Perfformiad ac Ystadegau

Asesiad o Berfformiad y Panel

Mae adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu i banel allanol gynnal asesiad o berfformiad y panel o leiaf unwaith ym mhob cylch etholiadol. 

Mae asesiad o berfformiad y panel yn asesiad annibynnol ar lefel sefydliadol a gynhelir gan gymheiriaid arbenigol, wedi’i gynllunio i gynorthwyo cynghorau i chwilio’n weithredol am her a sicrwydd allanol, a chroesawu gwahanol safbwyntiau ynghylch sut y maent yn perfformio, a lle gallant wella. 

Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro ei asesiad cyntaf o berfformiad y panel ym mis Hydref 2025.

Yr adroddiad terfynol ac argymhellion y panel:

Ymateb a chynllun gweithredu’r cyngor i adroddiad ac argymhellion y panel:

ID: 15032, adolygwyd 26/03/2026