn man parcio am resymau heblaw am ddiben dynodedig y man parcio | 119 | 2% |
Rhybuddion Taliadau Cosb a Ganslwyd
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd o ganlyniad i gynrychiolaeth ffurfiol: yr Her wedi’i Derbyn: Y Rhybuddion Taliadau Cosb a Roddwyd: 420 (7%)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd am resymau eraill (e.e. nid oedd modd olrhain y perchennog, gwall y Swyddog Gorfodi Parcio Sifil (CEO), y DVLA ddim yn gallu darparu manylion: 190 (3%)
- Y Cyfanswm a Ganslwyd: 610 (10%)
Cymariaethau
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd: 13,063 (2019-20) 6078 (2021-22)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd ar y Stryd 7,211 (2019-20) 3,762 (2021-22)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a roddwyd oddi ar y Stryd 5,582 (2019-20) 2,316 (2021-22)
- Nifer y Rhybuddion Taliadau Cosb a ganslwyd fesul 1301 (2019-20) 610 (2021-22)
Dyfarniadau a wnaed mewn gwrandawiad Tribiwnlys Cosbau Traffig
- Cyfanswm 13 (2019-20) 7 (2020-21)
- Apeliadau a Wrthodwyd 8 (2019-20) 4 (2020-21)
- Apeliadau a Dderbyniwyd 1 (2019-20) 2 (2020-21)
- Heb eu Herio 4 (2019-20) 1 (2020-21)
Gwybodaeth Ariannol
Cyfrif Ariannol
Cyflwynir isod ddata ariannol incwm a gwariant a lywodraethir gan Adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Incwm |
2019-20 |
2020-21 |
---|---|---|
Trwyddedau Parcio i Breswylwyr (yn cynnwys trwyddedau i Breswylwyr ac Ymwelwyr) | £45,090 | £48,189 |
Goddefebau Parcio | £8,789 | £6,255 |
Taliadau Cosb | £419,172 | £437,939 |
Cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol eraill | £13,000 | £7,600 |
Cyfanswm yr Incwm | £486,052 | £499,983 |
Gwariant |
2019-20 |
2020-21 |
---|---|---|
Costau Cyflogeion | £284,714 | £218,412 |
Safleoedd | £30,098 | £49,619 |
Nwyddau a Gwasanaethau | £10,702 | £6,078 |
Cymorth a Rheoli | £162,236 | £159,752 |
Taliadau Eraill | £59,613 | £44,057 |
Taliadau Cyfalaf | £0 | £0 |
Cyfanswm y Gwariant | £547,363 | £477, 918 |
(Gwarged)/Diffyg | (£61,312) | (-£22,064) |
Nodyn: Ffigurau 2020/21 wedi'u diwygio 1 Hydref 2022
Nid yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir ar gyfer yr adroddiad hwn yn cynnwys y gweithgarwch oddi ar y stryd nad yw’n cael ei lywodraethu gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Y wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau 2019 / 2020
Menter
Adolygu camera symudol ANPR ar gyfer Gorfodi
Cynnydd
Bydd Gweithgor Parcio yn cael ei sefydlu, ac yn cyfarfod bob chwarter, i adolygu gweithrediadau gwasanaethau parcio. Bydd y gweithgor yn cynnwys swyddogion a Chynghorwyr Sir etholedig
Menter
Datblygu cynlluniau darparu’r Gyfnewidfa Hwlffordd newydd
Cynnydd
Mae hwn ar y gweill gyda chynlluniau i’w cyflwyno ym mis Mawrth 2022
Menter
Cyflwyno opsiynau talu heb ddefnyddio arian parod ar gyfer peiriannau Talu ac Arddangos
Cynnydd
Cyfredol – Mae trafferthion gyda’r rhwydwaith wedi achosi oedi cyn gallu gweithredu’n gyfan gwbl heb ddefnyddio arian parod – mae opsiynau talu heb ddefnyddio arian parod ar gael nawr ledled y sir
Menter
Cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ein meysydd parcio
Cynnydd
Mae safleoedd ychwanegol bellach wedi'u hychwanegu
Menter
Cyflwyno Talu gyda Ffôn symudol am sesiynau parcio
Cynnydd
Cyflwynwyd opsiwn Talu gyda Ffôn symudol ym mis Mawrth 2021
Menter
Datblygu’r cynllun Rheoli Asedau Parcio trwy ddefnyddio’r feddalwedd AMX
Cynnydd
Cyfredol
Menter
Parhau i gydweithio â Pharciau Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro mewn perthynas â Gorfodi a rheoli eu lleoedd parcio
Cynnydd
Rydym yn parhau i orfodi ym meysydd parcio Parciau Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r ffigyrau HTC blynyddol yn cynnwys meysydd parcio Parciau Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
Menter
Cyflwyno gwelliannau i’r meysydd parcio yn unol â rheoli asedau
Cynnydd
Cyfredol
Menter
Adolygu’r Ddarpariaeth ar gyfer Cartrefi Modur
Cynnydd
Trafodaeth gyfredol ynghylch darpariaeth Cartrefi Modur mewn perthynas â gwersylla dros nos
Datblygiadau a Mentrau yn y dyfodol
Yn 2021/22 bydd nifer o fentrau yn cael eu hystyried, naill ai’n dilyn gweithgareddau'r llynedd a’r materion a godwyd neu yn ystyried mentrau newydd, fel a ganlyn:
- Parhau gyda’r gwaith o gyflwyno Cyfnewidfa newydd ar gyfer maes parcio Aml-lawr Hwlffordd
- Cwblhau’r gwaith o gyflwyno opsiynau talu heb ddefnyddio arian parod ar gyfer peiriannau Talu ac Arddangos
- Parhau i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ein meysydd parcio
- Rheoli’r galw am wyliau gartref
- Adolygu camerâu gorfodi symudol
- Parhau i adolygu adennill costau’n llawn ar gyfer Gwasanaethau Parcio
- Adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer Cartrefi Modur a gwersylla dros nos
- Adolygu Gorchmynion Oddi ar y Stryd yn unol â gweledigaeth strategol yr awdurdodau
Atodiad 1: Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Chyfleusterau Parcio a Rennir
Aberllydan
- Marine Road – yr ochr orllewinol
Dale
- U6006 Dale Fort Road – yr ochr ddwyreiniol
Abergwaun
- Wallis Street – yr ochr ddwyreiniol
- Coronation Avenue
Hwlffordd
- Bush Row – yr ochr ddwyreiniol
- Albany Terrace – yr ardal barcio
- Cambrian Place – yr ochr ddwyreiniol
- Cartlett – yr ochr ogleddol
- Ardal ger Castell y dref
- North Street – yr ochr orllewinol
- North Street – yr ochr ddwyreiniol
- Holloway – yr ochr ogleddol
- Queens Square – yr ardal ganol
- Crowhill – yr ochr ddwyreiniol
- Merlins Hill – yr ochr ogleddol
- Hill Street
- North Crescent – yr ochr orllewinol
- Winch Crescent – yr ochr ddeheuol
Aberdaugleddau
- Stryd Robert – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Neyland
- Neyland Hill – yr ochr ddeheuol
Penfro
- Woodbine Terrace – yr ochr ddeheuol
- Doc Penfro
- Apley Terrace – yr ochr ddeheuol
- Bush Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Church Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Gordon Street – yr ochr orllewinol
- Gwyther Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Pembroke Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Laws Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Upper Meyrick Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
Dinbych-y-pysgod
- Augustus Place (yn gwasanaethu 1-10 a 11-18)
- Clareston Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol
- Culver Park – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Greenhill Avenue – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Weston Terrace – yr ochr orllewinol
- Harding Street – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Harries Street – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – yr ochr orllewinol
- Heywood Court – rhifau 74-85 yr ochr ogleddol, rhifau 48-64 yr ochr ddeheuol
- Stryd y Broga Isaf – yr ochr ddwyreiniol
- Park Place – yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol
- Edward Street – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Park Terrace – yr ochr dde-ddwyreiniol
- Penelly Road – yr ochr ddwyreiniol
- Picton Road – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Picton Terrace – yr ochr orllewinol
- Queens Parade – yr ochr orllewinol
- South Cilff Street – yr ochr ogleddol
- St Florence Parade – yr ochr ddwyreiniol
- St Johns Hill – yr ochr ogleddol
- St Julian’s Street – yr ochr ogledd-orllewinol
- Sutton Street – yr ochr ddwyreiniol
- The Croft – yr ochr ddwyreiniol
- The Norton – yr ochr ddwyreiniol
- The Paragon – yr ochr ddeheuol
- Trafalgar Road – yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr dde-ddwyreiniol
- Victoria Street – yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol
- Warren Street – yr ochr ddeheuol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Doc Penfro
Meyrick Street – yr ochr orllewinol
Man Parcio a Rennir (Cyfyngiad Aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr, 8am-6pm/Deiliaid trwyddedau)
Hwlffordd
Holloway – yr ochr ogleddol
North Street – yr ochr ddwyreiniol
Queens Square – yr ardal ganolog
Tyddewi
Stryd Newydd – yr ochr ddwyreiniol