Perfformiad ac Ystadegau

Dyma'r hyn yr ydym yn ei wneud:

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr.

Rydym ni:

  • Yn gwasanaethu poblogaeth o tua 124,000 o bobl   
  • Yn casglu sbwriel ac ailgylchu o dros 64,000 o aelwydydd
  • Yn cynnal tua 2,500km o ffyrdd, 610km o droedffyrdd ac 820 o bontydd 
  • Yn darparu dros 8,000 oddi ar y lle parcio ar y stryd a chydlynu dros 6,500 o weithiau ar y briffordd  
  • Yn gyfrifol am 61 o ysgolion, gan ddarparu addysg i dros 17,226 o ddisgyblion
  • Yn darparu cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; gwasanaethau gwarchod plant, diogelu a gwasanaethau ieuenctid
  • Yn berchen ar, ac yn rheoli dros 5,700 o gartrefi
  • Yn darparu gwybodaeth a chyngor i oedolion i'w helpu nhw i fyw'n annibynnol yn y gymuned, yn ogystal â chymorth uniongyrchol i dros 5,000 o oedolion sy'n agored i niwed
  • Yn datblygu Cynllun Datblygu Lleol a'i adolygu bob pedair blynedd, ac yn prosesu oddeutu 1,200 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn
  • Yn darparu ystod eang o wasanaethau diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu
  • Yn helpu i gynnal traethau arobryn Sir Benfro, sy'n ymfalchïo mewn 10 Baner Las a 7 Gwobr Arfordir Gwyrdd
  • Yn rheoli cyfleusterau hamdden y sir, ynghyd â'r llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai
ID: 462, adolygwyd 11/01/2023